Professor Gerwyn Wiliams
Athro Emeritws (Ysgol y Gymraeg)
Rhagolwg
Bywgraffiad
Un o Bwllheli yn yr hen Sir Gaernarfon yw Gerwyn Wiliams yn enedigol a mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn ac Ysgol Uwchradd y Trallwng, Sir Drefaldwyn cyn mynd i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle y graddiodd yn y Gymraeg. Ar ôl ennill ei ddoethuriaeth dan gyfarwyddyd Yr Athro John Rowlands, bu’n gweithio am gyfnod byr fel Is-Olygydd i’r cylchgrawn misol Barn cyn ei benodi’n Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1989. Bu’n Is-Gyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg (1996-98), yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithas (2000-02) ac yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Dyniaethau a’r Celfyddydau (2005-06). Fe’i dyrchafwyd i Gadair Bersonol yn Nhachwedd 2005.
Ymchwil
Cyhoeddwyd ffrwyth ei ymchwil i lenyddiaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf mewn dwy gyfrol: Y Rhwyg: Arolwg o Farddoniaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf (1993) a Tir Neb: Rhyddiaith Gymraeg a’r Rhyfel Byd Cyntaf (1996). Enwyd TirNeb yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1997 a dyfarnwyd i’r gyfrol Wobr Goffa Ellis Griffith a Buddged Mrs L. W. Davies gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1998. Datblygodd ei ddiddordeb yn y berthynas rhwng llenyddiaeth a rhyfel yn arbenigedd academaidd: yn 2005 cyhoeddodd Tir Newydd: Agweddau ar Lenyddiaeth Gymraeg a’r Ail Ryfel Byd ac yn 2006 cyhoeddodd ‘Cofio Rhyfel Anghofiedig: Dehongli a Chyd-destunoli Rhyfel y Falklands/Malvinas 1982’ yn Cof Cenedl XXI.
Creadigol
Daeth i’r amlwg yn ifanc fel bardd: enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd gyda dau gasgliad o gerddi, Tynnu Gwaed (1983) a Colli Cyswllt (1984) a chyhoeddodd dair cyfrol arall o gerddi sef Rhwng y Cŵn a’r Brain (1988), Cydio’n Dynn (1997) a Tafarn Tawelwch(2003). Yn y dilyniant o gerddi ‘Dolenni’ a enillodd iddo Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994 fe’i gwelir yn ymateb yn greadigol i’w ddiddordeb mewn llenyddiaeth a rhyfel gyda cherddi am Ryfel Fiet-nam, Rhyfel y Gwlff a’r gwrthdaro yn Bosnia a Serbia. Cyrhaeddodd ei gyfrol Rhwng Gwibdaith a Coldplay (2011) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2012.
Gwybodaeth Cyswllt
Addysgu ac Arolygiaeth
Llên Gyfoes (Lefel 1): CXC-1016
Llên a Llun (Lefel 1: Ail Iaith): CXC-1008
Gweithdy Creadigol (Lefel 1): CXC-1018
Gweithdy Barddoniaeth (Lefel 2 a 3): CXC-2118 / CXC-3018
Barddoniaeth Fodern (Lefel 2 a 3): CXC-2107 / CXC-3007
Llenyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf (Lefel 2 a 3): CXC-2113 / CXC-3013
Traethawd Estynedig (Lefel 3): CXC-3009
Diddordebau Ymchwil
Llenyddiaeth a rhyfel; ffuglen Gymraeg fodern, yn enwedig y nofel; barddoniaeth Gymraeg gyfoes; ysgrifennu creadigol.
Cyhoeddiadau
2020
- CyhoeddwydCynan: Drama Bywyd Albert Evans Jones (1895-1970)
Wiliams, G., 22 Hyd 2020, Talybont: Y Lolfa. 504 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr - Cyhoeddwyd'Fforio'r Terra Incognito': Adolygu gyrfa lenyddol y diweddar Siôn Eirian
Wiliams, G., 1 Awst 2020, Yn: Barn. Awst 2020, 691, t. 33-35 3 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2019
- CyhoeddwydBedd Hugh Emyr Davies
Wiliams, G., 2019, historypoints.org.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall - CyhoeddwydBeddi Ynys Tysilio, Porthaethwy
Wiliams, G., 2019
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall - CyhoeddwydBro Helen Rowlands, Menai Bridge
Owen, H. W. & Wiliams, G., 2019, historypoints.org.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall - CyhoeddwydCynan a rocfeirdd y Clarence Hotel, 1924
Wiliams, G., 1 Hyd 2019, Yn: Llên Cymru. 42, t. 141-162
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydCynan, Carlo a'r Cwîn
Wiliams, G., Rhag 2019, Yn: Barn. 683/684 Rhagfyr/Ionawr 2019/2020, t. 63-6 4 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl - CyhoeddwydCyn-gartref Islwyn Ffowc Elis, Bangor
Wiliams, G., Kelly, S. & Lindsay, P., 2019, historypoints.org.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall - CyhoeddwydEr cof am David Henry Williams
Wiliams, G., 2019, historypoints.org.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall - CyhoeddwydGrave of Elizabeth Holland, Conwy
Wiliams, G., 2019, historypoints.org.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall - CyhoeddwydGraves at St Mary’s churchyard, Conwy
Wiliams, G., Castle, R., Jones, R. P. & Groom, L., 2019, historypoints.org.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
2018
- CyhoeddwydAbsalom fy Mab (1957) Cynan: troednodyn yn hanes y ddrama Gymraeg
Wiliams, G., Hyd 2018, Yn: Llên Cymru. 41, t. 118-146
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - Cyhoeddwyd'A gafwyd cofio "gwahanol"?
Wiliams, G., Rhag 2018, Yn: Barn. Rhagfyr/Ionawr 2018/19, 671/672, t. 46-8 3 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl - CyhoeddwydCardiau Post
Wiliams, G. & Rhys Parri, L. (Darlunydd), 27 Medi 2018, Gwasg y Bwthyn. 80 t.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr - CyhoeddwydLLYWELYN-WILLIAMS, ALUN (ALUN RHUN LLEWELYN WILLIAMS), (1913 - 1988), bardd a beirniad llenyddol
Wiliams, G., 7 Awst 2018, Y Bywgraffiadur Cymreig. National Library of Wales (NLW)
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur
2017
- CyhoeddwydAdolygiad ar Robin Gwyndaf, 'Cofio Hedd Wyn - Atgofion Cyfeillion a Detholiad o'i Gerdd'
Wiliams, G., 2017
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe - CyhoeddwydBeirniadaeth 'Darn neu ddarnau o lenyddiaeth, ffeithiol neu greadigol neu gyfuniad o'r ddau, a ysgogwyd wrth ddarllen enwau'r meirwon ar gifeb neu gofebau'r Rhyfel Mawr, heb fod dros 3,000 o eiriau. Gall fod yn rhyddiaith, barddoniaeth neu gyfuniad o'r ddau'.
Wiliams, G. & Lewis, W. G. (Golygydd), Awst 2017, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Lewis, W. G. (gol.). Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 249-58 10 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - CyhoeddwydBeirniadaeth 'Y Fedal Ryddiaith. Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Cysgodion'
Wiliams, G., Lewis, W. G. (Golygydd), Roberts, L., Rhydderch, F. & Edwards, S., Awst 2017, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Lewis, W. G. (gol.). Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 156-63 8 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd'Gwyn Thomas (1936-2016): Gŵr Geiriau a Dyn Lluniau' yn y rhaglen 'Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter'
Wiliams, G., 2017, Macbeth [rhaglen cynhyrchiad]. t. 4-5
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Rhagair/Ol-Nodiad - Cyhoeddwyd'Hedd Wyn a Chynan'; cyhoeddiad dwyieithog - 'Hedd Wyn and Cynan'
Wiliams, G., 2017, 'Hedd Wyn a Chynan'. t. 12 1 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Rhagair/Ol-Nodiad
2016
- CyhoeddwydCynan a'i Frwydr Hir a'r Rhyfel Mawr
Wiliams, G., 29 Meh 2016, Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr Ar Gymdeithas a Diwylliant Yng Nghymru. Matthews, G. (gol.). 2016 gol. Caerdydd: University of Wales Press, t. 217-240 23 t. (Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig).
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd'Fukushima' (Mawrth 2016)
Wiliams, G., 1 Gorff 2016, Yn: O'r Pedwar Gwynt. Haf 2016, 1, t. 26 1 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2015
- CyhoeddwydAdolygiad ar Gwyn Jenkins, Cymry'r Rhyfel Byd Cyntaf (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2014), tt. 223
Wiliams, G., 2015, Yn: Y Traethodydd. CLXX, 714, t. 188-92 5 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl - CyhoeddwydBeirniadaeth 'Casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau: Breuddwyd'
Wiliams, G., Jones, C., Jones, N. W., Hughes, J. E. (Golygydd) & Rhys, M., Awst 2015, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Hughes, J. E. (gol.). Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 43-50 8 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd'Y Rhyfel Mawr, 1914-18: Cloriannu Dwy Gyfrol Gymraeg Ddiweddar': Ysgrif-adolygiad ar Clive Hughes, '"I'r Fyddin Fechgyn Gwalia!" Recriwtio i'r Fyddin yng Nogledd-Orllewin Cymru 1914-1916 (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) a Myrddin ap Dafydd (gol.), Beirdd Ffosydd y Gwledydd Celtaidd 1914-1918 (Gwasg Carreg Gwalch, 2014).
Wiliams, G., 2015, Yn: Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd. t. 190-199 10 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
2014
- Cyhoeddwyd'Rhagymadrodd'
Wiliams, G., 2014, Gwaed Gwirion. 2014 gol. Llandysul: Gwasg Gomer, t. v-lvi 51 t.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Rhagair/Ol-Nodiad - Cyhoeddwyd'Twyll llwyddiannus clasur "Cymraeg"'
Wiliams, G., Medi 2014, Yn: Barn. 620, Medi 2014, t. 35-6 2 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl - Cyhoeddwyd'"Ymladd Brwydr Fawr y Gwir": Emynau'r Rhyfel Mawr'
Wiliams, G., 2014, Yn: Y Traethodydd. CLXIX, 711, t. 231-52 21 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl - Cyhoeddwyd'Y Tad a'r Mab': Adolygiad ar Harri Pritchard Jones, Disgyn i'w Lle (Gwasg Gomer, 2014)
Wiliams, G., 2014, Yn: Barn. 618/619
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
2013
- CyhoeddwydBu Cynan Yma: Sensoriaeth Gymraeg, 1931-1968
Wiliams, G., 1 Hyd 2013, Ysgrifau Beirniadol XXXII. Gwasg Gee, t. 11-79
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - Cyhoeddwyd'Cysgodion Rhyfel': Adolygiad o Barbara Davies, 'Y Faciwi' (Y Lolfa, 2013); Cledwyn Jones, Yr Awyrennwr (Gwasg Carreg Gwalch, 2013); a Gerwyn James, Y Rhwyg: Hanes y Rhyfel Mawr yn Ardal Llanfair Pwllgwyngyll 1914-1932 (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)
Wiliams, G., 2013, Yn: Barn. 608, t. 56-7 2 t.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
2012
- CyhoeddwydPob Beirniadaeth Drosodd? Diwedd Teyrnasiad Cynan
Wiliams, G., 1 Gorff 2012, Yn: Llên Cymru. 35, 1, t. 68-115
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2011
- CyhoeddwydRhwng Gwibdaith a Coldplay
Wiliams, G., 26 Gorff 2011, Unknown Publisher.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2010
- CyhoeddwydChwilio am Albert Evans-Jones: Ailedrych ar Gerddi Rhyfel Cynan.
Wiliams, G., 1 Gorff 2010, Yn: Llên Cymru. 33, 1, t. 151-177
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid - CyhoeddwydHoli Aled Jones Williams
Williams, M. & Wiliams, G. (Golygydd), 2010, Yn: Ysgrifau Beirniadol. 29, t. 8-23
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl - CyhoeddwydYsgrifau Beirniadol XXIX
Wiliams, G. (Golygydd), 1 Ion 2010, 2010 gol. Gwasg Gee.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2009
- CyhoeddwydYsgrifau Beirniadol XXVIII
Wiliams, G. (Golygydd), 1 Ion 2009, 2009 gol. Gwasg Gee.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2007
- Cyhoeddwyd"Don't Mention the War?" Interpreting and Contextualising the 1982 Falklands/Malvinas War.
Wiliams, G., Cragoe, M. (Golygydd) & Williams, C. (Golygydd), 1 Ion 2007, Wales and War: Society: Politics and Religion in the Nineteenth and Twentieth Centuries. 2007 gol. University of Wales Press, t. 204-229
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod - CyhoeddwydYr Ianci o'r Blaenau: Golwg ar Gerddi Gwyn Thomas, 1962-1981.
Wiliams, G. & Walford Davies, J. (Golygydd), 1 Ion 2007, Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged yr Athro Gwyn Thomas. 2007 gol. Cyhoeddiadau Barddas, t. 242-68
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2005
- CyhoeddwydTir Newydd: Agweddau ar Lenyddiaeth Gymraeg a'r Ail Ryfel Byd
Wiliams, G., 1 Ion 2005, University of Wales Press.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2003
- CyhoeddwydTafarn Tawelwch
Wiliams, G., 1 Ion 2003, Gwasg Carreg Gwalch.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
1993
- CyhoeddwydY Rhwyg: Arolwg o Farddoniaeth Gymraeg y Rhyfel Byd Cyntaf
Wiliams, G., 1993, Llandysul: Gwasg Gomer.
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
Gweithgareddau
2020
- 'Cynan a'r Orsedd: secsist neu achubwr?'
'Wrth i seremonïau'r Orsedd gael eu diwygio oherwydd agweddau israddol tuag at ferched, ydi'r ffigwr dadleuol wnaeth eu cyflwyno nhw yn y lle cyntaf wedi cael gormod o glod dros y blynyddoedd - neu feirniadaeth annheg?' Eitem ar wefan BBC Cymru Fyw
7 Awst 2020
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Cyffro'r Newydd, Cysur y Cyfarwydd: ar drothwy canmlwyddiant 'Mab y Bwthyn' Cynan
Darlith Flynyddol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a ddarlledwyd fel rhan o ddarpariaeth Eisteddfod AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol
3 Awst 2020
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd) - Cynan a'r Eisteddfod
Sgwrs estynedig am berthynas Cynan gyda'r Eisteddfod Genedlaethol fel rhan o ddarllediad AmGen BBC Radio Cymru
1 Awst 2020
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Llyfr Glas Nebo: sesiwn holi ac ateb ar ôl perfformiad
Cadeirio trafodaeth banel ar ôl perfformiad o Llyfr Glas Nebo, drama Cwmni'r Frân Wen yn seiliedig ar nofel Manon Steffan Ros.
5 Maw 2020
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cadeirydd) - Gweithdy Cynan
Cyflwyniad i bapurau Cynan yn Archifdy Prifysgol Bangor
31 Ion 2020
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Cofio Cynan
Sgwrs ar Raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru, a ddarlledwyd i gyd-fynd a marwolaeth Cynan hanner canrif union yn ol ar 26 Ionawr 1970.
26 Ion 2020
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Trafod y ffilm 1917
Sgwrs radio am y ffilm 1917 a gyfarfwyddwyd gan Sam Mendes ac am ymateb llenyddiaeth a llunyddiaeth Gymraeg i thema rhyfel.
20 Ion 2020
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - 'Cynan, Carlo a'r Cwîn'
Sgwrs i gymdeithas lenyddol am gysylltiad Cynan gyda'r frenhiniaeth.
8 Ion 2020
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
2019
- 'Hedd Wyn - y ffilm'
Trafodaeth gyda'r actor Huw Garmon, a actiodd y brif ran yn y ffilm Hedd Wyn am fywyd Ellis Humphrey Evans, yn ystod Cwrs Preswyl Cymraeg i ddisgyblion lefel 'A' yng Nghanolfan yr Urdd, Glan-lyn.
18 Tach 2019
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Arholydd allanol ar draethawd PhD
'"Gan y Gwirion y Ceir y Geir": Dadansoddi'r Defnydd o Salwch Meddwl fel Elfen mewn Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar', traethawd a gyflwynir am radd PhD Prifysgol Abertawe, 2019
25 Hyd 2019
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr) - 'Cynan, Carlo a'r Cwîn'
Darlith agoriadol Cymdeithas Lenyddol Capel y Garn, Bow Street, Ceredigion
18 Hyd 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Siaradwr) - Dathlu llwyddiant Gareth Evans-Jones
Sgwrs drwy wahoddiad yn ystod noson a drefnwyd gan bwyllgor Eisteddfod Marianglas i ddathlu llwyddiant Dr Gareth Evans-Jones, Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 2019
3 Hyd 2019
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Arholydd Allanol ar gyrsiau BA ac MA Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth
Arholydd Allanol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth ar gyfer cyrsiau gradd israddedig (Cymraeg, Cymraeg Proffesiynol ac ysgrifennu creadigol) ac MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.
1 Hyd 2019 – 30 Medi 2020
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr) - Diweddaru Datganiad Meincnod Cymraeg y QAA (Digwyddiad)
Cynghori'r QAA ynghylch newidiadau i'w Ddatganiad Meincnod Cymraeg yn rhinwedd fy swydd fel cadeirydd y panel adolygu diwethaf.
1 Hyd 2019
Gweithgaredd: Aelodaeth o bwyllgor (Cadeirydd) - Home on the Move: two poems go on a journey
Cyfieithu cerdd o'r Saesneg i'r Gymraeg fel rhan o broject rhyngwladol Talking Transformations
1 Hyd 2019
Cysylltau:
- http://www.talkingtransformations.eu
- https://www.parthianbooks.com/collections/recommended-poetry/products/home-on-the-move-two-poems-go-on-a-journey
- http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912681464&tsid=3
- Llên Cymru (Cyfnodolyn)
Golygydd Gwadd 'Gwaddol Gwyn' sef ffrwyth y gynhadledd 'Gwaddol Gwyn: cynhadledd i ddathlu bywyd a gwaith Gwyn Thomas' a drefnwyd gennyf 23-24 Mawrth 2018. Golygwyd a chyhoeddwyd papurau gan Gruffydd Aled Williams, D. Densil Morgan, Siwan M. Rosser, Rhianedd Jewell, Kate Woodward yn ogystal ag erthygl gysylltiol gan Lowri Havard. Tt. 140.
Hyd 2019
Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Golygydd gwadd) - Mae Yna Le
Translation for Pontio exterior wall
Hyd 2019
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr) - Myfyrwyr Llengar Bangor
Trefnydd cyfarfod i arddangos doniau myfyrwyr ôl-raddedig creadigol Ysgol y Gymraeg sef Elis Dafydd, Caryl Bryn, Osian Owen a Llŷr Titus ym mhabell Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 2019.
6 Awst 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Trefnydd) - Noson Lansio Treheli Mared Lewis
Holi'r awdures Mared Lewis yn noson lansio ei nofel Treheli y cyfansoddwyd rhan ohoni ar gyfer cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, project a gyd-gyfarwyddwyd gan yr Athro Angharad Price a Gerwyn Wiliams
26 Gorff 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - 'Y Llyfrau yn Fy Mywyd'
Cyfraniad i golofn boblogaidd yn y cylchgrawn materion cyfoes wythnosol Golwg
25 Gorff 2019
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Y Gyngres Geltaidd Ryngwladol 2019
Cyflwyno papur yn y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol VXI, 22-26 Gorffennaf 2019, 'Y Frenhiniaeth, yr Orsedd a "Phroblem Gogledd Cymru", 1939-46'
22 Gorff 2019 – 26 Gorff 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr) - Y Gyngres Geltaidd Ryngwladol 2019
Aelod o bwyllgor trefnu'r Gyngres Geltaidd Ryngwladol, e.e. trefnu cadeiryddion ar gyfer yr holl banelau a phrif ddarlithoedd; trefnu, cyfweld a phenodi intern ar gyfer y Gyngres; cadeirio sesiynau.
22 Gorff 2019 – 26 Gorff 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Aelod o bwyllgor rhaglen) - 'Cofio'r Bugail: Panel Trafod y Ffilm Hedd Wyn'
Aelod o banel yn trafod y ffilm Hedd Wyn dan gadeiryddiaeth Dr Manon Wyn Williams; roedd y panel hefyd yn cynnwys yr actor Huw Garmon a Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Cynulleidfa o ddisgyblion ysgol.
6 Maw 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr) - Languages in Higher Education
Gwahoddiad i gyfrannu i drafodaeth-o-gwmpas-y-bwrdd ar ieithoedd yn y sector addysg uwch / Invited to contribute to a round table discussion on languages in the higher education sector
30 Ion 2019
Gweithgaredd: Ymgynghoriad (Ymgynghorydd) - 'Wyth rheswm dros sgwennu cofiant i Cynan'
21 Ion 2019
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - 'Cynan a Phenmaenmawr'
Sgwrs i Gymdeithas Undebol Penmaenmawr am Cynan a'i gysylltiad â'r dref y bu'n weinidog ynddi rhwng 1921 a 1931.
14 Ion 2019
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2018
- 'Gwestai pen-blwydd ar Dewi Llwyd ar Fore Sul'
30 Rhag 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Sgwrs ar Raglen Dei Tomos ar Cardiau Post
Sgwrs ynglyn a fy nghyfrol ddiweddaraf o gerddi, Cardiau Post.
2 Rhag 2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Newid a thrawsnewid: strategaeth newydd i’r Loteri Genedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru | Transformation and change: A new National Lottery Strategy for the Arts Council of Wales
Cyfieithu cerdd Eric Ngalle Charles o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer fersiwn Cymraeg dogfen ymgynghorol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei Strategaeth Loteri yn 2019-24
12 Tach 2018 – 15 Chwef 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Arall (Cyfrannwr) - 'Lansio Cardiau Post'
Lansio fy nghyfrol ddiweddaraf o gerddi, Cardiau Post (Gwasg y Bwthyn), yn Galeri, Caernarfon yng nghwmni tua 90 o gynulleidfa. Fe'm holwyd gan Yr Athro Angharad Price a bu Dr Manon Wyn Williams yn darllen detholiad o'r gyfrol.
31 Hyd 2018
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Sefydliad allanol)
Aelod o Bwyllgor Craffu B1 Cymdeithas Ddysgedig Cymru / Member of B1 Scrutiny Committee Learned Society of Wales
19 Medi 2018 – 1 Mai 2021
Gweithgaredd: Aelodaeth o bwyllgor (Aelod) - Cwrs Astudio'r Cerddi
Cwrs Astudio'r Cerddi: cerddi gosod y cwrs AS, cwrs i ysgolion uwchradd de Cymru; traddodwyd cyfanswm o 4 darlith, 2 ohonyn nhw gennyf fi.
19 Chwef 2018
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - Arholi traethawd PhD.
Arholi traethawd PhD Catrin Heledd Richards ar y defnydd o gyfeiriadaeth yn nofel Dafydd Rowlands, Mae Theomemphus yn Hen. Yr arholwr mewnol oedd Dr Simon Brooks a'r cadeirydd oedd Yr Athro Gwynedd Parry. Cynhaliwyd yr arholiad llafar ar19 Ionawr 2018.
2018
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr) - Cynan a Rocfeirdd y Clarence Hotel, 1924
Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2018
2018
Cysylltau:
- https://twitter.com/Ganolfan/status/986536860548726785
- https://twitter.com/gwerfylpj/status/989213692603576320
- Eisteddfod Gadeiriol Mynytho
Beirniad llenyddiaeth
2018
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Arholwr) - Gwaddol Gwyn
'Gwaddol Gwyn' - dathlu a chloriannu bywyd a gwaith Gwyn Thomas
2018
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - Sgwrs ar raglen radio Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ynghylch y gynhadledd Gwaddol Gwyn
2018
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2017
- 'A Bedwyr i Bawb Ydoedd'
Rhaglen i gofio'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones a gynhaliwyd yn y Babell Len, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017. Fe'i cynlluniwyd gan Derec Llwyd Morgan, Geraint Percy Jones, Ynyr Williams a Gerwyn Wiliams. Fe'i cyflwynwyd gan Eifion Glyn a bu'r canlynol yn cymryd rhan: Derec Llwyd Morgan, Geraint Percy Jones, Meinir Pierce Jones, Non Indeg Evans a Gerwyn Wiliams. Darlledwyd y rhaglen ar BBC Radio Cymru 31 Rhagfyr 2017 a 2 Ionawr 2018.
2017
Cysylltau:
- https://eisteddfod.cymru/digwyddiadau/dydd/7-awst-2017/bedwyr-i-bawb-ydoedd
- https://www.bbc.co.uk/programmes/b09kf5ms
- Aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Cwmni Theatr Bara Caws
Fe'm gwahoddwyd i ddod yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Bara Caws, un o'r prif gwmniau drama yn y Gymraeg a noddir gyda grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru (cleient refiniw) a chynghorau sir Conwy, Gwynedd a Mon. Cartrefir y cwmni yng Nghaernarfon a gweithredu yn genedlaethol.
2017 →
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Aelodaeth o banel neu bwyllgor adolygu cymheiriaid (Cyfrannwr) - Cwrs Astudio'r cerddi
2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Darlithydd) - Cwrs Preswyl Glan-llyn
Cwrs preswyl a drefnir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor ar y cyd a Chanolfan yr Urdd, Glan-llyn, Y Bala, Gwynedd ar gyfer disgyblion Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf ac Ail Iaith); caed cyfraniadau gan staff Bangor a siaradwyr allanol.
2017
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - Cyfarfod ac arddangosfa Hedd Wyn
Cyfarfod ac arddangosfa I gofio canmlwyddiant mar'r Prifardd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 1917 a'i lwyddiant yn ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym Medi 1917 gulag awdl 'Yr Arwr'. Prif westai'r cyfarfod oedd nai y bardd, Gerald Williams, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd.
2017
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - 'Cynan a'r Rhyfel Mawr': darlith gyhoeddus
Darlith gyhoeddus ar berthynas Cynan a'r Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal a'r cyswllt rhyngddo a David Lloyd George.
2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd) - Darlith gan Yr Athro Densil Morgan ar astudiaeth ddadleuol Saunders Lewis o brif emynydd Cymru, William Williams Pantycelyn, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1927.
I arwyddo trichanmlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn, ac argraffiad newydd o gyflwyniad dadleuol Saunders Lewis i'w fywyd a'i waith a gyhoeddwyd gyntaf yn 1927, gwahoddwyd Yr Athro Dafydd Densil Morgan i draddodi darlith Dygwyl Dewi Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.
2017
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - Dathlu Llwyddiannau Eisteddfodol:
Noson i ddathlu llwyddiannau'r Prifardd Gwion Hallam, enillydd y Goron, a'r Prif Lenor Sonia Edwards, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017
2017
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017
Beirniad cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith; traddodi'r feirniadaeth ar ran y panel beirniadu o lwyfan yr wyl yn ystod seremoni Orseddol y Fedal Ryddiaith.
2017
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Arholwr) - Eisteddfod Goronog Llandegfan
Beirniad llenyddiaeth (oedolion) yn Eisteddfod Goronog Llandegfan 2017
2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Arholwr) - 'Gwyn Thomas, Llunyddiaeth a'r Llwyfan'
Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a chyda chefnogaeth gan Chapter
Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.
6-7pm Sgwrs cyn y dangosiad byw, Stiwdio, Lefel 2
Gwyn Thomas, Llunyddiaeth a'r Llwyfan
Pontio ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn cyflwyno sgwrs gyda'r Athro Gerwyn Wiliams yng nghwmni Dr William R. Lewis, Yr Athro Jason Walford Davies ac Ifor ap Glyn, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru. Cynhelir y digwyddiad yn Gymraeg ac fe fydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar y we. AM DDIM ond rhaid archebu tocyn.
2017
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - 'Hedd Wyn'
Rhaglen radio a ddarlledwyd ar BBC Radio Cymru i gyd-fynd â chanmlwyddiant marw Hedd Wyn.
2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - 'Hedd Wyn: The Poet and the Hero'
Cyfraniad i raglen radio a ddarlledwyd ar BBC Wales ac a wnaed gan Made in Manchester TV i gyd-fynd â chanmlwyddiant marw Hedd Wyn.
2017
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Holi'r Enillwyr
Dei Tomos yn holi prif enillwyr llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017 yng nghwmni rhai o'r beirniaid. Cyfarfod yn y Babell Len, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017
2017
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Mon Mam Cynan?
Darlith wadd yn y Babell Len ar y cysylltiad rhwng Albert Evans Jones (Cynan) ag Ynys Mon
2017
Cysylltau:
- https://eisteddfod.wales/events/day/6-august-2017/cynan-and-anglesey?_ga=2.110165639.327577786.1531306351-211148478.1484831836
- https://eisteddfod.cymru/digwyddiadau/dydd/6-awst-2017/môn-mam-cynan
- Noson lansio Pobol i'w Hosgoi Ruth Richards.
Holi Ruth Richards am ei chyfrol ddiweddaraf, Pobol i'w Hosgoi, mewn noson lansio. Cyhoeddwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.
2017
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - Rhaglen radio Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017
Gwestai'r cyflwynydd Hywel Gwynfryn yn ystod seremoni'r Coroni
2017
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Tocyn Wythnos
Gwestai ar raglen radio Beti George, Tocyn Wythnos, yn trafod cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith gyda'r beirniaid eraill, Francesca Rhydderch a Lleucu Roberts
2017
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - Trafod 'Absalom fy Mab' gan Cynan
2017
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Y Gymraeg ar Daith
Un o brojectau Panel Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i dargedu disgyblion TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf) gyda golwg ar gynyddu'r nifer sy'n astudio'r pwnc ar gyfer lefel 'A' ac yn y brifysgol. Ffrwyth cydweithio cenedlaethol rhwng academyddion mewn adrannau Cymraeg o fewn prifysgolion Cymru. Ymwelwyd ym mis Tachwedd 2017 a 40 o ysgolion uwchradd ledled Cymru ac annerch 2,000 o ddisgyblion. Lansiwyd y cynllun yn Ysgol Bro Edern, Caerdydd ym mhresenoldeb Gweinidog yr Iaith Gymraeg, Alun Davies, a chafwyd sylw helaeth ar newyddion Radio Cymru ac S4C ac yn y wasg bapur ac ar-lein. Fel rhan o'r cynllun, ymwelais yn bersonol ag 8 o ysgolion ar hyd a lied Cymru.
2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Siaradwr) - Ymweliad ag Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug
Ymweliad ag Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug i gyfarfod dau grŵp. Disgyblion TGAU a oedd yn ystyried dilyn Cymraeg yn y 6ed Dosbarth; disgyblion Cymraeg yn y 6ed Dosbarth i drafod Un Nos Ola Leuad ag agwedd synoptig eu cwrs.
2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr) - Ymweliad ag Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn, Llandudno
2017
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
2016
- Creithiau'r Rhyfel Mawr: Canmlwyddiant Brwydr Mametz
Cadeirio sgwrs rhwng yr Athro Gerwyn Wiliams ac Ifor ap Glyn (Pontio)
7 Gorff 2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Arholi traethawd PhD Manon Wynn Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth
Arholydd allanol ar gyfer traethawd PhD Manon Wynn Davies: '"Nid yw diwedd y daith ond ei dechrau": agweddau ar waith Iwan Llwyd', 16 Mai 2016.
2016
Cysylltau:
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr) - Arholydd mewnol ar draethawd PhD Meg Elis, project ysgrifennu creadigol; Yr Athro Marged Haycock, Prifysgol Aberystwyth yn arholydd allanol; 30 Medi 2016.
Arholydd mewnol ar draethawd PhD Ysgrifennu Creadigol Meg Elis.
2016
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr) - Canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg
Cynhadledd
2016
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - 'Clonc Cinio: Holi Guto Dafydd'
Holi'r Prifardd Guto Dafydd ac yntau ddeuddydd ynghynt wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ymbelydredd.
2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Cwrs Astudio'r Cerddi
2016
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Darlithydd) - Cwrs Preswyl Glan-llyn
Cwrs Preswyl Glan-llyn
2016
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - 'Cynan a'r Rhyfel Mawr': darlith i aelodau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, Gwynedd, 8 Hydref 2016.
Darlith ar Cynan a'r Rhyfel Byd Cyntaf i aelodau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, 8 Hydref 2016.
2016
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd) - 'Cynan': darlith i aelodau arddwest Eisteddfod Gadeiriol Môn, 17 Medi 2016.
Darlith i aelodau arddwest Eisteddfod Gadeiriol Môn ar agweddau ar fywyd a gwaith Cynan a fu'n byw ar yr ynys am flynyddoedd lawer. Cynhaliwyd y ddarlith ym mhentref Bodffordd.
2016
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd) - 'Cyngerdd Cofio Cynan a Dadorchuddio Penddelw Efydd': darlith ar Cynan a'i waddol
Darlith fer ar Cynan a'i waddol ar achlysur dadorchuddio penddelw'r cerflunydd John Meirion Morris.
2016
Cysylltau:
- https://www.flipsnack.com/58ACDC86AED/cofio-cynan.html
- https://www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg/digwyddiadau/penddelw-cynan-prifardd-y-rhyfel-mawr-25511
- Jelle Krol
Treuliodd Jelle Krol fis Chwefror 2016 fel ymwelydd ar ymweliad, yn ymchwilio ym Mangor ac Aberystwyth drwy drefniant Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Roeddwn yn ail gyfarwyddwr ar gyfer ei broject PhD sef astudiaeth o bedwar awdur lleiafrifol gan gynnwys Saunders Lewis. Cyflwynodd seminar ar ei faes ymchwil yn rhaglen seminarau ôl-radd ac ymchwil Ysgol y Gymraeg yn ystod ei arhosiad. Enillodd ei ddoethuriaeth ym Mehefin 2018.
2016
Cysylltau:
Gweithgaredd: Gwesteio ymwelydd academaidd (Gwesteiwr) - Lansiad Pantywennol, nofel gyntaf Ruth Richards a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli. Yng nghwmni Ruth Richards, Angharad Price a John Gruffydd Jones.
2016
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr) - 'Llenorion Arfon a'r Rhyfel Mawr': darlith i Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Neuadd Goffa Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle, 15 Medi 2016.
'Llenorion Arfon a'r Rhyfel Mawr': darlith i Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Neuadd Goffa Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle, 15 Medi 2016.
2016
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd) - Noson yng Nghwmni'r Prifardd Guto Dafydd
Yr Athro Angharad Price yn holi'r Prifardd Guto Dafydd, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 am ei nofel Ymbelydredd
2016
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - Rhaglen goffa Gwyn Thomas
Rhaglen wedi ei threfnu gan BBC Radio Cymru i goffáu Gwyn Thomas; dan gadeiryddiaeth Dylan Iorwerth, fe'i darlledwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Recordiwyd yn fyw yn y Babell Lê, Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, 30 Gorffennaf 2016.
2016
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr) - Sgwrs radio am Cynan ac Eisteddfod Pont-y-pŵl 1924
Enillodd Cynan ei Gadair Genedlaethol yn Eisteddfod Pont-y-pŵl yn 1924. A'r gerdd ar y mesur tri thrawiad, amheuai amryw ar y pryd ac yn ddiweddarach ai awdl oedd y gerdd o gwbl. Sgwrs a recordiwyd fel rhan o ddarllediadau BBC Radio Cymru adeg Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, 30 Gorffennaf-6 Awst 2016.
2016
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Sgwrs yng nghyfarfod lansio Creithiau
Golygwyd Creithiau: dylanwad y Rhyfel Mawr ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru gan Dr Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe a'i cyhoeddi yng nghyfres Gwasg Prifysgol o fonograffau beirniadol, Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig. Fe'i lansiwyd mewn cyfarfod ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 4 Awst 2016.
2016
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Sgwrs yn stiwdio deledu'r BBC am Gyfarfod Coffa Gwyn Thomas a Chronfa Goffa Gwyn Thomas, yn Eisteddfod Genedlaethiol Y Fenni, 30 Gorffennaf 2016
Cyfarfod coffa Gwyn Thomas wedi ei drefnu gan BBC Cymru er mwyn ei ddarlledu'n ddiweddarach.
2016
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Ysgrifau Beirniadol XXXIV (Cyfnodolyn)
Golygydd Ymgynghorol i'r gyfres Ysgrifau Beirniadol a olygir gan Angharad Price
2016
Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Aelod o fwrdd golygyddol)
2015
- Beirniad llên yn Eisteddfod Gadeiriol Môn 2015, 16 Mai 2015.
2015
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr) - Cadeirydd Panel Datganiad Meincnod Cymraeg y QAA
Cadeirydd Panel Datganiad Meincnod Cymraeg y QAA.
2015 – 2016
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Aelodaeth o banel neu bwyllgor adolygu cymheiriaid (Cyfrannwr) - Cwrs Preswyl Glan-llyn
Cwrs a drefnir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor ar y cyd a Chanolfan yr Urdd, Glan-llyn, Y Bala, Gwynedd ar gyfer disgyblion Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf ac Ail Iaith); caed cyfraniadau gan staff Bangor a siaradwyr allanol.
2015
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - 'Cynan a'i Frwydr Hir â'r Rhyfel Mawr': darlith i Gymdeithas y Fainc Sglodion, Blaenau Ffestiniog
Darlith a draddodwyd i Gymdeithas y Fainc Sglodion, Blaenau Ffestiniog, 5 Tachwedd 2015.
2015
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr) - Gerwyn Wiliams yn holi Manon Rhys
Sgwrs rhwng Bardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2015 ac un o'r beirniaid, Gerwyn Wiliams
2015
Cysylltau:
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Ysgol undydd Prifysgol Bangor ar y BAC: cyflwyniad ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam; 17 Medi 2015.
2015
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
2014
- Aelod o Bwyllgor Gwaith Canolfan AHRC Ieithoedd Celtaidd/Member of AHRC Centre for Doctoral Training in the Celtic Languages Executive Committee/
The collaborative Centre for Doctoral Training (CDT) in the Celtic Languages is funded by the Arts and Humanities Research Council for the period 2014-19, and will manage over that period doctoral scholarships and training programmes in Celtic Languages, Literatures and Cultures. A consortium of 12 higher education organisations across the UK will award doctoral studentships and support the training of students in a new, collaborative fashion. The Consortium Members are the universities of Aberdeen, Bangor, Cambridge, Edinburgh, Glasgow, Oxford, Swansea, Queens University Belfast, the University of Ulster, the University of the Highlands and Islands/Sabhal Mòr Ostaig, the University of Wales Trinity Saint David, and the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies; the Centre is managed by the University of Glasgow.
Part of the Centre’s activities will be training programmes in Celtic languages, literatures and cultures, and students will be enabled in an unprecedented way to partake of shared supervision and resources across these universities, and to engage with partners outside the higher education sector. The consortium will be aided in this by three core partners, BBC Northern Ireland, Bòrd na Gàidhlig, and the National Library of Wales.
2014 – 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Aelodaeth o banel neu bwyllgor adolygu cymheiriaid (Aelod) - 'Anfon y Nico i Landŵr': eitem radio am delyneg boblogaidd Cynan o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.
2014
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - Arholydd mewnol ar gyfer PhD Prifysgol Bangor; 4 Mehefin 2014.
'Segur fydd y cŷn a'r morthwyl mwy' : dehongli portreadau o'r bröydd chwarelyddol ers 1972': traethawd PhD Elin Gwyn. Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe, yn Arholydd Allanol; minnau'n Arholydd Mewnol. Cyfarwyddwyd y project gan Yr Athro Angharad Price.
2014
Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr) - Barddoniaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a 'Mab y Bwthyn' Cynan: Rhaglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru; recordiwyd 31 Hydref 2014
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr) - 'Cerddi Cynan': sgwrs i aelodau cymdeithas lenyddol Capel Coffa, Cyffordd Llandudno; 13 Ionawr 2014
Sgwrs gydag aelodau cymdeithas lenyddol Capel Coffa, Cyffordd Llandudno am farddoniaeth Cynan.
2014
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - 'Cofio a Ffuglenoli'r Rhyfel Byd Cyntaf': Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr, Llanelli, 5 Awst 2014.
'Cofio a Ffuglenoli'r Rhyfel Byd Cyntaf': Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr, Llanelli, 5 Awst 2014. Darlith yn datgelu ymchwil newydd am Gwaed Gwirion, 'clasur' o 'nofel' Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf a gyhoeddwyd yn 1965 gan Emyr Jones.
2014
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd) - Cymru'n Cofio | Wales Remembers 1914-1918: Gweithgor Hanesyddol - aelod
2014 – 2015
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Aelod) - 'Cynan a'i frwydr hir â'r Rhyfel Mawr': darlith i Gylch Llenyddol y Faenol Fawr, Bodelwyddan; 6 Hydref 2014.
Darlith ar y modd yr ymatebodd Cynan i'r Rhyfel Mawr ar y pryd ac fel yr ymdopodd â'r profiad yn ddiweddarach yn ei oes.
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd) - 'Cynan a'r Rhyfel Byd Cyntaf': darlith i Gymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, 21 Tachwedd 2014
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd) - 'Cynan a'r Rhyfel Mawr': sgwrs i aelodau Clwb y Garreg Wen, Prenteg, Porthmadog; 3 Mehefin 2014.
Trafod profiadau Cynan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'i ymatebion personol a chreadigol iddo.
2014
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd) - 'Cynan': darlith i Gymdeithas y Cymod, Caerfyrddin, 5 Rhagfyr 2014
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd) - 'Cynan's "Anfon y Nico": sending a goldfinch as a harbinger of modernism': darlith yn 20th Conference on Frisian Philology, Fryske Akademy, Leeuwarden, Yr Iseldiroedd
'Cynan's "Anfon y Nico": sending a goldfinch as a harbinger of modernism'
2014
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr) - 'Cynan y Sensor': darlith i aelodau Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, Gwynedd; 17 Ionawr 2014
Darlith ar weithgaredd Cynan fel darllenydd dramâu Cymraeg i'r Arglwydd Siambrlen, 1931-68.
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd) - 'Cynan y Sensor': sgwrs i aelodau Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy, Benllech, Ynys Môn; 14 Chwefror 2014.
Trafodaeth ar waith Cynan fel darllenydd dramâu Cymraeg i'r Arglwydd Siambrlen, 1931-68.
2014
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - 'Gwaed Gwirion': cyflwyno ac ymchwilio rhaglen deledu a ddarlledwyd ar S4C 28 Gorffennaf 2014
Ar sail gwaith ymchwil gwreiddiol, rhaglen deledu yn ailedrych ar y 'clasur' o 'nofel' Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf, Gwaed Gwirion (1965) gan Emyr Jones; sefydlir mai darn o lên-ladrad ydyw a 'fenthyciodd' yn hael o gofiant Frank Haydn Hornsey, Hell on Earth, a gyhoeddwyd yn 1929. Cynhyrchwyd y rhaglen gan gwmni Ffranc (Huw Chiswell).
2014
Cysylltau:
- https://www.bbc.co.uk/programmes/p036c86l
- https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/28668756
- https://www.bangor.ac.uk/cah/newyddion/bwrw-golwg-newydd-ar-glasur-rhyddiaith-y-rhyfel-byd-cyntaf-19611
- https://www.iwm.org.uk/collections/item/object/1500132401
- http://www.s4c.cymru/top20/rm/view_top20_welsh_progs/uploadid/925/language/wel/
- 'Llenyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf': darlith i Gymrodorion Caerdydd, 7 Chwefror 2014
Arolwg o'r ymateb llenyddol Cymraeg i'r Rhyfel Byd Cyntaf.
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd) - Noson Guto Dafydd
Noson yng nghwmni'r Prifardd Guto Dafydd, enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2014
2014
Cysylltau:
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd) - 'Pwy Glywodd Waedd y Bechgyn?': darlith i Gylch Trafod yr Alltwen, Penmorfa, Porthmadog; 29 Hydref 2014
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd) - 'Rhyfel Mawr Cynan': Darlith Goffa Dafydd Orwig 2014, Llyfrgell Bethesda, 9 Mehefin 2014.
Ar drothwy canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, Awst 1914-Tachwedd 1918, cylfe i bwyso a mesur ymateb un o brif feirdd Cymraeg y rhyfel hwnnw, Albert Evans Jones, neu'n fwy cyfarwydd, Cynan.
2014
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd) - 'Rhyfel Mawr Cynan': darlith i gymdeithas lenyddol Capel Hyfrydle, Caergybi, 6 Tachwedd 2014.
'Rhyfel Mawr Cynan': darlith i gymdeithas lenyddol Capel Hyfrydle, Caergybi, 6 Tachwedd 2014.
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Cyfrannwr) - 'Rhyfel Mawr Cynan': darlith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 3 Medi 2014
Darlith awr ginio yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn pwyso a mesur effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Cynan, o ran ei fywyd a'i waith creadigol.
2014
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd) - University of Groningen
Ymweld a Leeuwarden yn yr Iseldiroedd ar gyfer seremoni PhD Jelle Krol. Bum yn gweithredu fel ail gyfarwyddwr ar gyfer y project hwn, 2014-18.
2014 – 2018
Cysylltau:
- https://www.rug.nl/research/gradschool-humanities/news/phd-ceremony-krol
- https://www.rug.nl/research/portal/en/publications/combative-minority-literature-writers-in-the-aftermath-of-the-great-war(a69e2589-603d-4626-bfc1-ffc0d5820172).html
2013
- Ysgrifau Beirniadol (Cyfnodolyn)
Golygydd Ymgynghorol ar y gyfres Ysgrifau Beirniadol a olygir gan Angharad Price a Tudur Hallam
2013 – 2015
Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Aelod o fwrdd golygyddol)
2010
- Cofio'r Bugail
Cadeirio panel trafod ar y ffilm Hedd Wyn. Roedd y panel hefyd yn cynnwys yr actor Huw Garmon, y Prifardd Alan Llwyd, Naomi Jones o'r Ysgwrn a'r Athro Gerwyn Wiliams
28 Chwef 2010
Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr) - Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Cyfalaf (2013-16)
Mae'r Cyngor Celfyddydau Cymru yn ariannu, datblygu a chefnogi'r celfyddydau.
2010 – 2016
Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Aelodaeth o grŵp neu banel cynghori/polisi cyhoeddus/llywodraeth (Aelod) - Cyngor Llyfrau Cymru: Aelod o Banel Grantiau (Cymraeg) (2010-16); Is-gadeirydd y Panel Grantiau (2016-19)
Cefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a hyrwyddo darllen er pleser yw cenhadaeth y Cyngor Llyfrau, ac mae’n prif amcanion a’n swyddogaethau craidd yn adlewyrchu hyn.
Mae’n Cyfansoddiad yn gosod yn glir amcanion y sefydliad, sef hybu, cefnogi a datblygu gwerthfawrogiad a diddordeb y cyhoedd mewn llenyddiaeth.
2010 – 2019
Cysylltau:
Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Cyfraniad at waith pwyllgorau a gweithgorau cenedlaethol neu ryngwladol (Aelod)
2009
- Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig (Cyfnodolyn)
Golygydd Cyffredinol ar gyfres Gwasg Prifysgol Cymru o fonograffau beirniadol, Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: cyfanswm o 8 teitl
2009 – 2018
Cysylltau:
Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Golygydd)
2007
- Ysgrifau Beirniadol (Cyfnodolyn)
Golygydd y gyfres Ysgrifau Beirniadol: 4 cyfrol
2007 – 2011
Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Golygydd)
Projectau
-
Bwrdd Iaith Gymraeg - Studentship
20/08/2007 – 31/07/2011 (Wedi gorffen)
Gwybodaeth Arall
Gwaith golygu, darlithio allanol, etc.
Rhwng 1993 a 1999 bu’n golygu Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig, yn gyntaf gyda’r Athro John Rowlands ac yn ddiweddarach gyda Dr Jerry Hunter, ac rhwng 2005 a 2011 bu'n olygydd Ysgrifau Beirniadol (am gyfnod gyda Dr William R. Lewis). Gwasanaethodd sawl gwaith fel un o feirniaid cystadlaethau’r Gadair, y Goron a’r Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Bu’n beirniadu’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cyffiniau yn 2003. Ef hefyd oedd un o’r beirniaid yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn Awst 2007.
Fe’i gwahoddwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd i draddodi Darlith Goffa G.J. Williams yn 2007. Yr un flwyddyn daeth ei ysgrif ar gerddi rhyfel Alun Llywelyn-Williams o’r wasg yn The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry a olygwyd gan yr Athro Tim Kendall. Cyn hynny, yn Nhachwedd 2006, trefnodd gynhadledd o’r enw Mwy na Rhywbeth i’w Wneud? Barddoni mewn Canrif Newydd: ymhlith y rhai a gymerodd ran yr oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas.