Fideo - Astudio Nyrsio
Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Nyrsio sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Nyrsio
Mae datblygiadau mewn triniaethau a thechnoleg yn creu cyfleoedd gyrfa newydd i nyrsys cofrestredig sy'n darparu gwahanol wasanaethau, yn cyflawni gwahanol swyddogaethau ac yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio o fewn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae cyfleoedd gyrfa yn amrywio o weithio fel nyrs staff mewn ysbyty neu yn y gymuned, er enghraifft, i swyddi mwy arbenigol ac arweiniol fel nyrsys arbenigol neu ymgynghorol. Mae sawl math o swydd ar gael i nyrsys cofrestredig ac maent yn cynnig datblygiad a dilyniant gyrfa o nyrs staff i nyrs arbenigol, rheolwr ward, metron, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr ac ymgynghorydd nyrsio ym mhob maes. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am yrfaoedd mewn nyrsio yma.
Ein Hymchwil o fewn Nyrsio
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn REF 2014 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil feddygol, ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.