Ansawdd a Safonau
Rhagarweiniad
Mae’r Brifysgol yn gyfrifol am safonau academaidd yr holl gymwysterau a ddyfernir yn ei henw, ac am ansawdd addysgu a dysgu myfyrwyr. Dros nifer o flynyddoedd mae Prifysgol Bangor wedi datblygu dull systematig ac integredig o reoli ansawdd a safonau academaidd, gan fabwysiadu amryw o ddulliau sicrhau ansawdd sydd wedi eu llunio i sefydlu, cynnal, monitro ac adolygu safonau academaidd y cymwysterau a gwella ansawdd y cyfleoedd dysgu ar bob pwynt cyflenwi, yn cynnwys darpariaeth ar y cyd mewn sefydliadau sy'n bartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae nifer o egwyddorion allweddol yn sail i ddull y Brifysgol o sicrhau ansawdd:
- Senedd y Brifysgol, gyda chefnogaeth y grwpiau tasg, fframweithiau, polisïau a threfniadau rheoleiddio, sydd â'r prif gyfrifoldeb am reoli safonau ac ansawdd academaidd;
- ymrwymiad i hybu diwylliant o welliant parhaus wrth gyflwyno a rheoli rhaglenni ac yn yr amgylchedd dysgu;
- cysylltiad â myfyrwyr a, lle bo'n berthnasol, gyda chyflogwyr perthnasol trwy gynrychiolaeth briodol, ymgynghori a dulliau o roi adborth;
- defnyddio pwyntiau cyfeirio allanol a mewnol perthnasol, yn cynnwys Cod Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig, datganiadau meincnod pwnc a gofynion a disgwyliadau cyrff proffesiynol, statudol a rheolaethol.
- defnyddio arbenigwyr pwnc allanol wrth gymeradwyo'r cwricwlwm a'i adolygu'n achlysurol ac wrth fonitro asesu;
- cydnabod mai'r ysgolion sy'n gyfrifol am gyflwyno a rheoli rhaglenni. Mae'n ddyletswydd ar bob aelod o’r staff academaidd i ddarparu'r addysg a ddynodir iddynt, datblygu cwricwlwm a chefnogi myfyrwyr i’r safonau uchaf posibl.
- Mae gan ysgolion ddulliau cadarn i sicrhau ansawdd a gwella'r holl ddarpariaeth academaidd yn yr ysgol, yn cynnwys rhaglenni graddau ymchwil.
Pwyntiau Cyfeirio Mewnol
Mae prosesau'r brifysgol i sicrhau ansawdd a safonau wedi'u nodi'n fanwl yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, sy'n cynnwys cyfres o Reoliadau Academaidd, Codau Ymarfer, Canllawiau a Threfniadau. Wrth weithredu'r prosesau hyn, mae'r brifysgol yn gallu dangos i gyrff allanol fel yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) bod ganddi drefniadau yn eu lle fel y gall weithredu ei chyfrifoldebau am ansawdd a safonau academaidd yn effeithiol.
I grynhoi, mae'r brifysgol yn defnyddio'r dulliau sicrhau ansawdd canlynol i'r holl raglenni hyfforddedig:
- Dilysu ac ail-ddilysu gan gyfoedion, gyda mewnbwn oddi wrth staff academaidd o'r tu allan i'r brifysgol (arbenigwyr pwnc allanol) ac adolygiadau gan y brifysgol a myfyrwyr;
- Monitro'r rhaglen yn flynyddol, gan dîm y rhaglen;
- Arholwyr Allanol i fonitro safonau academaidd;
- Pwyllgorau'r ysgolion, colegau a'r brifysgol i sicrhau bod rheoliadau, polisïau a threfniadau yn cael eu craffu a'u defnyddio'n gyson, gyda mewnbwn oddi wrth staff academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr;
- Gwerthuso modiwlau a Phwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr yn darparu systemau ffurfiol fel y gall myfyrwyr roi sylwadau a chodi materion am weithrediad y rhaglen.
Mae'r dulliau canlynol hefyd yn berthnasol i raglenni graddau ymchwil:
- Arholwyr Allanol i fonitro safonau academaidd;
- Pwyllgorau'r ysgolion, colegau a'r brifysgol i sicrhau bod rheoliadau, polisïau a threfniadau yn cael eu craffu a'u defnyddio'n gyson, gyda mewnbwn oddi wrth staff academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr;
Hefyd, mae'r brifysgol yn archwilio ansawdd mewnol pob ysgol ar gylch 6 blynedd.
Cewch fwy o wybodaeth am ddulliau sicrhau ansawdd y brifysgol trwy'r cysylltiadau isod.
Pwyntiau Cyfeirio Allanol
Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am oruchwylio ansawdd academaidd sefydliadau addysg uwch. Amlinellir disgwyliadau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn yr UK Quality Code for Higher Education, sy'n sail wybodaeth fanwl i ddulliau sicrhau ansawdd y brifysgol ei hun. Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn adolygu pob sefydliad addysg uwch bob chwe blynedd i gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â disgwyliadau gorfodol y Cod Ansawdd. Adolygwyd y Brifysgol ddiwethaf ym mis Mai 2018, ac adroddodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar ôl hynny:
Ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, mae'r tîm adolygu'n barnu hyn:
* Mae Prifysgol Bangor yn bodloni gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol.
* Mae Prifysgol Bangor yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.
Mae hon yn feirniadaeth gadarnhaol, sy'n golygu bod gan y Brifysgol drefniadau cadarn i sicrhau safonau academaidd, i reoli ansawdd academaidd ac i wella ansawdd profiad y myfyrwyr.
Mae'r brifysgol hefyd yn sicrhau bod ei holl ddarpariaeth academaidd yn gyson â Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
- 2021/22 Datganiad Ynglŷn  Chanlyniadau Gradd
Dadansoddiad a throsolwg o'r tueddiadau ym mhroffiliau dosbarthiadau gradd rhwng 2017/18 a 2021/22 - 2020/21 Datganiad Ynglŷn  Chanlyniadau Gradd
Dadansoddiad a throsolwg o'r tueddiadau ym mhroffiliau dosbarthiadau gradd rhwng 2016/17 a 2020/21
- Uned Gwella Ansawdd
- Llawlyfr Ansawdd Academaidd (Rheoliadau a Chodau Ymarfer ac ati)
- Cymeradwyo Rhaglenni / Modiwlau (Dilysu)
- Adolygiad Blynyddol a Chynlluniau Datblygu
- Arholi Allanol
- Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau Ôl-raddedigion
- Archwiliadau Ansawdd Mewnol
- Partneriaeth Gydweithredol, yn cynnwys Cytundebau Cydweithio
- Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoliadol