Gan ddymuno i chi holl hud a lledrith yr ŵyl

Ffilm fer yr ŵyl Prifysgol Bangor

Cynhyrchwyd ein fideo byr i ddathlu dinas Bangor a’r gymuned arbennig ac amrywiol y mae ein Prifysgol yn rhan ohoni.

Roddem eisiau dymuno holl hwyl a lledrith yr ŵyl i'r gymuned.

Gwyliwch isod, a sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth ar sut a pham wnaethon ni wneud y ffilm!

GWYLIWCH FFILM YR ŴYL 2022 YMA

Y cysyniad

Gyda’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol, ein nod oedd cynhyrchu ffilm i godi ysbryd, sy’n uwcholeuo waith caled gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod y pandemig.

Wedi’i chynhyrchu fel anrheg i ddinas Bangor, mae’r stori’n dilyn merch fach sydd eisiau gweld ei mam sy’n weithiwr iechyd adeg y Nadolig, a gwyliwn wrth iddi fynd ar ôl orb o olau hudolus o amgylch rhai o leoliadau harddaf ein campws a'r ddinas.

Mae’r ffilm fer yn barhad o’n hymgyrch brand ‘Dewch i brofi'r hud a'r lledrith', a lansiwyd gyda hysbyseb deledu ym mis Tachwedd 2021.

Gwneud y ffilm

Cafodd y ffilm fer ei ffilmio dros ddwy noson ym mis Rhagfyr 2021, a buom yn gweithio ochr yn ochr â’r cwmni cynhyrchu ffilmiau 'Lush' i ddod â holl hud a lledrith yr ŵyl i’r ddinas.

Effeithiau gweledol

I ychwanegu elfen hudol at y ffilm, ychwanegwyd orb pefriog at y ffilm yn ystod y cyfnod ôl-gynhyrchu, gan ddefnyddio effeithiau gweledol blaengar

Rhannwyd y ffilm fer 2 funud 15 eiliad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Brifysgol..

Y sêr

Roedd hi mor bwysig i ni ein bod yn defnyddio aelodau go iawn o gymuned Bangor yn ein ffilm, yn hytrach nag actorion. Fe wnaethom rannu galwad castio ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, cyn cynnal clyweliadau trwy gyswllt fideo, i ddod o hyd i'r teulu i serennu yn ein ffilm.

Y teulu a ddewiswyd oedd cyn-fyfyrwyr Stuart a Lisa Metcalfe, a gyfarfu wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r ddau bellach yn gweithio ym maes gofal iechyd ac mae ganddyn nhw ddau o blant, Nancy chwech oed (sy'n ymddangos yn y fideo) a'u mab naw oed, Alfie.

Ffaith:

Trwy lwc (neu hud a lledrith yr ŵyl!) roedd côr Cadeirlan Bangor yn digwydd bod yn ymarfer pan fynychon ni'r lleoliad, ac roedden nhw'n fwy na pharod i ymddangos yn y ffilm Nadoligaidd!

Cydnabod ein staff gofal iechyd

Roedd cydnabod ymroddiad a gwaith caled gweithwyr iechyd proffesiynol yn un o nodau allweddol ein ffilm fer. Mae gan Brifysgol Bangor amrywiaeth eang o raglenni gofal iechyd proffesiynol, ac ers y 1990au cynnar, mae'r Brifysgol wedi cyfrannu cyfanswm o fwy na 2,000 o raddedigion i'r sector gofal iechyd.

Wrth symud ymlaen, mae gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) weledigaeth: sefydlu Ysgol Feddygol ryngbroffesiynol, annibynnol newydd ar gyfer Gogledd Cymru.

Elusen GIG Awyr Las

Roedd cynhyrchu ein ffilm yn cyd-daro ag ymgyrch 'Goleuo'r Nadolig' - Awyr Las, ein helusen GIG lleol, a Phrifysgol Bangor oedd un o'i phrif noddwyr.  Byddai’r digwyddiad yn gweld arddangosfa o olau ar Bier Garth drwy gydol mis Rhagfyr, gyda phob golau yn cynrychioli teyrnged i berson arbennig, wedi’i wneud er cof neu’n rhoi diolch. 

Cawsom ganiatâd arbennig gan drefnwyr y digwyddiad a phwyllgor y pier, i ffilmio golygfeydd ar leoliad yn y dyddiau cyn y digwyddiad. Mae’r arddangosfa golau hardd i’w gweld yng ngolygfeydd twymgalon terfynol ein ffilm fer, ac roeddem yn ffodus iawn bod y tywydd yn berffaith i ddal lluniau drôn anhygoel o bier trawiadol y ddinas.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?