Ailddyfodiad profiad: Corws y Wawr – Canfod Sŵn a/neu mewn Barddoniaeth gyda Siân Melangell Dafydd
Sut mae’n swnio pan fyddwn yn dod ynghyd i ymateb i natur?
Ymunwch â phrofiad cydweithredol unigryw sy’n cyfuno gwrando, myfyrio ac ymateb lleisiol i synau’r amgylchedd. Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno technegau anadlu, ymwybyddiaeth o ystum, a chanolbwyntio’r sylw, er mwyn meithrin gwrando dwfn ac ymwybodol.
Byddwn yn treulio amser yn gwrando ar gân yr adar gyda’n gilydd, ac yna’n arbrofi gyda lleisio ar y cyd fel ymateb creadigol.
Gall cyfranogwyr ymateb mewn unrhyw iaith – neu heb iaith o gwbl. Mae croeso i bawb – nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect trawsddisgyblaethol, sy’n archwilio sut mae gwahanol ffyrdd o ymgysylltu ag amgylcheddau naturiol yn dylanwadu ar brofiadau, canfyddiadau, a theimladau pobl. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiad rhyngweithiol sy’n cynnwys gwrando, arsylwi, ymateb, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sain amgylcheddol ac yn seiliedig ar natur. Yn dilyn y gweithgaredd, gofynnir i gyfranogwyr ateb ychydig o gwestiynau byr ynghylch eu profiadau, eu teimladau, a’u barn am natur a’r amgylchedd.
Gyda chefnogaeth gan WREC Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru.
Mae lleoedd yn gyfyngedig.
Ffi: Am ddim