Mae ymchwil i ffisioleg ac ymddygiad anifeiliaid yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol yn rhychwantu amrywiaeth eang o bynciau a systemau biolegol. Rydym yn defnyddio technegau labordy a thechnegau maes i astudio pynciau fel sail foleciwlaidd rhythmau circadaidd, rheolaeth hormonaidd ecdysis mewn cramenogion, egnïaeth a biomecaneg symudiadau anifeiliaid, ymddygiad symud anifeiliaid, llywio ac ymfudo, ffisioleg atgenhedlu, personoliaeth anifeiliaid ac ymddygiad cymdeithasol.
Yn ogystal â gofyn cwestiynau sylfaenol ynglŷn â pham a sut mae anifeiliaid yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud, rydym hefyd yn gweithio ar gwestiynau cymhwysol fel effeithiau aflonyddwch anthropogenig ar ffisioleg ac ymddygiad anifeiliaid, er enghraifft ymatebion metabolaidd a ffisiolegol i newid amgylcheddol mewn organebau morol, effaith ecodwristiaeth a newid cynefin ar straen ac atgenhedlu mewn primatiaid, ac effaith sŵn ar signalau anifeiliaid ac ymddygiad llywio.