Gwersyll Haf Tsienia 2020
Gwersyll Haf Sefydliad Confucius 2020
Gwybodaeth Pwysig: Bu'n rhaid canslo Gwersyll Blynyddol 2020 yn Tsieina eleni oherwydd pandemig Covid-19.
pandemig Covid-19.
Gwahoddir myfyrwyr yn awr i wneud cais i fynd i Wersyll Haf blynyddol y Sefydliad Confucius (SC) yn Tsieina. Fe’i cynhelir eleni o 6 i 19 o Orffennaf 2020.
Beth sydd wedi ei gynnwys?
Bydd 20 unigolyn o Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn ymuno ag eraill o Sefydliadau Confucius yn Bucharest, Romania a Barbados ar daith bythefnos i Tsieina. Bydd yn cynnwys arhosiad hir yn Beijing ac ymweliad â Tai'an yn Nhalaith Shandong yn Tsieina. Darperir amserlen ac, unwaith y byddwn yn Tsieina, arweinir y grŵp gan Arweinwyr Fyfyrwyr o’n corff cyllido, Hanban, a’n partner Prifysgol Beijing - Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith Tsieina. Disgwylir i rai fydd yn mynd i’r Gwersyll Haf dalu am eu tocynnau hedfan o’r Deyrnas Unedig i Tsieina ac yn ôl (mae prisiau fel arfer yn amrywio rhwng £400 a £700). Hefyd bydd angen iddynt dalu eu ffioedd fisa eu hunain (tua £150) ac yswiriant teithio. Bydd yr holl gostau eraill (ac eithrio rhai personol) o fewn Tsieina (llety, bwyd, teithio i Suzhou etc.) yn cael eu talu gan Hanban, y corff sy’n cyllido Sefydliad Confucius.
Pwy sy’n gymwys i wneud cais?
Gofynion eraill:
Fel rhan o’r Gwersyll Haf, gofynnir i’r rhai fydd yno sefyll arholiad Prawf Hyfedredd Tsieinëeg (HSK) lefel 1 (Mandarin sylfaenol - deall geiriau a brawddegau syml) ar eu hymweliad â Tsieina. Er mwyn paratoi at yr arholiad bydd Sefydliad Confucius yn darparu cyfres o ddosbarthiadau hyfforddi (30 awr o wersi Tsieinëeg i gyd), a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor dros bum Sadwrn llawn ym Mai/Mehefin, 10am-4pm (union ddyddiadau i’w cadarnhau). Bwriad yr arholiad yw dangos ymrwymiad i ddysgu Mandarin ac nid yw’n angenrheidiol ei basio. Gellir darparu hyfforddiant pellach ar ôl y Gwersyll Haf i rai sydd â diddordeb.
Sut i wneud cais
Rydym yn gwahodd ceisiadau’n awr ar gyfer Gwersyll Haf eleni. Disgwylir i’r lleoedd lenwi’n gyflym gan mai dim ond 20 sydd ar gael bob blwyddyn. Felly os hoffech ddod, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen gais (yma) sydd ynghlwm a’i dychwelyd i Lina Davitt (l.i.davitt@bangor.ac.uk) neu drwy’r post at: Lina Davitt Sefydliad Confucius, 9fed Llawr Adeilad Alun Roberts, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, LL57 2UW) erbyn dydd Llun 30 Mawrth fan bellaf.
Neilltuo lleoedd
Bydd y 20 lle terfynol yn cael eu pennu gan Hanban, ein corff cyllido. Ein nod yw rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio erbyn canol Ebrill, fel bod modd gwneud trefniadau teithio ymlaen llaw.
Diolch i chi am eich diddordeb yn ein Gwersyll Haf eleni. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.