Cofrestru
Pob myfyriwr newydd
Rhaid i bob myfyriwr newydd gofrestru gyda’r Brifysgol. Mae dwy ran i hyn a dylech gwblhau rhan un (cofrestru) ar-lein cyn cyrraedd Bangor – cewch wybod pryd fydd y system yn agored i chi drwy ebost (ceir mwy o fanylion yma: www.bangor.ac.uk/cofrestru) a byddwch yn derbyn ebost i gadarnhau bod y broses wedi ei chwblhau.
Ar ôl i chi gwblhau cofrestru ar-lein bydd angen i chi gwblhau gwiriad ID ar-lein (myfyrwyr amser llawn). Rhaid i chi allu dangos eich dogfennau gwreiddiol a fydd yn cael eu gwirio yn un o'r apwyntiadau ID arlein a gynhelir o'r 7eg o Ionawr, hyd at ddechrau mis Chwefror. Gellir dod o hyd i ffurfiau derbyniol o brawf adnabod yma.
Dyddiadau’r Semestrau
Mae’r flwyddyn academaidd wedi ei rhannu'n ddau semester. I weld dyddiadau’r semestrau a dyddiadau allweddol yn ystod y flwyddyn academaidd cliciwch yma.