Sut i Gefnogi

Rhoi Rhodd Ar-lein

Os hoffech wneud rhodd at broject neu faes ar wahân i'r uchod, cliciwch "Cronfa Arall" isod. Cysylltwch â Paula Fleck os ydych yn un o raddedigion Bangor a chadarnhau’r flwyddyn y gwnaethoch raddio, y pwnc a astudiwyd gennych ac os yw'n berthnasol, eich cyfenw cyn priodi. Diolch yn fawr.

Nodwch Brifysgol Bangor fel y sefydliad sy'n derbyn ar y dudalen rhoddion.

Cronfa Arall

Rhoddwyr o'r U.D.A

Gwneud Rhodd Cymorth (Gift Aid) – i drethdalwr cymwys Prydain

Gift Aid

Pan rydych chi’n gwneud ‘Rhodd Cymorth’ (Gift Aid), gallwn adennill y dreth gyfradd sylfaenol a gafodd ei dalu gennych ar eich rhodd. Mae hyn yn cynyddu’ch rhodd o 25% yn rhad ac am ddim i chi.

Os ydych chi’n drethdalwr cyfradd uwch, medrwch hefyd hawlio’r gwahaniaeth rhwng y dreth gyfradd uwch a’r dreth gyfradd sylfaenol ar werth llawn eich rhodd i’r Brifysgol ar eich ffurflen treth hunanasesu.

CAF (Charities Aid Foundation)

CAF yw’r cwmni sydd yn delio gyda’n rhoddion. Am fwy o fanylion ewch i wefan CAF.

Manylion pellach

Cysylltwch â ni am fanylion pellach ar sut i wneud eich rhodd, a sut i strwythuro’ch rhodd i fanteisio ar ostyngiad yn y dreth i roddwyr.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?