Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Fferylliaeth a Ffarmacoleg?
Efallai bod Fferylliaeth a Ffarmacoleg yn rhannu sylfaen mewn meddyginiaethau, ond mae'r llwybrau y maent yn eu cynnig yn unigryw i chi eu harchwilio.
Os ydych yn cael eich denu at ofal cleifion ac eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, mae Fferylliaeth yn cynnig llwybr ymarferol sy'n canolbwyntio ar bobl. Os oes gennych ddiddordeb mewn sut mae cyffuriau'n gweithio ac eisiau llunio dyfodol triniaethau, mae Ffarmacoleg yn agor drysau i feysydd ymchwil, arloesi a pholisi.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae'r ddau gwrs yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr ac wedi'u seilio ar y datblygiadau gwyddonol diweddaraf felly pa bynnag lwybr a ddewiswch, byddwch yn cael eich cefnogi i ffynnu.
Fferylliaeth: Proffesiwn gofal iechyd claf-ganolog
Mae fferylliaeth yn broffesiwn ymarferol sy'n canolbwyntio ar bobl, lle byddwch yn hyfforddi i ddod yn fferyllydd cymwysedig.
Mae fferyllwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol, gan weithio'n agos gyda chleifion, meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i lywio penderfyniadau ynghylch presgripsiynau, dosiau a sgil effeithiau.
Os ydych yn cael eich cymell drwy helpu eraill ac eisiau gwneud effaith ystyrlon yn eich cymuned, mae Fferylliaeth yn cynnig llwybr uchel ei barch a gwerth chweil i faes gofal iechyd.
Mae Fferylliaeth ym Mhrifysgol Bangor yn fwy na gradd — mae'n llwybr i broffesiwn gofal iechyd uchel ei barch lle byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl. Mae'r rhan fwyaf o raddedigion yn mynd ymlaen i fod yn fferyllwyr trwyddedig, gan weithio mewn ysbytai, fferyllfeydd cymunedol, neu'r diwydiant fferyllol i sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol.
I ddod yn fferyllydd, byddwch yn cwblhau cwrs gradd MPharm, ac yna blwyddyn hyfforddiant sylfaen ac arholiad cofrestru'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC). Byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd, gan eich helpu i feithrin y wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau clinigol i lwyddo.
Mae’r cwricwlwm Fferylliaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi'i gynllunio o amgylch yr holl agweddau ar feddyginiaethau — o’u darganfod a’u datblygu i’w cyflenwi a gofal cleifion. Byddwch yn archwilio sut mae cyffuriau'n rhyngweithio â'r corff, sut y cânt eu llunio a'u rheoli, a sut mae fferyllwyr yn sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd mewn lleoliadau byd go iawn.
Mae’r claf wrth wraidd popeth. Byddwch yn dysgu i feddwl yn feirniadol am sut mae meddyginiaethau'n diwallu anghenion unigol, a sut mae fferyllwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth wella canlyniadau iechyd.
Bydd eich addysg yn ymarferol, yn glaf-ganolog, ac wedi'i seilio ar brofiad go iawn. Byddwch yn ymgymryd â lleoliadau mewn fferyllfeydd a thebyg, yn gweithio mewn amgylcheddau efelychiadol, ac yn dysgu trwy weithdai, tiwtorialau a darlithoedd. Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau ymarferol mewn labordai ac yn cael eich asesu trwy Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCEs), gwaith cwrs, a phortffolios adfyfyriol - pob un wedi'i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer realiti ymarfer proffesiynol.
Ffarmacoleg: Y wyddor y tu ôl i sut mae cyffuriau’n gweithio
Mae Ffarmacoleg yn ddelfrydol i fyfyrwyr sy'n chwilfrydig am y wyddor y tu ôl i feddyginiaethau. Mae'n canolbwyntio ar sut mae cyffuriau'n rhyngweithio â'r corff, sut y cânt eu datblygu, a sut y cânt eu gwerthuso am ddiogelwch ac effeithiolrwydd.
Mae ffarmacolegwyr yn aml yn gweithio ym meysydd ymchwil, rheoleiddio neu arloesi gan gyfrannu at dreialon clinigol, polisi a phrofi cyffuriau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mecanweithiau gweithredu ac eisiau siapio dyfodol triniaethau, mae Ffarmacoleg yn cynnig llwybr hyblyg, dan arweiniad ymchwil, i ddiwydiant a’r maes gofal iechyd.
Mae Ffarmacoleg yn agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd, o wneud ymchwil mewn labordy i swyddi sy'n ymwneud ag arloesi a llunio polisi gofal iechyd. Mae llawer o raddedigion yn dechrau yn y diwydiannau fferyllol a biotechnoleg neu drwy wneud ymchwil academaidd, ond mae cyfleoedd hefyd yn bodoli ym meysydd cyfathrebu gwyddoniaeth, ymgysylltu â'r cyhoedd, a materion rheoleiddio. Mae rhai ffarmacolegwyr yn cyfrannu at asesiadau technoleg iechyd y GIG, gan helpu i werthuso triniaethau newydd a gwella canlyniadau cleifion.
Mae Ffarmacoleg yn ymwneud â deall sut mae cyffuriau'n gweithio - o sut maent yn symud trwy'r corff (ffarmacocineteg) i sut maent yn cynhyrchu effeithiau (ffarmacodynameg) a'r risgiau posibl (tocsicoleg). Byddwch yn archwilio sut mae meddyginiaethau'n rhyngweithio â systemau biolegol a sut y gellir eu datblygu a'u gwella. Mae'r cwrs yn cyfuno damcaniaeth â phrofiad ymarferol yn y labordy, gan roi'r offer i chi i feddwl yn feirniadol a gweithio'n hyderus mewn amgylcheddau gwyddonol.
Mae’r radd BSc tair blynedd mewn Ffarmacoleg wedi'i datblygu gan ddefnyddio sylfaen wyddonol gref. Byddwch yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau yn y labordy sy'n dod â theori’n fyw, wedi'u cefnogi gan ddarlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Mae asesiadau'n cynnwys arholiadau, gwaith cwrs, a gwerthusiadau ymarferol - pob un wedi'i gynllunio i'ch helpu i feithrin dealltwriaeth eang a chymhwysol o wyddor cyffuriau, a’ch paratoi ar gyfer gyrfa ym meysydd ymchwil, rheoleiddio, neu ddiwydiant.
Mae'r darlithwyr yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn arbenigwyr gyda chefndir rhyfeddol ac angerdd am eu pynciau unigol. Mae'r cyfleusterau ym mhrifysgol Bangor ymhlith y gorau a bu'n fraint cael mynediad i'r rhain a gweithio o fewn Canolfan Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin.
Rwyf wedi mwynhau bod ym Mangor yn fawr iawn ac yn caru awyrgylch y brifysgol. Mae'n brifysgol fach felly rydych chi'n dod i adnabod eich darlithwyr a'ch tiwtor personol ac yn y pen draw rydych chi'n mwynhau mynd i ddarlithoedd a chael yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Nid dim ond myfyriwr coll arall ydych chi - ond rydych chi'n aelod gwerthfawr ac wedi'ch gwthio hyd eithaf eich gallu gyda chefnogaeth anhygoel.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ffarmacoleg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Ffarmacoleg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Ffarmacoleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?