Ffarmacoleg: Y wyddor y tu ôl i sut mae cyffuriau’n gweithio
Ffarmacoleg yw'r astudiaeth wyddonol o gyffuriau - sut maent yn cael eu datblygu, sut maent yn rhyngweithio â systemau biolegol, pa effeithiau maent yn eu cynhyrchu, a sut y gellir eu defnyddio i drin clefydau. Mae'n ddisgyblaeth sydd ar groesffordd cemeg, bioleg a meddygaeth, ac mae'n sail i bob triniaeth newydd a gynigir i gleifion unrhyw le yn y byd.
Ym Mangor, ni fyddwch yn dysgu am ffarmacoleg yn unig - byddwch yn ymwneud â ffarmacoleg. Cewch eich addysgu gan ymchwilwyr sy'n cyfrannu'n weithredol at y maes, byddwch yn datblygu'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau labordy ymarferol i roi eich stamp ar wyddoniaeth.
Mae gradd ffarmacoleg yn agor drysau i amrywiaeth hynod o yrfaoedd. Mae llawer o raddedigion yn dechrau mewn ymchwil labordy - yn y byd academaidd, y diwydiant fferyllol neu fiodechnoleg - ond mae'r posibiliadau'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r labordy. Mae ffarmacolegwyr yn gweithio ym meysydd cyfathrebu gwyddoniaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd, materion rheoleiddio, polisi iechyd, ymchwil clinigol ac asesu technoleg iechyd y GIG. Mae'n gymhwyster sy'n eich tywys lle bynnag y mae eich chwilfrydedd yn eich arwain.
Bydd eich astudiaethau'n canolbwyntio ar weithred cyffuriau ar bob lefel - o sut mae moleciwl yn rhyngweithio â derbynnydd i sut mae cyffuriau'n symud trwy'r corff (ffarmacocineteg), sut maent yn cynhyrchu eu heffeithiau (ffarmacodynameg), a sut mae sylweddau gwenwynig yn effeithio ar systemau byw (tocsicoleg). Byddwch yn adeiladu sylfaen wyddonol gref wrth ddatblygu'r sgiliau ymarferol i gymhwyso eich gwybodaeth mewn lleoliadau ymchwil go iawn.
Mae'r BSc Ffarmacoleg yn rhaglen tair blynedd sy'n meithrin eich arbenigedd gwyddonol trwy gyfuniad o ddosbarthiadau labordy, darlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfuniad o arholiadau, gwaith cwrs a gwerthusiadau ymarferol — pob un wedi ei gynllunio i sicrhau eich bod yn gadael Bangor gyda'r wybodaeth a'r profiad ymarferol y mae cyflogwyr a rhaglenni ôl-radd yn chwilio amdanynt.
Mae'r darlithwyr yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn arbenigwyr gyda chefndir rhyfeddol ac angerdd am eu pynciau unigol. Mae'r cyfleusterau ym mhrifysgol Bangor ymhlith y gorau a bu'n fraint cael mynediad i'r rhain a gweithio o fewn Canolfan Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin.
Rwyf wedi mwynhau bod ym Mangor yn fawr iawn ac yn caru awyrgylch y brifysgol. Mae'n brifysgol fach felly rydych chi'n dod i adnabod eich darlithwyr a'ch tiwtor personol ac yn y pen draw rydych chi'n mwynhau mynd i ddarlithoedd a chael yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Nid dim ond myfyriwr coll arall ydych chi - ond rydych chi'n aelod gwerthfawr ac wedi'ch gwthio hyd eithaf eich gallu gyda chefnogaeth anhygoel.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ffarmacoleg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Ffarmacoleg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Ffarmacoleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?