Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae gwasanaethau ariannol a bancio yn sector cystadleuol iawn sy’n newid yn gyflym ym mhob economi fodern. Mae newidiadau yng ngofynion cwsmeriaid, technoleg, amodau cystadleuol a rheoleiddio yn golygu bod angen i reolwyr, masnachwyr a dadansoddwyr wneud penderfyniadau cyflym a phellgyrhaeddol ynghylch eu gweithrediadau tymor byr a'u strategaethau tymor hir. Mae'r rhaglenni hyn yn gyfle unigryw i astudio theori ac ymarfer uwch mewn perthynas â'r gwasanaethau ariannol, ac i werthfawrogi achosion ac arwyddocâd datblygiadau cyfredol mewn sector hanfodol a deinamig o'r economi.
Cynlluniwyd y rhaglen MSc Bancio a Chyllid i ddatblygu eich sgiliau presennol trwy astudiaethau arbenigol uwch. Un amcan pwysig yw darparu hyfforddiant dadansoddol perthnasol i chi, er mwyn i chi fod yn gyfarwydd â'r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf sy'n ymwneud â bancio, cyllid a marchnadoedd cyfalaf. Mae'r graddau hyn yn darparu fframwaith damcaniaethol cydlynol ar gyfer y gwahanol feysydd pwnc, ond mae'r pwyslais drwyddi draw ar ddefnyddio technegau ariannol yn ymarferol mewn lleoliad yn y byd go iawn.
Gall y radd MSc fod yn fwy addas i ymgeiswyr â rhywfaint o gefndir blaenorol mewn mathemateg, ystadegau neu econometreg.
Mae pob ffrwd yn derbyn myfyrwyr ym mis Ionawr a mis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Bancio a Chyllid .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i'r rhaglen MSc Bancio a Chyllid mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Busnes, Rheolaeth a Marchnata) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os oes gennych gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried.