LLun tanddwr o bysgod mewn riff

Bioleg Môr

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Pam Astudio Bioleg Môr?

Mae'r cynnydd ym mhoblogaeth y byd, ynghyd â heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn rhoi pwysau cynyddol ar adnoddau'r Ddaear. Mae gan Fiolegwyr Môr rôl allweddol i'w chwarae yn natblygiad adnoddau bwyd cynaliadwy yn y dyfodol yn erbyn cefndir o newid yn yr hinsawdd a lefelau cynyddol o wastraff.

Gyda'i gilydd, mae pysgodfeydd sy'n dal o'r gwyllt a dyframaethu yn cynhyrchu ~200 miliwn tunnell o fwyd y flwyddyn, gyda photensial mawr i ehangu. Fel Biolegydd Môr, byddwch yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau i reoli'r adnoddau pwysig hyn, a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy fel bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei warchod.

Trwy astudio Bioleg Môr, byddwch yn meithrin y sgiliau gwerthuso beirniadol i nodi a diffinio problemau, a'r sgiliau dadansoddi i allu dod o hyd i atebion.

  • Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau môr ym Mhrydain.
  • Mae gennym long ymchwil fordwyol gwerth £3.5m, a thair llong lai ar y glannau.
  • Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys acwaria môr trofannol a thymherus, labordai dadansoddol, efelychwyr cludo llif a gronynnau a galluoedd cyfrifiadurol.

Mae gennym fynediad heb ei ail i'r môr a'r glannau, sy'n ddelfrydol ar gyfer gwneud gwaith arbrofol yn yr amgylchedd rhynglanwol.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Bioleg Môr. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Bioleg Môr llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Bioleg Môr ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Bioleg Môr ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Bioleg Môr

Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ymchwil Bioleg Môr sy'n ymestyn yn ôl dros 100 mlynedd. Mae ein hymchwil yn cynnwys parth llawn y môr, yn amrywio o gynefinoedd lled-ddaearol fel morfeydd heli, i'r môr dwfn, ac o'r pegynau i'r trofannau. Ar hyn o bryd mae gennym brojectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ffiordydd yr Antarctig a riffiau cwrel Cefnfor yr India.

Mae elfen bwysig o ymchwil Bioleg Môr yma ym Mangor yn canolbwyntio ar gadwraeth a rheoli adnoddau môr. Mae ein hymchwil yn edrych ar sut mae cynnwrf anthropogenig megis ecsbloetiaeth, rhywogaethau ymledol a newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ecosystemau'r môr, ac ar y dulliau gorau o reoli ac amddiffyn yr ecosystemau hyn.

Mae ein hymchwil yn sail i ddiwydiant pysgod o’r gwyllt a dyframaeth cynaliadwy. Mae hefyd yn ymdrin ag effeithiau ehangach pysgodfeydd a dyframaethu ar ecosystem y môr, a sut y gallant effeithio ar rywogaethau dalfeydd (pysgod eraill, adar môr, mamaliaid môr, organebau gwely'r môr) a chynefinoedd (e.e. riffiau, gwelyau morwellt). Mae hefyd yn sail i'n datblygiad o ddeorfeydd pysgod trofannol cynaliadwy.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?