Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru i ddarparu lleoliadau interniaeth wedi'u hariannu'n llawn i'w graddedigion. Gobeithiwn, gyda'ch cyfranogiad, y bydd hyn yn creu cyfle i fusnesau fanteisio ar sgiliau graddedigion Prifysgol Bangor, gan roi cyfle iddynt ennill profiad sydd wir ei angen arnynt, a chael swydd raddedig
Beth yw'r Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion?
Mae ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion yn cynnig mynediad i raddedigion o 2020, 2021 a 2022 at brofiad gwaith a chefnogaeth gyda chyflogadwyedd o ganlyniad i’r farchnad gyfnewidiol yn dilyn y Pandemig, gyda’r bwriad o ddod â nhw yn nes at y farchnad lafur i raddedigion.
Trwy gofrestru ar ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion, mae ein graddedigion eisoes yn mynd y tu hwnt i hynny i wella eu sgiliau cyflogadwyedd trwy gymryd rhan yn ein rhaglen llwybrau graddedigion, derbyn arweiniad gyrfa 1:1 a mynd i’n gweithdai sgiliau.
Mae gan ein graddedigion eisoes lu o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys datrys problemau, TG, cyflwyno, a sgiliau rhyngbersonol, yn ogystal â sgiliau technegol cyfoes o'u harbenigedd gradd.Pwy all gymryd rhan?
- Sefydliadau sydd wedi'u cofrestru a'u lleoli yng Nghymru.
- Mae sefydliadau cymwys yn cynnwys busnesau newydd, unig fasnachwyr, a phartneriaethau o bob sector.
Yr hyn y gallwn ei gynnig
Cronfa dalentau | |
Mynediad at gronfa o raddedigion dawnus o amrywiol ddisgyblaethau, sy’n barod i ymgymryd ag interniaeth a chefnogi eich busnes i dyfu i'r lefel nesaf.
|
Hyblygrwydd | |
Gallwn gynnig lleoliadau llawn amser, rhan amser ar y safle ac yn rhithiol i ddiwallu anghenion eich busnes.
|
Cefnogaeth ariannol | |
Mae ein holl interniaethau yn cael eu hariannu'n llawn hyd at uchafswm o 420 awr, neu 12 wythnos, 35 awr yr wythnos ar gyfradd tâl o £10.90 yr awr. |
Sut mae'n gweithio?
1. Recriwtio
Gallwn eich cefnogi gyda'ch recriwtio drwy hysbysebu'r swyddi gyda'n cronfa o raddedigion, neu gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â graddedigion penodol sy'n berthnasol i'ch swydd yn ein barn ni. Bydd graddedigion yn gwneud cais uniongyrchol am eich swydd wag, i chi wedyn greu rhestr fer a chyfweld. Gall y lleoliad fod naill ai ar y safle neu'n rithiol, ond rhaid i chi fod yn fusnes sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru.
2. Ar ôl gwneud cynnig
Ar ôl i chi wneud cynnig am interniaeth, dylech ddilyn eich proses Adnoddau Dynol arferol i gyda’ch gweithiwr newydd. Dylai'r gwaith dros dro fod am o leiaf 100 awr hyd at uchafswm o 350 awr, gan dalu £10.90 yr awr. Fel cyflogwr yr intern, eich cyfrifoldeb chi fydd rheoliadau arferol treth, yswiriant gwladol, gwyliau a thâl salwch.
3. Anfoneb
Ar ôl i'n gwaith papur gael ei lofnodi, byddwch yn ein hanfonebu am yr oriau a weithiwyd (uchafswm 350) a byddwn ni yn talu pan fydd y myfyriwr graddedig yn cwblhau eu lleoliad.
Beth nesaf?
Os hoffech gynnig lleoliad gwaith, cofrestrwch eich diddordeb yma: YMA neu e-bostiwch cefnogaethiraddedigion@bangor.ac.uk.