THEMÂU YMCHWIL: CELFYDDYDAU, DYNIAETHAU A BUSNES

Astudiaethau Achos

Yn arddangos yr ystod o astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd gan Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes ym Mhrifysgol Bangor.

European Travellers to Wales: 1750-2010 Case Study

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750 - 2010

Mae ymchwil a wnaed mewn dau broject a ariannwyd gan yr AHRC ar 'Deithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010' yn cynnwys darganfod, astudio a dehongli bron i 500 o hanesion gan deithwyr o bob rhan o Ewrop.

REF 2021 Case Study - Constraining the loyalty penalty and complexity costs in retail financial service markets

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Cyfyngu ar y gosb am deyrngarwch a chostau cymhlethdod

Darparodd yr Athro Ashton yr asesiad cyntaf o'r gosb am deyrngarwch, sef sut mae cwsmeriaid ffyddlon yn talu mwy na chwsmeriaid newydd; a chostau cymhlethdod, sef sut mae darparwyr yn codi prisiau cynhyrchion cymhleth, ym marchnadoedd gwasanaethau ariannol manwerthu'r Deyrnas Unedig.

LLun o stryd siopa brysur.

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Iaith Byw: Meithrin Defnydd o’r Gymraeg mewn Bywyd pob Dydd

Mae ein hymchwil wedi datblygu ein dealltwriaeth o ddefnydd iaith a throsglwyddo iaith mewn perthynas â'r Gymraeg yn sylweddol, gan ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, addysg, y trydydd sector, gofal iechyd a chymdeithas sifil.

Canolfannau Ymchwil

Mae grwpiau a chanolfannau ymchwil yn rhan ganolog o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, ac yn cynnig fframwaith i hyrwyddo a hwyluso ymchwil, cydweithio a chynlluniau addysgu ôl-radd.

Darganfod mwy

Themâu Ymchwil

Mae gan Fangor draddodiad balch o ymchwil i astudiaethau Celtaidd sydd gyda'r orau yn y byd, gyda ffocws penodol a chysylltiadau rhyngwladol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, iaith a gwleidyddiaeth Cymru. Rydym yn gartref i rai o brif ganolfannau ymchwil Cymru, sy'n cael eu cyfarwyddo gan haneswyr blaenllaw o Gymru, arbenigwyr yng nghyfraith Cymru, diwylliant, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth Cymraeg a Chymreig. Mae ein canolfannau ymchwil a'n grwpiau ymchwil yn cynnwys:

  • Canolfan Ymchwil Cymru
  • Canolfan R.S. Thomas
  • Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
  • Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Mae ein hymchwilwyr yn archwilio ac yn ymarfer agweddau ar ddiwylliant a'r celfyddydau, ac yn casglu dealltwriaeth o elfennau o gymdeithas sifil sy'n cryfhau gwytnwch cymunedol i ymdopi â newidiadau a heriau cyfoes. Yn seiliedig ar adnoddau archifol a chyfoes sylweddol, ynghyd â gweithgaredd artistig, rydym yn cyfrannu'n weithredol at ddiwylliant cymunedol a'r celfyddydau i roi lle i astudio cymdeithas sifil ar waith. Ochr yn ochr â gweithgareddau helaeth ym meysydd ysgrifennu creadigol, cyfansoddi cerddorol a pherfformio, mae ein canolfannau ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Y Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes
  • Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr
  • Y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin.

Mae cymunedau ledled y byd wedi'u cysylltu gan we gymhleth o lywodraethiant, cysylltiadau ariannol ac economaidd, ymfudo dynol, a chwestiynau ynghylch cwmpas a natur sefydliadau ac egwyddorion cyfiawnder. Mae diddordebau cystadleuol cymunedau lleol, cenedl-wladwriaethau, a systemau economaidd byd-eang a rhyngwladol yn gofyn am ymchwil ymatebol ar reoliadau a llywodraethu, sefydliadau ac astudiaethau cymunedol. Mae ein heconomegwyr, ein cyfreithwyr, ein gwyddonwyr cymdeithasol a'n haneswyr yn archwilio'r cysylltiadau cymhleth hynny a sut mae cwestiynau ynglŷn â phŵer, gwleidyddiaeth a heriau byd-eang yn effeithio arnynt. Mae sefydliadau ymchwil perthnasol yn cynnwys:

  • Canolfan Cynaliadwyedd
  • Sefydliad Cyllid Ewropeaidd
  • Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)
  • Labordy Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol

Saif Prifysgol Bangor mewn amgylchedd dwyieithog sy'n hwyluso'r cryfderau rhagorol sydd ganddi ym meysydd amlieithrwydd a dwyieithrwydd a defnydd iaith mewn amryw o gyd-destunau cyfathrebol, gan gwmpasu rhagoriaeth ymchwil mewn polisi a chynllunio iaith, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, dadansoddi disgwrs ac astudiaethau corpws, defnydd cymunedau a chymdeithas sifil o iaith a'r goblygiadau i hunaniaeth, yn ogystal â rôl technoleg yn natblygiad iaith. Yn ogystal, mae ymchwil yn y thema hon yn codi cwestiynau ehangach am berthynas iaith a chyfathrebu fel math o bŵer, trwy gyfathrebu corfforaethol, moeseg, newyddiaduraeth, cyfathrebu perswadiol a'r cyfryngau. Yn y thema hon, rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol ac yn benodol, cydweithwyr yng Nghanolfan Bedwyr a'r Uned Technoleg Iaith. Mae ein canolfannau ymchwil a'n rhwydweithiau'n cynnwys:

  • Canolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd
  • Y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru
  • Rhwydwaith Astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu Perswadiol
  • Rhwydwaith Ymchwil Technoleg ac Iaith

Arbenigwyr yn eu Maes

Trosi ein hymchwil ar y celfyddydau a diwylliant yn weithgareddau creadigol

Mae Bangor yn gartref i ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio sydd o'r radd flaenaf, ac yn helpu i drosi ein hymchwil i'r celfyddydau a diwylliant yn weithgareddau creadigol sydd wedyn yn cael ei ddwyn yn uniongyrchol i'n cymunedau lleol. Daw ein cyfraniadau creadigol o nifer o ysgolion yn y Coleg - Ysgol Cerddoriaeth a Pherfformio, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a'r Cyfryngau - gan gynnwys Cyfansoddi profiad dementia - cydweithrediad â chydweithwyr yn y Gwyddorau Iechyd; Perfformiadau Dawns Fertigol; barddoniaeth a nofelau arobryn; ffilmiau a digwyddiadau - er enghraifft, yr unig un o'i fath yn y Deyrnas Unedig i ddathlu hanner canmlwyddiant y ffilm ffuglen wyddonol arloesol, 2001: A Space Odyssey. Mae cydweithwyr wedi ennill llawer o anrhydeddau yn eu priod feysydd.

Arbenigedd sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Busnes Bangor yn chwarae rhan weithredol wrth reoleiddio a llywodraethu sefydliadau ariannol ac economaidd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ddarparu cipolwg ar themâu pwysig ac amserol trwy fodelu credyd ac ansicrwydd; a rheoleiddio ariannol, cystadleuaeth a llywodraethu corfforaethol mewn bancio. Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad prosesau deddfwriaethol a pholisi Cymru a'i sefydliadau cyfiawnder sy'n datblygu trwy ymchwil ar gwestiynau sylfaenol cyfiawnder gweinyddol a pholisïau sydd ar waith i amddiffyn y bregus. Cydnabyddir arbenigedd Ysgol y Gyfraith mewn cwestiynau caffael yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Awduron creadigol gorau Cymru

Mae gan yr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd draddodiad rhagorol o fod yn gartref i rai o awduron creadigol gorau Cymru. Ymhlith yr aelodau staff presennol. Mae Davies ac Wiliams wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae Hunter a Price wedi ennill y Fedal Ryddiaith am nofelau diweddar. Mae Lynch, hefyd, yn fardd a beirniad o fri cenedlaethol, yn enwedig barddoniaeth yn y mesur caeth.

Datblygu adnodd newyddiadurol unigryw

Mae Ifan Morgan Jones, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a'r Cyfryngau, yn newyddiadurwr proffesiynol, ac wedi datblygu adnodd newyddiadurol unigryw i Gymru, nation.cymru, i helpu i lenwi'r bwlch democrataidd yng nghynnwys y cyfryngau yng Nghymru. Mae wedi dod yn adnodd poblogaidd ar gyfer gwleidyddiaeth Cymru, gyda chyfraniadau gan wleidyddion Cymru.

Partneriaid Cysylltiedig o'r Diwydiant

Mae ymchwilwyr yn y Coleg yn gweithredu fel ymgynghorwyr, cynghorwyr, arbenigwyr, ac aelodau'r cyngor, ac yn gweithio gydag ystod o bartneriaid diwydiant, Llywodraeth a gwasanaeth cyhoeddus, yn ogystal â sefydliadau anllywodraethol ar draws ystod o brojectau ymchwil:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas y Gyfraith
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Busnesau bach a chanolig yng Ngogledd Cymru
  • Siemens
  • Banc Canolog Ewrop, Cronfa Ariannol Ryngwladol, Awdurdod Cyllid Cymru, Cymdeithas Cyfrifeg a Chyllid Prydain
  • Elusennau a mentrau cymdeithasol lleol (e.e. Menter Fachwen)
  • Sefydliadau diwylliannol:  y BBC, S4C, International Feature Films, Gŵyl Ddogfennol Ryngwladol Cymru, Sheffield Documentary Festival, Gŵyl Ryngwladol Llangollen. BAFTA, BFI.

Ysgolheigion ar Ymweliad

Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn croesawu ceisiadau gan ysgolheigion o bob rhan o’r byd i ymuno â'n cymuned academaidd. Mae ein staff yn enwog yn rhyngwladol yn eu meysydd arbenigedd a chyda blynyddoedd lawer o brofiad o oruchwylio ymchwil. Ein nod yw:

  • Rhoi cyfle i ysgolheigion academaidd wneud ymchwil gyda'r bwriad o gyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd sydd ag enw da yn rhyngwladol;
  • Gwella'r gymuned ymchwil yn y coleg trwy gyfranogiad gweithredol ysgolheigion ar ymweliad, trwy gyflwyno darlithoedd gwadd, cymryd rhan mewn cyfresi seminarau ymchwil, a rhyngweithio â staff ymchwil ac ôl-raddedigion y coleg;
  • Meithrin cysylltiadau academaidd â phrifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill ledled y byd.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch ag aelod staff sydd mewn maes ymchwil tebyg i holi am y posibilrwydd o fod yn ysgolhaig ar ymweliad, neu cysylltwch a’r cyfeiriad e-bost i ymholiadau ysgolheigion ar ymweliad Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. visitcahb@bangor.ac.uk am fanylion, telerau ac amodau, a chefnogaeth i nodi aelod staff i gysylltu ag ef.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?