Siarter y Myfyrwyr
- Prifysgol Bangor: Ein hymrwymiad i’n holl fyfyrwyr
- Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Ein hymrwymiadau i’n holl aelodau
- Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Eich ymrwymiadau i’r Brifysgol
Rhagarweiniad
Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn falch o’r bartneriaeth agos sydd gennym gyda’r myfyrwyr a’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu profiad unigryw myfyrwyr Bangor. Cydnabuwyd arwyddocâd hynny’n ddiweddar gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) a ganmolodd y Brifysgol am ei hagwedd tuag at weithio mewn partneriaeth â’r myfyrwyr.
Yn ystod eich amser ym Mangor cewch amryw o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau a’ch cyflogadwyedd, dod yn aelod gweithgar o’n cymuned ddysgu, a chyfrannu at yr amgylchedd lleol. Yn sicr mae’n werth ymroi i’ch astudiaethau, a’r budd a ddaw o fanteisio ar bob cyfle a gewch chi i feithrin eich gwybodaeth a’ch profiad y tu hwnt i’r byd academaidd.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg rhagorol, datblygu gweinyddiaeth ddwyieithog gref a pharhau i gyfrannu'n helaeth at ddatblygiad diwylliannol ac ieithyddol yr ardal. Er mwyn datblygu a chyfoethogi ei darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ymhellach, mae'r brifysgol wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae rhan lawn yng ngweithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a manteisio i'r eithaf ar ei fentrau.
Byddwn yn cefnogi myfyrwyr i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel modd i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau iaith Gymraeg.
Anelwn at fod yn gynaliadwy ym mhopeth a wnawn. Mae'r Brifysgol yn gyd ymrwymedig i les y myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl, a nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu, a nodweddion gwarchodedig. Cafodd Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Chynllun Gweithredu'r Brifysgol eu datblygu yng nghyd-destun y dyletswyddau cyfreithiol sydd ar y Brifysgol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau sy'n Benodol i Gymru, ac mae'n ddatganiad o ymrwymiad parhaus Prifysgol Bangor i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i les ac iechyd myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl a dulliau diogelwch rhag hunanladdiad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein nodau yn ein Strategaeth Iechyd Meddwl dan Arweiniad Myfyrwyr.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth gyfoes a thryloyw i fyfyrwyr ynghylch costau astudio. Cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i ledaenu’r siarter hon yn flynyddol i’r holl fyfyrwyr a’r staff ar e-bost, ar-lein ac mewn sgyrsiau croeso a chyfarfodydd gyda thiwtoriaid personol.
Bydd y Brifysgol yn cyflawni ei rhwymedigaethau cytundebol i fyfyrwyr a chydymffurfio â’i hymrwymiadau dan gyfraith defnyddwyr fel yr amlinellwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Wrth wneud hynny, bydd prifysgolion yn gweithio i ddiogelu buddiannau’r myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau megis newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff cwrs ei gyflwyno neu gwrs yn dod i ben. Mae’r brifysgol wedi sefydlu gweithdrefnau i ymateb i’r amgylchiadau hyn a byddant yn lliniaru’r effaith bosibl ar y myfyrwyr ac yn cydnabod anghenion gwahanol ei myfyrwyr amrywiol.
Prifysgol Bangor: Ein hymrwymiad i’n holl fyfyrwyr:
- Sicrhau’r safonau uchaf posibl o addysgu a dysgu drwy’r canlynol:
- Darparu rhaglen academaidd ragorol wedi’i hysbrydoli gan yr ymchwil diweddaraf
- Darparu cyfleusterau addysgu, dysgu ac ymchwil o safon uchel
- Cefnogi system gadarn o Gynrychiolwyr Cyrsiau
- Gofyn am adborth gennych yn rheolaidd ac ymateb iddo
- Gofyn am adborth yn rheolaidd gan ffynonellau allanol annibynnol ac ymateb iddo
- Gweithredu system effeithiol i sicrhau ansawdd a safonau academaidd
- Darparu addasiadau rhesymol
- Darparu datblygiad staff perthnasol
- Sicrhau ein bod yn ymwneud â chi’n brydlon a blaengar drwy’r canlynol:
- Darparu gwybodaeth glir am eich modiwlau a’ch rhaglen cyrsiau / ymchwil
- Cyfathrebu â chi mor gyflym ac effeithiol â phosibl
- Gosod dyddiad clir i roi adborth ar waith academaidd
- Rhoi gwybodaeth i chi ymlaen llaw am eich amserlen ac unrhyw newidiadau iddi
- Ymateb yn brydlon a theg i unrhyw gwynion
- Sicrhau bod eich amgylchedd yn gynhwysol, croesawus a chefnogol drwy’r canlynol:
- Darparu cefnogaeth academaidd a bugeiliol briodol
- Sicrhau mynediad rhwydd at wybodaeth gyffredinol am y brifysgol a’i threfniadaeth
- Darparu amrywiol wasanaethau cymorth, gan gynnwys cyfeirio at wasanaethau allanol, lle bo hynny’n briodol.
- Meithrin cyfoeth diwylliannol ac ymwneud â’r gymuned
- Meithrin amgylchedd diogel, glân a ‘gwyrdd’, heb ddim gwahaniaethu negyddol nac aflonyddu, a hynny’n seiliedig ar barch rhwng y naill a’r llall
- Gwerthuso a datblygu ein gwasanaethau cymorth yn ôl adborth y myfyrwyr
- Sicrhau eich bod wedi eich paratoi at gyflogaeth a dysgu gydol oes drwy’r canlynol:
- Sicrhau bod prynhawniau Mercher, ar ôl 12pm yn rhydd heb astudiaethau academaidd ar yr amserlen, gan gyhoeddi unrhyw eithriadau na ellir eu hosgoi
- Eich helpu i ddatblygu sgiliau i gefnogi eich dysgu a chyflogadwyedd
- Rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu eich cyflogadwyedd, yn cynnwys y cyfle i gymryd rhan yng nghynllun Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor
- Rhoi mynediad at gyngor gyrfaoedd a rhoi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd cyflogaeth
- Rhoi cyfleoedd i chi astudio dramor
- Sicrhau bod ein polisi dwyieithog yn golygu y gellwch ddewis:
- Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg lle bynnag y bo modd
- Cyflwyno asesiadau a chael adborth (lle bynnag y bo modd) drwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag oedd yr iaith hyfforddi
- Cael mynediad at wasanaethau cefnogi drwy gyfrwng y Gymraeg
- Ymwneud â’r Brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg
- Dysgu Cymraeg neu ddatblygu sgiliau pellach yn y Gymraeg trwy ddosbarthiadau a modiwlau penodol
Os ydych am gysylltu â’r staff neu wasanaethau cymorth perthnasol y Brifysgol, mae eu manylion cyswllt ar-lein.
Mae’r Brifysgol yn darparu gwybodaeth am y cyrsiau a’r costau cysylltiedig.
Mae’r Brifysgol yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Diogelu Defnyddwyr ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cwrs a phob rhaglen yn rhedeg yn unol â’r telerau y cytunwyd arnynt yng nghontractau’r myfyrwyr.
Mae’r Brifysgol yn sicrhau bod buddiannau’r myfyrwyr yn cael eu gwarchod ac yn cydweithio ag Undeb y Myfyrwyr.
Dylai’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno cwyno ddilyn y gweithdrefnau a nodir yma.
Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Ein hymrwymiadau i’n holl aelodau:
I’ch helpu chi wneud yn fawr o’ch cyfnod yn y Brifysgol, byddwn yn gwneud y canlynol:
- Eich cynrychioli’n effeithiol drwy’r canlynol:
- Cyflogi swyddogion etholedig o blith y myfyrwyr sy’n gweithio’n llawn-amser i ymestyn ac amddiffyn eich hawliau fel myfyrwyr yn y Brifysgol.
- Ymgyrchu ar faterion perthnasol i chi drwy gasglu tystiolaeth a cheisio eich barn ar eich gwaith mewn modd blaengar
- Sicrhau fod popeth a wnawn yn cynnal ein hymrwymiad i gyfleoedd cyfartal a’n corff amrywiol o fyfyrwyr.
- Eich cynorthwyo a’ch cefnogi gyda materion academaidd drwy’r dulliau canlynol:
- Cynnal gwasanaeth cynghori ac arwain di-dâl ac annibynnol.
- Hwyluso system Cynrychiolwyr Cyrsiau drwy’r holl Brifysgol a rhoi hyfforddiant digonol i’r cynrychiolwyr hyn.
- Gweithio gyda’r Ysgol Ddoethurol a’r Myfyrwyr Ôl-radd i gynrychioli myfyrwyr ôl-radd
- Cefnogi eich datblygiad personol drwy’r dulliau canlynol:
- Rhoi cyfle i chi greu ymuno ac arwain clybiau’r undeb athletau, cymdeithasau’r myfyrwyr a phrojectau gwirfoddoli ac UMCB, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.
- cefnogi a darparu gweithgareddau sy’n hyrwyddo eich sgiliau all-gwricwlaidd a chyfrannu at eich cyflogadwyedd.
Os ydych am gysylltu â Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr, mae eu manylion cyswllt yma.
Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Eich ymrwymiadau i’r Brifysgol:
I’ch helpu chi wneud yn fawr o’ch cyfnod yn y Brifysgol, bydd angen i chi:
- Chwarae rhan amlwg yn eich cymuned ddysgu, drwy’r dulliau canlynol:
- Cwblhau cofrestriad ar-lein mewn da bryd, a phan gewch e-bost i wneud hynny
- Mynd i’r holl sesiynau sydd ar yr amserlen
- Darllen llawlyfrau eich cwrs a modiwlau
- Paratoi at ddosbarthiadau a darllen testunau gosod ymlaen llaw
- Gwneud gwaith astudio annibynnol ac ymwneud ag ymchwil
- Cwblhau a chyflwyno eich asesiadau erbyn dyddiadau cau penodedig
- Casglu’n brydlon eich gwaith pan fydd wedi’i farcio, ac ystyried yr adborth a roddwyd er mwyn gwella eich gwaith yn y dyfodol
- Cofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd os oes arnoch angen addasiadau sy’n ymwneud ag anabledd a’u rhoi ar waith.
- Ymddwyn yn gyfrifol drwy’r canlynol:
- Cadw at holl reoliadau’r brifysgol, gan gynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer myfyrwyr
- Trin ein cymuned myfyrwyr a staff amrywiol gyda chwrteisi, urddas a pharch, yn cynnwys wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Parchu eich amgylchedd ar y campws ac oddi arno, ac ymddwyn yn ystyriol tuag at y gymuned leol yr ydym i gyd yn rhan ohoni.
- Rhoi adborth a gwybodaeth i ni drwy’r canlynol:
- Defnyddio cyfleoedd i roi adborth i ni
- Edrych yn gyson ar eich cyfrif e-bost Prifysgol ac ar Blackboard
- Sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol
- Ceisio gwybodaeth a chyngor pan ydych angen hynny, drwy’r dulliau canlynol:
- Rhoi gwybod i ni am unrhyw beth a fo’n effeithio ar eich astudiaethau, fel y gallwn eich cefnogi a’ch cynghori
- Mynd ati i geisio cefnogaeth bersonol, os byddwch yn teimlo eich bod angen hynny
- Gwneud defnydd llawn o’n system tiwtoriaid personol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Siarter Myfyrwyr yna cysylltwch â ni