Gwyliwch y seremonïau Graddio yn fyw
#GraddioBangor: dyddiadau seremoniau, amserlen a gwybodaeth allweddol
Bydd y dolenni hyn yn fyw 2 Tachwedd 2023.
Cofrestru yma; Myfyriwr Presennol
Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn 9yb 27 Tachwedd 2023 a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (i'r dde) o 2 Tachwedd 2023 ymlaen er mwyn cofrestru
Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn 27 Tachwedd 2023.
Ar y diwrnod:
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, nid yw’r digwyddiadau’n cael eu cynllunio gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith, ond ni ddylai gwesteion fod yn bresennol os ydynt yn amau bod ganddynt Covid 19 neu’n dangos symptomau. Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.
Dylai myfyrwyr yn unig gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau cychwyn y seremoni i gofrestru eu presenoldeb.
Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn 27 Tachwedd 2023.
Gallwch archebon tocynnau ar-lein drwy 'MyBangor'.
Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn 27 Tachwedd, ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.
Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain Ar-lein am 9am ddydd Llun 4 Rhagfyr drwy ddilyn y ddolen wreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru eich presenoldeb. Bydd y tocynnau'n costio (am ddim) yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.
Dim ond ar-lein y gellir prynu tocynnau
I anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Casglu Tocynnau
Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu 30 munud cyn dechrau'r seremoni.
Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni. Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn. O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.
Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn i westeion i gael mynd i'r seremoni.Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau. Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.
Gwesteion ychwanegol:
Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn
Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd.
Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma o (7 Tachwedd) ymlaen Gwisg Academaidd. Dyddiad cau i archebu ar-lein yw 1 Rhagfyr.
Mae'r dyddiadau ar gyfer Seremoniau Rhagfyr 2023 wedi'u cadarnhau fel 14 & 15 Rhagfyr 2023.
GRADDIO RHAGFYR 2023
|
|
Ysgol |
Dydd Iau |
14 Rhagfyr |
|
1 |
10.00 am |
Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Ysgol Gwyddorau Iechyd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru |
2 |
1.00 pm |
Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Ysgol Gwyddorau Eigion Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
|
3 |
4.00 pm |
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau Ysgol Addysg |
Dydd Gwener |
15 Rhagfyr |
|
4 |
10.00 am |
Ysgol Busnes Bangor |
5 |
1.00 pm |
Ysgol Gwyddorau Iechyd (Israddedig) |
|
|
|
Gwasanaeth bws ar gael yn ystod y seremoni raddio dydd Iau 14 Rhagfyr (amseroedd bras)
Gorsaf Trên Bangor |
Cilfan Pontio |
Maes Parcio Safle Stryd y Deon |
Prif Adeilad |
8.30am |
8.40am |
8.50am |
9.00am |
9.10am |
9.20am |
9.30am |
9.40am |
|
|
|
|
11.30am |
11.40am |
11.50am |
12 noon |
12.10pm |
12.20pm |
12.30pm |
12.40pm |
|
|
|
|
14.30pm |
14.40pm |
14.50pm |
15.00pm |
15.10pm |
15.20pm |
15.30pm |
15.40pm |
|
|
|
|
17.10pm |
17.20pm |
17.30pm |
17.40pm |
Cyfle i longyfarch ein Graddedigion a rhannu eich dathliadau Graddio.
Defnyddiwch #GraddioBangor a #PrifysgolBangor ar Instagram neu Twitter - gall ymddangos yma.
Newyddion Graddio
Memorabilia
Rwyt ti wedi cael y radd, dim ond prynu’r crys-T sydd ei angen! Rydym wedi ymuno a’r cwmni gwych Campus Clothing i gynnig cyfle i chi i ddathlu eich gradd gyda hwdi neu grys-T ‘Dosbarth 2023’. Mae’r holl ddillad yn rhai masnach deg, ac mae eich enw ac enwau eich cyd-fyfyrwyr ar y cwrs eisoes wedi eu hargraffu ar y cefn. Gallwch hyd yn oed ychwanegu cyffyrddiadau personol i wneud eich dilledyn hyd yn oed yn fwy arbennig.
Bydd gan staff cyfeillgar Campus Clothing stondin yn eich seremoni, ond gallwch neidio’r ciw ac osgoi siom trwy archebu ymlaen llaw yn CampusClothing/Bangor.
Dathlu Graddio yn y Teras
Dewch i ddathlu eich diwrnod graddio mewn steil yn Lolfa a bar y Teras. Mae profiad bwyta lled-ffurfiol yn helpu i greu awyrgylch braf i ddathlu ac mae'n lle perffaith i ddod â'ch gwesteion. Rydym wedi cynllunio ein Bwydlen Raddio i fod mor hyblyg â phosibl, gyda phrisiau rhesymol ac wedi'i chreu gyda chynhwysion ffres a gyflenwir yn lleol.
Dewiswch hyd at 3 chwrs i gael y dathliad perffaith gyda ffrindiau a theulu. Bydd y bar yn agored yn gweini eich hoff ddiodydd hefyd. Mae byrddau ar gael o 1.30pm bob prynhawn, gyda’r archebion olaf am fwyd am 4pm. Mae archebion yn agored yn awr – gwnewch yn siŵr na chewch eich siomi! Archebwch eich bwrdd drwy e-bostio teras@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 388686.
Gweinir bwyd o 1.30pm
Archebion olaf am fwyd am 5.00pm
Cwrs cyntaf - £5.95
Pâté iau cyw iâr gyda siytni afal Cymreig a croûte
Cawl tatws melys a phupur coch wedi ei rostio gyda bara crystiog ffres a menyn Cymreig (dewis figan ar gael)
Salad betys a moron gyda ffeta Cymreig a chnau Ffrengig (dewis figan ar gael)
Prif gwrs - £14.95
Confit coes hwyaden gyda thatws stwnsh a phersli hufennog, deiliach wedi eu ffrio’n ysgafn a moron chantenay gyda cheirios duon a jus port
Draenog y môr wedi ei grilio a thatws newydd wedi eu malu, salsa verdé, asbaragws a saws chardonnay a sifys
Ffilo o’r dwyrain canol wedi ei lenwi â nionod wedi eu carameleiddio a gwreiddlysiau sbeislyd gyda deiliach wedi eu ffrio’n ysgafn a saws tomato blasus (Figan)
Pwdin - £5.95
Tarten panna cota lemwn gyda coulis mafon ffres
Deuawd o sorbets Môn ar Lwy gyda mefus
Brownis siocled a pistachio cartref gyda hufen iâ caramel wedi ei halltu a saws siocled
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG