Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Myfyrwyr
Nod Strategaeth Iechyd Meddwl Prifysgol Bangor yw:
- Creu amgylchedd cynhwysol sy’n hyrwyddo iechyd a lles ymysg ei myfyrwyr.
- Cynorthwyo myfyrwyr sy’n cael anawsterau iechyd meddwl, er mwyn eu helpu i gael profiad cadarnhaol a chynhyrchiol fel myfyrwyr.
Dyma ei hamcanion:
- Rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sydd ag anawsterau iechyd meddwl
- Darparu system gymorth sy’n hygyrch ac yn berthnasol i fyfyrwyr presennol
- Archwilio'r ddarpariaeth a cheisio adborth er mwyn gwella profiad myfyrwyr
- Gwella cysylltiadau ag asiantaethau allanol sy'n cynnig cefnogaeth iechyd meddwl
- Hyrwyddo Iechyd Meddwl
- Creu amgylchedd cynhwysol sy’n hyrwyddo iechyd meddwl ymysg ei myfyrwyr Meithrin ymwybyddiaeth
- Cynnal ethos anwahaniaethol a chefnogi'r ymgyrch 'Amser i Newid'
- Cynnal Staff
- Darparu dulliau gweithredu, cefnogaeth a hyfforddiant i staff sy'n delio â phryderon iechyd meddwl myfyrwyr