Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r ysgol yn falch o fod y cyntaf i ennill achrediad hyfforddiant proffesiynol ôl-raddedig y BPS ar gyfer y rhaglen MSc hon. Nod y cwrs yw darparu cam un o'r hyfforddiant sy'n ofynnol i ennill statws siartredig ac aelodaeth lawn o is-adran Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer BPS ar gyfer ymgeiswyr sy'n meddu ar GBC.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer (Achredwyd gan y BPS) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii o leiaf mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth). Mae ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar Sylfaen Graddedigion ar gyfer Aelodaeth Siartredig yn gymwys i wneud cais am y rhaglen hon, ond ni fydd eu cymhwyster wedi ei achredu gan y BPS.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.0 neu uwch (dim sgôr unigol o dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs.
Gyrfaoedd
Mae holl raglenni ôl-raddedig yr ysgol wedi eu cynllunio (gyda hyfforddiant pellach lle bo hynny'n briodol) i wella rhagolygon gyrfa graddedigion Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae gyrfaoedd ôl-raddedigion Bangor yn cynnwys: Sefydliadau chwaraeon y wlad, cyrff llywodraethu cenedlaethol, yr Olympic Medical Institute, timau a sefydliadau chwaraeon proffesiynol, y diwydiant ffitrwydd, y GIG (ysbytai ac ymddiriedolaethau gofal sylfaenol), dysgu ac addysg (ar ôl cwblhau Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig). Mae astudiaeth ôl-raddedig bellach (h.y. ymchwil doethurol) yn llwybr galwedigaethol arall.