Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae TRANSFOR-M (Meistr mewn Coedwigaeth Trawsatlantig) yn rhaglen Meistr hyfforddedig dwy flynedd o hyd. Mae'n arwain at radd Ewropeaidd a gradd yng Nghanada (h.y. gradd ddeuol) mewn coedwigaeth a rheolaeth amgylcheddol. Cynigir y rhaglen gan gonsortiwm o chwe phrifysgol, tair yng Nghanada a thair yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae myfyrwyr yn cael golwg fyd-eang ar goedwigaeth gynaliadwy fodern a rheolaeth amgylcheddol, a safbwyntiau amlddiwylliannol ar faterion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Mae myfyrwyr TRANSFOR-M o Fangor fel rheol yn treulio'u blwyddyn gyntaf mewn prifysgol yng Nghanada a'u hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, lle maen nhw'n cwblhau traethawd hir sy'n cael ei oruchwylio ar y cyd gan y ddau sefydliad. Maen nhw'n talu ffioedd dysgu Prifysgol Bangor yn y ddwy flynedd. Y partneriaid yn y consortiwm TRANSFOR-M yw:
- Prifysgol Albert-Ludwigs, Freiburg, yr Almaen
- Prifysgol Bangor, Cymru
- Prifysgol Dwyrain y Ffindir, y Ffindir
- Prifysgol New Brunswick, Canada
- Prifysgol Alberta, Canada
- Prifysgol British Columbia, Canada
Y graddau Prifysgol Bangor sydd ar gael dan TRANSFOR-M yw:
- MSc Agroforestry
- MSc Conservation and Land Management
- MSc Environmental Forestry
Y graddau o Ganada ar gael dan TRANSFOR-M yw:
- Master of Environmental Management (University of New Brunswick)
- MSc Forestry (University of New Brunswick)
- MSc Forest Engineering (University of New Brunswick)
- MSc (University of Alberta)
- Master of Forestry, MF (University of Alberta)
- Master of Forestry, MF (University of British Columbia)
Gofynion Mynediad
Mae myfyrwyr yn gwneud cais i un o brifysgolion y consortiwm a rhaid iddynt gael eu dewis gan y brifysgol honno a'r brifysgol bartner. Rhaid i drigolion y Deyrnas Gyfunol ddewis Bangor fel eu prifysgol gartref. Yn ystod y broses ddewis, caiff myfyrwyr sydd â hanes academaidd cryf eu ffafrio, ynghyd â phrofiad a chymwysterau sy'n dangos diddordeb o ddifrif mewn gwaith rhyngwladol.
Gyrfaoedd
Mae sawl un sydd wedi graddio'n ddiweddar o’r rhaglen TRANSFOR-M wedi mynd ymlaen i astudio am radd ymchwil, tra bod eraill wedi ymgymryd â swyddi proffesiynol mewn coedwigaeth a chadwraeth, yn aml yn y wlad bartner (h.y. mae graddedigion yr UE bellach yn gweithio yng Nghanada, ac mae graddedigion o Ganada yn gweithio mewn gwahanol wledydd yr UE).