Dewch i adnabod eich Gwasanaethau
Sgwrs Fyw gyda Myfyrwyr sy’n Byw Gartref/Myfyrwyr ôl-raddedig
Er mwyn eich helpu i bontio i fywyd Prifysgol, rydym wedi trefnu digwyddiad sgwrsio ar-lein lle gallwch gwrdd â myfyrwyr newydd eraill yn ogystal â myfyrwyr a staff cyfredol. Bydd y sgwrs yn digwydd ar ddydd Mawrth, 18 Ionawr 2022 am 12.30pm. I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu ewch i www.bangor.ac.uk/welcome/online-chat.php.cy.
Cynhelir sgwrs fyw arall ddydd Mercher 2 Chwefror am 2pm yn benodol ar gyfer myfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd sy'n dechrau ar gyrsiau sy'n cael eu cyllido gan y GIG. I fynegi diddordeb mewn mynychu ewch i: www.bangor.ac.uk/welcome/online-chat.php.cy.
Croeso a Chyfeiriadaeth Rhyngwladol
Mae ‘Croeso a Chyfeiriadaeth’ yn dechrau ddydd Mercher, 15 Medi2021 ar gyfer pob myfyriwr rhyngwladol newydd sy’n dechrau ar gyrsiau ym mis Ionawr 2021. Bydd y Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer pob myfyriwr rhyngwladol newydd.
Rhaglen Croeso a Chyfeiriadaeth 2022 ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Cliciwch yma am wybodaeth ar Wasanaethau Llyfrgell ac Archifau.
Wefan Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Gwasanaethau Technoleg
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau TG y bydd arnoch eu hangen ar gyfer eich cwrs, cliciwch ar y linc isod:
www.bangor.ac.uk/itservices/it-facilities.php.cy