Pontio
Mae ein sinema wedi ail-agor! Gyda chapasiti llai a llai o ddangosiadau er mwy sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid, mae gennym ddewis eang o ffilmiau gyda rhywbeth i bawb! Dros yr haf, mae gennym gyfres o ddigwyddiadau tu allan fel rhan o Gŵyl Goncrit, yn cael ei gynnal yn ein bae llwytho, er mwyn eich croesawu’n ôl i Pontio. Edrychwn ymlaen i’ch croesawu.
Pontio yw Canolfan Celfyddydau ac Arloesi ym Mangor ac mae'n agored i bawb.
Dewch i fwynhau
- Theatr Bryn Terfel
- Sinema Ddigidol gyda 3D
- Stiwdio Theatr
- Bwyd a Diod
- Arloesi
- Dysgu ac Undeb y Myfyrwyr
Mae'r ganolfan ar Ffordd Deiniol yn cynnig lleoliad cyffrous yn y ddinas: yn le delfrydol i fynd iddo, i gwrdd â ffrindiau ac i ymlacio.
Cewch elwa ar leoedd dysgu Pontio, a'r cyfan ohonynt wedi eu dodrefnu â'r dechnoleg ryngweithiol ddiweddaraf a byddwch yn gallu mwynhau cyfleusterau adloniant anhygoel, gyda theatr, theatr stiwdio, lle sinema a sgriniau awyr agored. Yn gartref i Undeb y Myfyrwyr, mae Pontio yn ganolbwynt i fywyd y campws, gan ddarparu swyddi newydd a chyfleoedd i wirfoddoli - i'ch helpu chi i ennill arian a phrofiad gwaith gwerthfawr.
Mae pob tymor yn cynnwys cerddoriaeth, drama a dawns o bedwar ban byd, yn ogystal â rhaglen o ffilmiau at ddant pawb.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.pontio.co.uk neu ebostiwch info@pontio.co.uk. Rydym hefyd ar Facebook, neu gellwch ein dilyn ar Twitter.