Gwybodaeth bellach
Mae ystod o wasanaethau, dogfennau a gwybodaeth ar draws y Brifysgol yn cefnogi’r Siarter Myfyrwyr. Mae enghreifftiau neilltuol berthnasol i’w cael yma.
Cysylltiadau am fwy o wybodaeth
Cod Ymarfer Prifysgol Bangor ar gyfer y System Cynrychiolwyr Cyrsiau, a ysgrifennwyd mewn partneriaeth gydag Undeb Myfyrwyr Bangor yn 2012. Mae’n rhoi canllawiau i ysgolion academaidd ar sut i weithredu’r system ac yn nodi cyfrifoldebau pob parti dan sylw o ran ei reoli. Manylion yma.
Yn ogystal, mae gwefan Undeb y Myfyrwyr Bangor yn cynnwys manylion ynghylch pwy yw cynrychiolydd eich cwrs, a sut y gellwch fod yn rhan o’r system.
Mae’r Drefn Gwyno i Fyfyrwyr yn diffinio’r broses drwy’r hyn y gall myfyriwr fynegi anfodlonrwydd ynghylch safon y gwasanaeth a ddarperir gan unrhyw adran o’r Brifysgol. Gellir cael cyngor am y drefn gan y Cofrestrydd Academaidd.
Ceir rheoliadau ynghylch asesu a gofynion i gwblhau gradd yn y Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Hyfforddedig (Rheoliadau 01).
Mae Adran 7 y Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Hyfforddedig (Rheoliadau 01) yn rhoi gwybodaeth am bolisi'r Brifysgol ar adborth ar eich gwaith academaidd.
Mae gwybodaeth benodol am system Tiwtor Personol y Brifysgol ar gael yma a chewch fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ac ymhle i gael mynediad ati, yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr ar wefan y Brifysgol.
Ceir gwybodaeth am ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb ac amrywiaeth yma.
Mae’r Llawlyfr Myfyrwyr yn cynnwys gwybodaeth bwysig am reoliadau’r Brifysgol y mae disgwyl i bob myfyriwr gadw ati. Mae’n rhaid i bob myfyriwr gadarnhau eu bod yn cytuno i gadw at y rheoliadau hyn fel rhan o’r drefn gofrestru, felly mae’n bwysig darllen hwn yn drwyadl. Yn ogystal, cewch hyd i’r Amodau Preswylio i’r myfyrwyr hynny sy’n byw mewn Neuaddau’r Brifysgol yma:
Gwefan Undeb y Myfyrwyr Bangor.
Gwefan y Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd.
Ceir arweiniad llawn i reoliadau’r Brifysgol yma.