Mae angen trwydded barcio ar unrhyw un sy'n dymuno parcio ym meysydd parcio'r brifysgol ym Mangor, Porthaethwy a Wrecsam.
Os nad oes gennych drwydded parcio yn barod ac yn dymuno parcio ar y campws rhwng nawr a Medi 2024, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.
Bydd manylion ar sut i wneud cais am drwydded parcio i fyfyrwyr ar gyfer 2024/25 ar gael cyn bo hir ar y dudalen hon ynghyd â manylion am ble y gallwch barcio, gan nad yw pob maes parcio ar gael ar gyfer defnydd myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn y broses o orffen ei hadolygiad o ffioedd parcio felly nid oes cost am y trwyddedau ar hyn o bryd. Bydd rhybudd ymlaen llaw cyn i'r gost gael ei ailgyflwyno.
Tra fod y Brifysgol yn gorffen ei hadolygiad o ffioedd parcio, nid oes cost am y trwyddedau ar hyn o bryd. Bydd rhybudd ymlaen llaw cyn i'r gost gael ei ailgyflwyno.
Os ydych yn ddeiliad bathodyn glas neu'n fyfyriwr ag anawsterau symud, anfonwch e-bost at Ymgynghorydd Gwasanaethau Anabledd yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk i gael cyngor ar ba drwydded sydd ei hangen arnoch.
Gofynnwn i chi barcio mewn man parcio dynodedig bob amser, a pheidiwch â pharcio ar linellau melyn dwbl a mannau lle ceir llinellau croes.