Croeso 2022 - Undeb y Myfyrwyr
Croeso gan Undeb y Myfyrwyr
Undeb Bangor, Eich Undeb Myfyrwyr
Undeb Bangor ydym ni. Ni yw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Bydd hwn yn flwyddyn gwahanol, ac rydym yn siŵr eich bod chi'n teimlo'n bryderus ac yn gyffrous am yr hyn sydd ar y gweill. Mae cychwyn ym Mhrifysgol Bangor yn brofiad fydd yn newid bywyd, ac ni fydd eleni yn ddim gwahanol.
Mae'r cyfnod croeso yn ymwneud â dod â phobl ynghyd, maethu cyfeillgarwch, eich cyflwyno i'r holl bethau rhyfeddol sydd gan Fangor i'w cynnig a'ch helpu chi i ymgartrefu. Mae hyn i gyd yn bosibl mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.
Cynhelir ein digwyddiadau yn ystod y cyfnod croeso i'ch helpu i chi ymgartrefu, sicrhau eich bod yn cwrdd â phobl a deall sut y gallwch chi gymryd rhan gydag Undeb Bangor yn ystod eich amser yma. Ni yw cartref myfyrwyr Bangor ac rydym yn gweithio i roi llwyfan i'ch llais, trefnu cyfleoedd ar eich cyfer a datblygu eich cymuned. Mae tîm o Swyddogion Sabothol yn arwain Undeb Bangor; etholwyd y tîm yn fis Mawrth 2021 a cychwyn eu tymor yn Orffennaf 2021:
Llywydd - James Avison
Is-lywydd Addysg - Harrison Fleming
Llywydd UMCB - Mabon Dafydd
Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli - Katie Tew
Mae’r tîm o Swyddogion Sabothol yn cael eu hethol gan fyfyrwyr, mewn pleidlais draws-gampws, i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol, gan gynnwys y byd academaidd, ac i sicrhau y gallwch chi gymryd rhan mewn chwaraeon, cymdeithasau a gwirfoddoli. Dros y flwyddyn nesaf, mae'r tîm swyddogion yn ymroddedig i addysg, lles, a chyfleon pob myfyriwr ym Mangor.
Fel cartref myfyrwyr Bangor rydym yn rhedeg y Clybiau Chwaraeon, Cymdeithasau, Projectau Gwirfoddoli, UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor a Chyngor Undeb Bangor. Mae ymuno â chymdeithas, prosiect gwirfoddoli neu glwb chwaraeon yn gyfle gwych i ddod o hyd i hobi newydd ac i gwrdd ag unigolion tebyg. Mae hefyd yn ffordd wych o gael seibiant o'ch gwaith prifysgol a sicrhau cydbwysedd da, a all helpu i leihau straen.
Mae ein gwefan www.UndebBangor.com yn cynnwys yr holl wybodaeth am ein grwpiau a gweithgareddau myfyrwyr, a bydd yn rhoi blas i chi o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym drwy gydol y flwyddyn. Beth am ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol a chewch wybod am yr holl bethau gwych rydym yn eu gwneud drwy gydol y flwyddyn.
• Facebook: @bangorstudentsunion
• Twitter: @bangorstudents
• Instagram: @undeb_bangor
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i’ch cyfarfod chi, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni drwy undeb@undebbangor.com.