Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Cyflogwyr Cymhwysedd DigwyddiadauYdych chi wedi graddio, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau chwilio am swydd? Ydych chi’n brin o hyder wrth wneud ceisiadau am swyddi neu fynd i gyfweliadau? Neu efallai eich bod yn gweld y farchnad swyddi yn rhy gystadleuol o ganlyniad i bandemig Covid-19? Gall ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion helpu!
Beth yw'r Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion?
Mae ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion yn cynnig ystod o gefnogaeth i raddedigion a allai fod yn profi rhwystrau rhag cael gwaith. Mae gennym amrywiaeth o offer, adnoddau a chyfleoedd profiad gwaith i helpu i ddatblygu eich gyrfa a'ch lles yn y byd ôl-bandemig.
Pwy all gymryd rhan?
Mae ein Rhaglen yn agored i raddedigion 2020, 2021 a 2022.
Beth allwn ei gynnig
Rhaglen Cyflogadwyedd a Sgiliau | |
Cyfres o ddigwyddiadau, gweminarau a chyfleoedd rhwydweithio i roi'r hyder a'r offer i chi guro'r gystadleuaeth a llwyddo i gael eich swydd ddelfrydol. |
Cyfleoedd Gwaith a Lleoliadau | |
Enillwch brofiad trwy leoliadau gwaith, cael eich hysbysu am gyfleoedd gwaith a chael cyfle i gymryd rhan mewn heriau diwydiant i ddatblygu eich syniadau busnes eich hunain. |
Cyngor a Chefnogaeth Un-i-Un | |
Cyngor un-i-un ar yrfaoedd gan ein Hymgynghorwyr Gyrfaoedd cymwysedig proffesiynol i sicrhau bod eich CV a'ch technegau cyfweliad yn berffaith. |
Cefnogaeth Ariannol | |
Cefnogaeth ariannol ar gyfer hyfforddiant ychwanegol neu i dalu costau teithio i'ch cefnogi i fyd gwaith neu i wella'ch sgiliau. |
Beth nesaf?
Os hoffech fanteisio ar ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion, cofrestrwch eich diddordeb .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, anfonwch e-bost atom yn cefnogigraddedigion@bangor.ac.uk
Gallwch hefyd wylio ein fideo - Adnoddau i Raddedigion
Wedi'i ddiweddaru Awst 2022