
Ymchwil
Mae'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn manteisio nid yn unig ar y cyfoeth o ragoriaeth ac arbenigedd academaidd sydd ym Mangor, ond hefyd ar ragoriaethau ei bartner rhyngwladol, sef ysgol amlycaf y gyfraith yn China: y China University of Political Science and Law (CUPL), Beijing. Mae'r bartneriaeth hon wedi creu cysylltiadau arbennig o gryf ym maes y gyfraith, gyda llawer o gydweithio'n digwydd rhwng CUPL ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Mae ein cryfderau ymchwil craidd hefyd yn cynnwys y Gyfraith, Busnes, Cerddoriaeth, Ieithoedd Modern, Ieithyddiaeth ac Addysg ac, wrth ganolbwyntio ar y rhain a ffurfio partneriaethau strategol i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael, rydym yn anelu at ddatblygu portffolio ymchwil rhyngwladol a fydd yn pontio bylchau diwylliannol, economaidd a gwleidyddol rhwng Gogledd Cymru a China.
Gweithgareddau Academaidd
Fforymau/Seminarau/Darlithoedd
Ein Cyfarwyddwyr
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn manteisio hefyd ar arbenigedd academaidd ei dri Chyfarwyddwr. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.