Gwybodaeth am Croeso 2022
Rydyn ni wedi llunio rhai rhestrau gwirio, i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer y Brifysgol. Maen nhw’n ymdrin â hanfodion yr hyn sydd angen i chi ei wneud cyn i chi gyrraedd yma, pethau i’ch helpu i gael amser didrafferth wrth gyrraedd, a’r holl bethau y gallwch chi eu gwneud unwaith eich bod chi yma. Mae gan bob pwynt ddolen i’r wybodaeth bellach lle gallwch ddarganfod mwy.
Rhestr wirio ‘cyn i chi gyrraedd’
Eich rhestr o bethau hanfodol i’w gwneud cyn cyrraedd:
- Gwnewch gais am eich cyllid myfyrwyr – gwelwch ein llyfryn Cyngor Arian
- Gwiriwch ein gwybodaeth am gyllid, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau prifysgol, cyllid myfyrwyr, bancio, y Gronfa Caledi
- Darllenwch ein canllawiau campws diogel
- Gwiriwch eich statws brechiadau. Gwelwch ein cyngor gofal iechyd
- Cwblhewch y cofrestru ar-lein yn llawn
- Archebwch eich llety yn neuaddau preswyl y brifysgol
- Trefnwch daliadau dysgu a llety
- Edrychwch ar ein Canllaw i Astudio Ar-lein
- Paciwch eich bagiau gyda’r hyn sydd arnoch angen dod gyda chi
- Cynlluniwch eich trefniadau teithio/y ffordd rydych am ei theithio
Eich rhestr wirio cyrraedd
Yr holl bethau sydd angen i chi eu gwneud er mwyn cyrraedd yn ddi-drafferth
- Sicrhewch eich bod yn cadarnhau eich diwrnod cyrraedd – gwiriwch eich e-byst o Swyddfa’r Neuaddau
- Cwblhewch y cofrestru’n llawn cyn gynted â phosib (ar ôl cofrestru bydd eich cyllid myfyrwyr yn cael ei ryddhau!)
- Dewch â thystiolaeth o pwy ydych (ID) gyda chi i gwblhau’r broses gofrestru
- Cofrestrwch gyda meddyg lleol
- Trefnwch i gwrdd â’ch Arweinydd Cyfoed
- Cymerwch ran gyda Bywyd Campws
- Trefnwch i gwrdd â’ch Mentor Preswyl
- Gwiriwch y Cwestiynau Cyffredin am Neuaddau
Rhestr wirio ar ôl i chi gyrraedd
Yr holl bethau y bydd arnoch angen eu gwneud, a’r holl bethau y gallwch ddewis eu gwneud yn ystod wythnosau cyntaf y Brifysgol
- Cymerwch ran yn y Croeso Ffurfiol ar-lein hanfodol i’r Brifysgol
- Ymunwch â modiwl cynefino hanfodol eich Ysgol Academaidd
- Cymerwch ran yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr
- Edrychwch ar ‘Beth sydd ymlaen’ yn y Brifysgol
- Cael trafferth ymgartrefu? Edrychwch ar sut y gallwn eich cefnogi
- Dysgwch am yr hyn yr ydym ni yn ei wneud i gefnogi Cyflogadwyedd