Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
Helo o Fangor!
Yn y cylchlythyr hwn gallwn rannu â chi y newyddion gwych fod Prifysgol Bangor wedi cael ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ac yn Brifysgol Gynaliadwy'r Flwyddyn yn The Times and The Sunday Times Good University Guide 2027. Mae’n wych bod y gwaith rhagorol sy'n digwydd yn y sefydliad hwn yn cael ei gydnabod a gobeithiwn eich bod chi, fel aelodau gwerthfawr o deulu’r Brifysgol, yn falch o fod yn rhan o'r llwyddiant hwnnw.
Y mis hwn rydym yn gofyn a allwch chi helpu Prifysgol Bangor i barhau i gynhyrchu graddedigion o safon drwy gynnig interniaethau, lleoliadau a chefnogaeth yrfaol i'n myfyrwyr. Mae gallu manteisio ar rwydweithiau a phrofiadau cyn-fyfyrwyr yn rhoi hwb gwirioneddol i gyflogadwyedd ein myfyrwyr, felly byddem wrth ein boddau’n clywed gennych os oes modd i chi helpu. Gweler isod am fwy o fanylion.
Os oes gennych unrhyw ddiweddariadau yr hoffech eu rhannu â ni, cysylltwch â ni ar alumni@bangor.ac.uk
Dymuniadau gorau,
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru
Mae Prifysgol Bangor wedi’i henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ac yn Brifysgol Gynaliadwy’r Flwyddyn yn The Times and The Sunday Times Good University Guide 2027.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi codi chwe safle yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, gan ddringo o safle 59 i 53 allan o 130 o sefydliadau. Mae'r canlyniadau hyn yn cynrychioli cynnydd gwerth 7% yn sgôr gyffredinol Prifysgol Bangor ac yn adeiladu ar gynnydd o bum safle'r Brifysgol a gyflawnwyd y llynedd.
Mae pum maes pwnc Prifysgol Bangor wedi eu rhestru yn y chwartel uchaf yn genedlaethol, gan gynnwys tri sydd ymhlith y 10% uchaf o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig: Celf a Dylunio (safle 5 allan o 81 o sefydliadau), Astudiaethau Diwylliannol (safle 2 allan o 27 o sefydliadau, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu astudiaethau Cymreig, Celtaidd a meysydd cysylltiedig), a Radiograffeg (safle 3 allan o 29 o sefydliadau).
Interniaethau a lleoliadau: Allwch chi helpu?
Mae Prifysgol Bangor yn galw ar ein cymuned o gyn-fyfyrwyr i ofyn a fyddai modd i chi a/neu eich sefydliad gefnogi ein myfyrwyr gyda gweithgareddau gyrfaoedd a chyflogadwyedd gan gynnwys profiad gwaith, lleoliadau ac interniaethau.
Heddiw, mae angen mwy na gradd ar raddedigion i wneud i'w CV sefyll allan ac mae ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr yn adnodd gwych er mwyn gallu cynnig y gefnogaeth ychwanegol y mae ar fyfyrwyr ei hangen i hybu eu cyflogadwyedd.
Os oes gennych chi neu eich cwmni rywbeth y gallech ei gynnig i'n myfyrwyr, buasem yn ddiolchgar pe baech yn treulio ychydig funudau’n llenwi’r ffurflen fer yma.
Byddai'n wych pe gallai ein cymuned o gyn-fyfyrwyr gefnogi llwyddiant myfyrwyr Prifysgol Bangor yn y dyfodol fel hyn.
Cyfle i enwebu - Graddau er Anrhydedd 2027
Gwahoddir cyn-fyfyrwyr i gyflwyno enwebiadau ar gyfer unigolion eithriadol i dderbyn Gradd Er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2027.
Mae'r Brifysgol yn dymuno rhoi cydnabyddiaeth i bobl sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i gymdeithas, sy'n ymgorffori gwerthoedd y Brifysgol ac sy'n haeddu cydnabyddiaeth arbennig am y bri sydd ganddynt yn eu priod faes.
Mae gan y Brifysgol gysylltiadau parhaus gyda’i Graddedigion er Anrhydedd a daw'r bobl sydd wedi eu henwebu yn y gorffennol o feysydd y gwyddorau a thechnoleg, gwasanaethau cyhoeddus, diwydiant, darlledu, y byd academaidd, y celfyddydau, diwydiant a chwaraeon. Roedd derbynwyr Graddau er Anrhydedd 2026 yn grŵp nodedig o unigolion a oedd yn cynrychioli cyflawniad a dylanwad ledled Cymru a thu hwnt.
Bydd yr enwebiadau'n cael eu hystyried gan Bwyllgor Graddau a Chymrodoriaethau er Anrhydedd y Brifysgol a gwahoddir y rhai a anrhydeddir i fynychu seremonïau graddio ym Mangor un ai ym mis Gorffennaf neu mis Rhagfyr 2027.
Mae cynhwysiant ac amrywiaeth yn elfennau pwysig o Strategaeth 2030 y Brifysgol ac felly mae croeso arbennig i enwebiadau ar ran menywod a grwpiau eraill sy'n aml yn cael eu tangynrychioli. Gall cyn-weithwyr gael eu hanrhydeddu o bryd i'w gilydd am wasanaeth eithriadol i'r sefydliad a / neu lle mae eu cyflawniad wedi cael effaith unigryw y tu hwnt i'r cwmpas arferol. Yn ogystal, nid yw'r cyflawniadau canlynol ynddynt eu hunain yn rheswm digonol dros ystyried enwebiad: unigolion sy'n dal swydd gyhoeddus etholedig ar hyn o bryd, gweithredoedd dyngarol, neu derbyn clod poblogaidd. Fodd bynnag, ni fyddent yn rhwystr pe bai meini prawf eraill yn cael eu bodloni.
Gellir gwneud enwebiadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 17:00, Dydd Llun, 30fed Tachwedd 2026.
Athrawon Gwadd yr Academi Peirianneg Frenhinol, y ddau yn gyn-fyfyrwyr
Bydd Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg yn croesawu dau Athro Gwadd, a ariennir gan yr Academi Peirianneg Frenhinol (Royal Academy of Engineering, RAEng), dros y tair blynedd academaidd nesaf. Mae'r ddau ohonynt yn gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae'r cynllun Athro Gwadd yn ariannu peirianwyr diwydiannol ac entrepreneuriaid profiadol i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm ac o ddatblygu dulliau arloesol o addysgu a dysgu peirianneg.
Mae gan Dr Rebecca Heaton (Coedwigaeth, 1993) mwy na 25 mlynedd o brofiad mewn sefydliadau mawr, gan gynnwys Lloyds Banking Group, Shell a BP, ac mae wedi ennill bri fel un o arbenigwyr blaenllaw'r DU ym maes cynaliadwyedd. Bydd Rebecca yn cefnogi datblygiad y rhaglen israddedig newydd mewn Peirianneg Fecanyddol gyda Deunyddiau drwy gyflwyno'r cwricwlwm, profiadau dysgu seiliedig ar broblemau a mentora.
Mae Graham Sargood (Peirianneg Electronic, 1998 a MSc, 1990) yn Gadeirydd ac yn Brif Swyddog Gweithredol profiadol gyda hanes llwyddiannus o ddatblygu cwmnïau technoleg amrywiol, o'r camau cychwynnol hyd at eu gwerthu. Bydd Graham yn canolbwyntio ar entrepreneuriaeth drwy darparu cwrs busnes cyflym i beirianwyr er mwyn iddynt ddeall yr heriau a'r cyffro sy'n gysylltiedig â chymryd syniad, ymchwil neu ddyfais a sefydlu cwmni sydd wedi'i ariannu ac sy'n cynhyrchu refeniw.
Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg yn edrych ymlaen at weithio gyda'r ddau ohonyn nhw.
Mae Ymgyrch Telethon Hydref Cronfa Bangor ar y Gweill
Mae ymgyrch Telethon i godi arian ar gyfer Cronfa Bangor yn cael ei chynnal y mis nesaf. Caiff yr ymgyrch ei rhedeg gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni. Yn ystod yr ymgyrch, bydd myfyrwyr presennol yn cysylltu â chyn-fyfyrwyr dros y ffôn i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf o'r campws, i hel atgofion am eu cyfnod ym Mangor, ac i dynnu sylw at yr effaith y mae cefnogaeth cyn-fyfyrwyr yn ei chael.
Y gwanwyn diwethaf, cafwyd addewidion gan ein cyn-fyfyrwyr o £52,000 yn ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn galluogi Cronfa Bangor i ddarparu bwrsariaethau, teithiau maes, projectau cynaliadwyedd, mentrau llesiant, gweithgareddau cyflogadwyedd, a llawer mwy o brojectau sy'n ychwanegu gwerth at brofiad myfyrwyr.
Meddai Persida Chung, Swyddog Datblygu Cronfa Bangor: “Mae’r ymgyrch Telethon yn gyfle gwych i fyfyrwyr gysylltu â chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor dros y ffôn, i rannu newyddion a phrofiadau, a chryfhau cymuned ehangach y brifysgol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i gyn-fyfyrwyr a chymrodyr er anrhydedd am roi o’u hamser i sôn am eu bywydau a’u gyrfaoedd ers gadael Bangor. Mae’r cyngor a’r geiriau o anogaeth y byddant yn eu rhoi i’n myfyrwyr o werth aruthrol iddynt â hwythau ar fin gwneud penderfyniadau arwyddocaol ynghylch eu dyfodol eu hunain.”
Rydym yn annog cyn-fyfyrwyr i roi'r gair led am yr ymgyrch Telethon ymhlith eu rhwydweithiau eu hunain er mwyn helpu i ddathlu'r haelioni sy'n parhau i wneud gwahaniaeth i fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Os hoffech chi dderbyn galwad gan un o'n myfyrwyr yn ystod yr ymgyrch hon, cysylltwch â Persida.
Dysgwch am y projectau sy’n cael eu cefnogi trwy roddion gan gyn-fyfyrwyr i Gronfa Bangor yma.
Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn mordaith ymchwil
Yr haf hwn, diolch i gefnogaeth rhoddion cyn-fyfyrwyr i Gronfa Bangor, cafodd chwech o fyfyrwyr Prifysgol Bangor brofiad gwerthfawr iawn wrth gymryd rhan mewn mordaith ymchwil bwysig sy’n ymchwilio i’r effaith a gaiff treillio ar allu'r cefnfor i amsugno carbon deuocsid (CO₂).
Mordaith ryngddisgyblaethol oedd hon ar fwrdd yr RRS Discovery, sef llong ymchwil Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yr Athro Jan Hiddink, sy’n Athro mewn Bioleg Môr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, oedd yn arwain y fordaith, a buont yn casglu samplau dros rannau helaeth o’r moroedd i’r gorllewin o’r Deyrnas Unedig.
Ymunodd y myfyrwyr â'r fordaith am gyfnod o rhwng pythefnos a phedair wythnos, a buont yn cyfrannu trwy wneud pethau megis casglu data ar fwrdd y llong ac yn y labordai.
Dywedodd Peggy Gordon, Myfyrwyr Bioleg Môr ac Eigioneg (BSc): "Mae hwn yn brofiad sydd wir am ddylanwadu ar fy astudiaethau a dylanwadu ar ba ymchwil dwi eisiau bod yn rhan ohono yn y dyfodol ym maes symudedd a suddfannau carbon. Diolch yn fawr iawn i'r cyn-fyfyrwyr sydd wedi cyfrannu at Gronfa Bangor er mwyn gwneud hyn yn bosib."
Cymynrodd cyn-fyfyriwr yn cefnogi ymchwil amgylcheddol a datblygiad myfyrwyr
Mae pedwar project ymchwil amgylcheddol wedi arwain at ddatblygiadau gwyddonol sylweddol gan ychwanegu at waddol y cyn-fyfyriwr Dr Robert Perrin (Gwyddor Pridd, 1948), Roedd y projectau’n canolbwyntio ar forfeydd heli, llygredd plastig yn y môr, ecosystemau carbon glas ac adfer morwellt, ac maent wedi dangos sut y gall cefnogaeth ddyngarol sbarduno rhagoriaeth ymchwil wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol.
Trwy’r grantiau daeth academyddion o Brifysgol Bangor a myfyrwyr israddedig at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o’r heriau amgylcheddol mwyaf dybryd. Ynghyd â chynhyrchu gwybodaeth newydd, mae’r projectau wedi cryfhau partneriaethau ymchwil, wedi gwella cyfleusterau arbenigol ac wedi cynnig profiad ymarferol o ran gwaith maes, technegau labordy a dadansoddi gwyddonol.
Drwy gyfrwng darganfyddiadau newydd, cydweithrediadau cryfach a phrofiadau trawsnewidiol i fyfyrwyr, mae'r projectau hyn yn parhau i adlewyrchu ymrwymiad Dr Robert Perrin i hyrwyddo ymchwil amgylcheddol a chefnogi dyfodol mwy cynaliadwy.
Archwilio ffyrdd o gefnogi Prifysgol Bangor drwy adael cymynrodd yn eich ewyllys
FE'CH GWAHODDIR: DIGWYDDIADAU PRIFYSGOL BANGOR
Ymweld ag Amgueddfa Prifysgol Bangor
Mae’r Amgueddfa Byd Natur yn Adeilad Brambell yn arddangos sbesimenau o gasgliadau swoleg a daeareg y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys sgerbydau llawn, penglogau, tacsidermi, rheiddiau, entomoleg, molysgiaid, sbesimenau mewn hylif, ffosiliau a mwynau.
Oherwydd y casgliadau hyn, mae Prifysgol Bangor wedi cael ei hachredu â statws amgueddfa, sef y safon i amgueddfeydd ymgyrraedd ati. Caiff y casgliad swoleg hefyd ei ddefnyddio at ddibenion addysgu, ac mae'r casgliad rhyfeddol hwn yn parhau i ysbrydoli cymuned y Brifysgol a'r gymuned ehangach.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae rheiddiau elc o Iwerddon sydd tua 7,500 oed, sgerbwd cythraul Tasmania, oen gyda dau ben, amrywiaeth o adar o Seland Newydd, a chrwban Galapagos.
Dydd Sadwrn, 31 Hydref 2026:
· 11:00am – 11:45am
· 12:00pm – 12:45pm
· 2:00pm – 2:45pm
Rhaid archebu lle ymlaen llaw: Er mwyn gwella profiad ymwelwyr a sicrhau y gall pawb weld yr arddangosfeydd, dim ond hyn a hyn o bobl fydd yn cael mynediad ar y tro. Bydd angen dangos cadarnhad o’ch archeb i gael mynediad. Am resymau iechyd a diogelwch, dim ond i’r cyfnod amser yr ydych wedi'i archebu y bydd eich tocyn yn ddilys, a daw pob ymweliad i ben ar ôl 45 munud.
Dewch â'ch chwilfrydedd a'ch creadigrwydd i ddarganfod bwystfilod bach rhyfeddol byd natur a chael eich ysbrydoli ganddynt!
Ariennir y digwyddiadau hyn drwy gyllid grant gan Lywodraeth Cymru drwy Dîm Amgueddfeydd yr Adran Ddiwylliant, a chan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
Bwystfilod Bach: Gŵyl Amgueddfeydd Cymru
Ymunwch â ni am ddiwrnod creadigol a theuluol ar ddydd Sadwrn 31 Hydref yn yr Amgueddfa Byd Natur yn Adeilad Brambell, Prifysgol Bangor fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.
Gweithdai Ffeltio gyda Nodwydd i Blant (8–12 Oed) .
Bydd yr artist lleol Elen Williams yn arwain dau weithdy ymarferol, lle caiff plant gyfle i ddysgu ffeltio gyda nodwydd er mwyn creu eu Bwystfilod Bach eu hunain, wedi eu hysbrydoli gan y natur a'r sbesimenau diddorol sydd i’w cael yng nghasgliadau'r Amgueddfa.
Amseroedd y Gweithdy:
· 10:00am – 12:00pm
· 1:00pm – 3:00pm
Nifer y llefydd: Dim mwy na 10 plentyn ym mhob sesiwn
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond Rhaid archebu (Noder bod rhaid i bob plentyn fod ag oedolyn gyda nhw drwy gydol yr ymweliad.)
Arddangosfa David Woodford
"Bod Yno"
Noson gyda David Woodford: Agoriad yr Arddangosfa
5 Tachwedd 2026
6pm, Pontio
Ymunwch â ni i ddathlu'r artist a’r aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig, David Woodford, ar gyfer agoriad ei arddangosfa Bod Yno (Being There).
"Celfyddyd Gain – A Beth i'w Wneud Amdani", adfyfyrdod personol gan David Woodford.
Yn y sgwrs agoriadol hon, mae'r arlunydd tirwedd a’r aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig, David Woodford, yn rhannu ei fyfyrdodau o oes wedi'i chysegru i gelfyddyd. Gan dynnu ar ei brofiad ei hun fel artist, mae'n archwilio beth sy'n gwneud celfyddyd gain yn ystyrlon, y cysylltiadau rhwng harddwch, arsylwi a dealltwriaeth, a pham mae celf yn parhau i fod yn bwysig mewn byd sy'n gynyddol llawn delweddau.
Mae Woodford yn ystyried sut mae celfyddyd yn helpu i lunio ein synnwyr o ddiwylliant, hunaniaeth a lle, ac yn adfyfyrio ar bwysigrwydd gwneud treftadaeth artistig yn hygyrch i bawb. Gan gyfuno mewnwelediad personol ag angerdd gydol oes dros beintio, mae Woodford yn cynnig persbectif diddorol ac sy’n ysgogi’r meddwl, ar rôl celfyddyd wrth gyfoethogi ein bywydau.
Mae'r sgwrs ddifyr hon yn cynnig cyfle unigryw i glywed yn uniongyrchol gan un o artistiaid tirwedd mwyaf uchel eu parch Cymru.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld ar lawr gwaelod Pontio o 5 Tachwedd 2026 hyd at 31 Ionawr 2027.
Croeso i bawb
Archebwch eich lle ar gyfer y sgwrs
Gwasanaeth Dydd y Cofio'r Brifysgol
Cynhelir Gwasanaeth Dydd y Cofio byr yma ym Mhrifysgol Bangor, dydd Mercher, 11 Tachwedd, yn y Cwad Allanol, Prif Adeilad y Celfyddydau (neu dan do yn Neuadd Powis os bydd y tywydd yn wael).
Arweinir y gwasanaeth gan y Parchedig John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 10:45am ac yn para oddeutu 15 munud yn cynnwys dau funud o dawelwch am 11:00am.
Mae croeso i bawb.
Perfformiad cryf i bynciau'r Celfyddydau a'r Dyniaethau yn University Guide 2027 y Guardian
Mae staff yn Ysgol newydd y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu perfformiad cryf yn y Guardian University Guide 2027, gyda thri maes pwnc yn sicrhau safleoedd arbennig o uchel yn genedlaethol.
Mae Ieithoedd ac Ieithyddiaeth yn 4ydd yn y DU, tra bod Hanes yn 9fed a Ffilm a’r Cyfryngau yn 15fed. Mae’r canlyniadau’n gydnabyddiaeth galonogol o ansawdd yr addysgu a phrofiad y myfyrwyr ar draws y meysydd pwnc hyn, sy’n rhan bwysig o Ysgol newydd y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Prynhawn Agored Canolfan Bedwyr
Mae Canolfan Bedwyr, canolfan arloesol ym Mhrifysgol Bangor sy’n darparu gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg ar gyfer y Gymraeg, yn dathlu pen-blwydd yn 30 oed y flwyddyn yma.
Mae gwaith craidd y ganolfan yn ymwneud â chefnogi dau o nodau strategol y Brifysgol sef cryfhau darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol a datblygu defnydd o’r Gymraeg yn y Brifysgol a’r rhanbarth.
Fel rhan o ddathliadau Canolfan Bedwyr yn 30 oed, croesawyd staff a rhanddeiliaid allanol i adeilad Dyfrdwy yn y Ganolfan Rheolaeth am baned a theisen a sgwrs i ddysgu mwy am sut mae Canolfan Bedwyr yn cefnogi staff i weithio mewn prifysgol ddwyieithog. Roedd cyfle i gael blas ar y gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd ym maes technolegau iaith, polisi, cyfieithu, hyfforddiant, newid ymddygiad, hyrwyddo a therminoleg.
Galwad am gyfraniadau i The Bridge
Mae’r Ysgol Gwyddorau Eigion yn gweithio ar rifyn Gaeaf 2026 o The Bridge, cylchlythyr yr Ysgol.
Os oes gennych eitemau newyddion i'w cynnwys, fel ddiweddariadau ynglŷn â’ch gyrfa, adroddiadau o'ch cyflawniadau neu proffil byr am eich cwmni, anfonwch eich cyfraniadau drwy e-bost, gyda lluniau o ansawdd print os yn bosib, i alumni@bangor.ac.uk erbyn Dydd Llun, 19 Hydref.
Gallwch ddarllen rhifynnau blaenorol o The Bridge yma.
Cyllid AHRC gwerth £858,000 am broject i ddiogelu stori Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych
Mae Prifysgol Bangor wedi sicrhau cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer project tair blynedd, i ymchwilio, ailadeiladu'n ddigidol, a rhannu stori Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, adeilad sydd â hanes cymhleth a stigma yng Nghymru.
Wedi’i agor yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel yr unig ysbyty seiciatrig yng Nghymru i drin cleifion trwy gyfrwng y Gymraeg, caeodd ‘Seilam Dinbych’, a elwid yn ddiweddarach yn Ysbyty Gogledd Cymru, am byth yn 1995. Yn y tri deg mlynedd ers hynny, mae ei adfeilion trawiadol wedi denu chwilotwyr trefol a chriwiau teledu sy'n hela ysbrydion o bob cwr o'r byd.
Bydd y project Voices in the Walls: The Social Afterlife of Asylum Architecture and the Heritage Politics of Mental Health in North Wales, a arweinir gan yr Athro Lucy Huskinson, yn dechrau ym mis Ionawr 2027.
Gwobr Ymgysylltu Ecolegol 2026 i Athro Bangor
Mae’r Athro Julia Jones MBE wedi cael ei ddyfarnu gyda Gwobr Ymgysylltu Ecolegol 2026 gan Cymdeithas Ecolegol Prydain.
Mae'r wobr yn cydnabod pwysigrwydd cyfleu gwyddoniaeth ecolegol a chaiff ei chyflwyno i ecolegydd gweithredol sy'n llwyddo i bontio'r bwlch rhwng ymchwil wyddonol, disgyblaethau eraill a'r cyhoedd ehangach. Mae Julia yn un o wyth ecolegydd a gydnabyddir yng ngwobrau blynyddol y gymdeithas, sy'n dathlu unigolion y mae eu gwaith wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y gymuned wyddonol a chymdeithas yn ehangach.
Academydd wedi'i ethol yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithas
Derbyniodd Khaled Hussainey, Athro Cyfrifeg yn Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, y Gymrodoriaeth bwysig yn dilyn ei enwebiad gan y British Accounting & Finance Association (BAFA).
Mae gan yr Athro Khaled Hussainey, a ymunodd â Phrifysgol Bangor yn 2024, fwy na phum mlynedd ar hugain o brofiad addysgu ac mae ei enw da am ymchwil ym maes cyfrifeg a chyllid yn cynyddu..
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar adrodd naratif corfforaethol, sy'n cynnwys cymryd datganiadau ariannol ac egluro'r stori y tu ôl i'r data.
Tîm ymchwil meddygol yn ennill gwobr am eu gwaith ym maes gwella diogelwch cleifion
Mae tîm ymchwil meddygol dan arweiniad arbenigwyr wedi ennill Gwobr John Horder 2026 am eu gwaith ym maes gwella diogelwch cleifion.
Cafodd y tîm, sydd yn cynnwys Dr Rebecca Payne, sy’n Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Bangor, ei wobrwyo gan y Centre for the Advancement of Interprofessional Education (CAIPE) a'r Gymdeithas Feddygol Frenhinol.