Profi'r hud a'r lledrith ym Mangor

Hysbyseb teledu Prifysgol Bangor

Adeiladau ysblennydd y Brifysgol, y cyfleusterau trawiadol a thirweddau mawreddog y gogledd trwy lens sinematig. Mae ein hysbyseb teledu’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ymchwil o'r radd flaenaf, profiad y myfyrwyr ac addysgu trawsnewidiol. 

Gwyliwch yr hysbyseb deledu isod, a sgroliwch i lawr i weld sut wnaethon ni ei greu.

Gallwch wylio'r fersiwn 90 eiliad estynedig yma

Y cysyniad

Cynhyrchwyd ein hysbyseb deledu i godi ymwybyddiaeth o Brifysgol Bangor. Mae Bangor yn lle arbennig, ac mae’r myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Mae ein cymwyseddau addysgu heb eu hail ac yn gefn iddynt mae ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd, ac rydym wedi buddsoddi yn ein cyfleusterau academaidd, cymdeithasol a chwaraeon, i wneud Bangor yn un o’r llefydd gorau i astudio a byw ynddo.

Saif y Brifysgol mewn man nad oes mo’i debyg rhwng y mynydd a'r môr. Rydym ar drothwy Parc Cenedlaethol Eryri, yn agos at Safle Treftadaeth y Byd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Mae’n lle gwirioneddol unigryw i astudio, byw a gweithio ynddo – i’r myfyrwyr a’r staff, ac i fusnesau, cydweithwyr a’r gymuned ehangach fel ei gilydd. 

Rydym yn gwahodd pawb i Brofi’r Hud a’r Lledrith ym Mangor.

Gwneud yr hysbyseb

Buom yn gweithio gyda chwmni cynhyrchu, Lush Films, i ddod â hud a lledrith Prifysgol Bangor yn fyw. Cynhyrchwyd dwy fersiwn o'r ffilm, sef hysbyseb 30 eiliad a ddarlledwyd ar deledu daearol yng Nghymru (yn Gymraeg), HTV West a Central West (Saesneg), sy'n cynnwys dyddiadau’r diwrnodau agored sydd i ddod; a fersiwn hirach 90 eiliad i'w rhannu ar ein gwefan a'n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae myfyrwyr a staff cyfredol i’w gweld drwy gydol y ffilm, ac nid yn unig roeddem am dynnu sylw at y cyfleusterau addysgu rhagorol ym Mhrifysgol Bangor, roeddem hefyd am roi sylw i’n hymchwil arloesol a’n lleoliadau syfrdanol. 

Lleisiau

Nia Roberts, un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C a chymrawd anrhydeddus Prifysgol Bangor, a leisiodd yr hysbyseb deledu Gymraeg. Y naturiaethwr, y fforiwr a’r cyflwynydd teledu poblogaidd, Steve Backshall, sy’n rhan o dîm addysgu Prifysgol Bangor, oedd yn lleisio’r hysbyseb Saesneg.

Effeithiau gweledol

Er mwyn dod â disgleirdeb i'r syniad o hud a lledrith, ychwanegwyd effaith goleuni symudliw at y ffilm yn yr ôl-gynhyrchu, trwy ddefnyddio effeithiau gweledol blaengar. Crewyd ffilm fer sinematig syfrdanol sy'n dangos lleoliadau ar y campws a'r cyffiniau.
 

Lleoliadau

Mae lleoliadau trawiadol yr hysbyseb deledu’n cynnwys adeiladau a mannau ar y campws ym Mangor, yn ogystal â rhai o’r tirweddau dramatig sydd o fewn cyrraedd hawdd i’r ddinas. 
 

Microsgop mewn labordy gydag effaith hudolus

Y Labordy

Cafodd golygfeydd y labordy ar ddechrau’r hysbyseb eu ffilmio yn un o labordai addysgu Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg, yn adeilad Brambell y Brifysgol. Mae yma labordai ymchwil arbenigol o'r radd flaenaf a labordai dysgu ymarferol sy’n cynnig cyfleusterau modern a’r offer gorau i wneud ymchwil a dysgu.
 

Darlun o hysbyseb deledu Prifysgol Bangor o Amgueddfa Hanes Natur Brambell

(yn y ffilm 90 eiliad yn unig) Amgueddfa Byd Natur

Mae gan Brifysgol Bangor ei Hamgueddfa Byd Natur ei hun, yn adeilad Brambell. 
Mae’r amgueddfa’n gartref i gasgliad helaeth o dros 500 o ddarnau, gan gynnwys sgerbydau, penglogau, tacsidermi, cyrn ceirw, wyau a sbesimenau ar gadw mewn jariau gwirod. A welsoch chi’r oen dau ben enwog?
 

Delwedd agos o lyfrau yn y llyfrgell gydag effaith ddisglair hudolus

Ystafell Ddarllen Shankland (Y Llyfrgell Gymraeg)

Dyna le hyfryd yw Ystafell Ddarllen Shankland, a adwaenir hefyd fel y Llyfrgell Gymraeg. Mae’n fan astudio poblogaidd gan lawer o'r myfyrwyr, ac mae'n rhaid cyfaddef ei fod yn debyg iawn i ysgol ddewiniaeth adnabyddus! Mae gennym bedair llyfrgell ar y campws ym Mangor, rhai ohonynt ar agor 24 awr y dydd, ac maent yn gartref i gasgliad helaeth o lyfrau a chyfnodolion.
 

Darlun o hysbyseb deledu Hud a Lledrith o'r Cwad Mewnol, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Y Cwad Mewnol, Prif Adeilad y Celfyddydau

Mae’r hyfryd Gwad Mewnol, sy’n rhan o Brif Adeilad y Celfyddydau, yn un o’r lleoliadau mwyaf adnabyddus ar y campws. Gosodwyd carreg sylfaen yr adeilad, a ddyluniwyd gan Henry Hare, gan y Brenin Edward VII ar 9 Gorffennaf 1907. Cafodd yr adeilad ei agor yn ffurfiol gan y Brenin Siôr V ym 1911. Defnyddir y Cwad Mewnol yn aml i nodi achlysuron arbennig megis Graddio. 
 

Golwg agos ar fyfyriwr yn casglu sampl dŵr o'r traeth.

Traeth Llanddwyn (Niwbwrch)

Traeth godidog ger Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn, dim ond 30 munud o Brifysgol Bangor. Mae’r twyni tonnog a’r milltiroedd o dywod euraidd yn ei wneud yn hoff lecyn gan lawer o fyfyrwyr. Ymunwyd â ni gan gymdeithas padlfyrddio'r Brifysgol sy'n mynd ar deithiau rheolaidd i'r traeth. 
 

Llong ymchwil Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus yn y dŵr

Y Tywysog Madog

Mae gan Brifysgol Bangor ei llong ei hun, i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr morol. Mae’n llong ymchwil bwrpasol sy’n galluogi gwyddonwyr morol i astudio bioleg, cemeg, daeareg a ffiseg y moroedd.
 

Llun o hysbyseb deledu Hud a Lledrith, Prifysgol Bangor, o Gwm Idwal, Eryri, gyda cherddwyr yn edmygu'r olygfa

Cwm Idwal 

Nid nepell o Fangor mewn car mae Parc Cenedlaethol Eryri. Saif Cwm Idwal ym mhen gogleddol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae’n lle poblogaidd ar gyfer mynydda a gweithgareddau awyr agored eraill. Mae llawer o glybiau a chymdeithasau’r myfyrwyr yn cynnal gweithgareddau yn y Parc Cenedlaethol, ac mae’r dirwedd yn rhan annatod o lawer o brojectau ymchwil amgylcheddol y Brifysgol. Gwelir aelodau o Gymdeithas Mynydda'r Brifysgol yn y lluniau dramatig, a gafodd eu ffilmio ar doriad y wawr. Tynnwyd llawer o luniau anhygoel gyda drôn. 
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?