Tocyn Darllen

COFRESTRU

Nid oes angen i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor gofrestru am Gerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau ond mae’n rhaid iddynt gwblhau Ffurflen Cofrestru Defnyddwyr ar eu hymweliad cyntaf â’r Archifdy.

Sut i gofrestru fel ymchwilydd allanol

Mae angen cael Cerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau er mwyn edrych ar ddeunydd archifol gwreiddiol a/neu lyfrau prin.

Nid oes angen tocyn darllen arnoch i ddefnyddio’r llyfrau cyfeirio, y catalogau a’r adnoddau arlein yn yr ystafell ddarllen.

Er mwyn cofrestru am Cerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau rhaid i chi ddod â dwy ddogfen gyda chi. Un sy’n dangos eich cyfeiriad cartref a’r llall, eich llofnod. Rhaid hefyd cwblhau ein “Ffurflen Cofrestru Defnyddwyr”. Dyma restr o’r ffurfiau adnabod yr ydym yn eu derbyn.

A. Prawf adnabod (rhaid iddo gynnwys llofnod dilys):

  • Pasbort
  • Trwydded yrru
  • Cerdyn banc
  • Cerdyn credyd
  • Cerdyn adnabod staff llywodraeth / cyngor lleol
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol y DU neu Undeb Ewropeaidd arall
  • Cerdyn gwarant yr heddlu / Tollau / Swyddfa Gartref
  • Cerdyn adnabod Lluoedd EM
  • Trwydded Meistr Môr/Awyr
  • Tocyn NUJ

B. Prawf cyfeiriad (ni dderbynnir deunydd wedi’i argraffu o’r we):

  • Trwydded yrru gyda chyfeiriad
  • Trwydded deledu
  • Bil cyfleustodau (wedi’i gyflwyno yn y tri mis diwethaf)
  • Cyfriflen banc/cymdeithas adeiladu (wedi’i gyflwyno yn y tri mis diwethaf)
  • Cyfriflen cerdyn credyd (wedi’i gyflwyno yn y tri mis diwethaf)
  • Bil Treth y Cyngor/llyfr rhent y Cyngor
  • Cyfriflen Refeniw a Thollau EM
  • Pasborts gyda chyfeiriad (lle mae’r cyfeiriad wedi cael ei nodi’n swyddogol gan yr awdurdod cyflwyno)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol y DU neu Undeb Ewropeaidd arall gyda chyfeiriad
  • Trwydded y Swyddfa Gartref i aros
  • Tystysgrif prifysgol ar gyfer neuadd breswyl (wedi’i stampio a’i llofnodi gan y sefydliad)
  • Trwydded Drylliau y DU
  • Polisi yswiriant cartref
  • Cerdyn llun myfyriwr rhyngwladol

Sylwer:

  • ni all biliau cyfleustodau, cyfriflenni banc/cymdeithas adeiladu, datganiadau cardiau credyd a datganiadau Refeniw a Thollau fod yn h?n na thri mis i fod yn brawf cyfeiriad derbyniol.
  • gellir defnyddio dogfennau fel trwydded yrru sy’n ymddangos ar restrau A a B naill ai fel prawf cyfeiriad neu fel prawf adnabod, ond ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer y ddau.
  • derbynnir tocyn darllenwr wedi’i lofnodi ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Archifau Cenedlaethol, y Llyfrgell Brydeinig neu Archifau Metropolitan Llundain yn lle’r eitemau ar restr A. Bydd angen i chi ddarparu prawf cyfeiriad, fodd bynnag.

Os nad ydych yn gallu dod ag unrhyw un o’r eitemau hyn, neu os nad oes cyfeiriad sefydlog gennych, siaradwch ag aelod o staff y Gwasanaeth Archifau, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio ein gwasanaeth. Fodd bynnag, ni allwn gyflwyno Cerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau heb ddull adnabod digonol – yn anffodus, ni ellir gwneud eithriad i’r rheol hon, er mwyn diogelu cywirdeb y cynllun cofrestru.

Prawf i fyfyrwyr

Os ydych yn 14 oed neu’n hŷn ac yn dal i fod yn yr ysgol neu’r coleg, os nad oes modd i chi ddarparu’r dogfennau am docyn o’r rhestrau uchod, gallwch ddod â llythyr ar bapur pennawd wedi’i lofnodi gan eich athro neu diwtor, ynghyd â thystiolaeth o’ch hunaniaeth sy’n cynnwys eich enw a ffotograff portread, megis pasbort, Cerdyn Dinesydd neu gerdyn fyfyriwr. Mae templed ar gael ar gyfer y llythyr angenrheidiol gan eich athro neu eich tiwtor.

Adnewyddu a chardiau coll

Mae Cerdyn Allanol Llyfrgell ac Archifau yn ddilys am bum mlynedd o’r dyddiad cyhoeddi, a gellir eu hadnewyddu gyda phrawf adnabod a chyfeiriad.

Gellir rhoi tocynnau newydd yn lle rhai wedi’u collu, eu niweidio neu eu dwyn gyda phrawf adnabod a chyfeiriad.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?