Fy ngwlad:
Athro mewn dosbarth

Astudiaethau Ôl-radd yn Ysgol Addysg Gogledd Cymru

Astudiwch am radd ôl-radd mewn Addysg, Addysgu neu Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor. Dewch i ddatblygu eich gwybodaeth, meithrin hyder proffesiynol ac, ar ein rhaglenni TAR, ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). 

Ymunwch â ni yn ein Digwyddiad Ôl-radd ar ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf i ddysgu am y dewisiadau sydd ar gael i chi a chwrdd â'n harbenigwyr.

Archebwch eich lle yn ein digwyddiad ôl-radd  

Dysgwch am ein cyrsiau 

 

Pam astudio gydag Ysgol Addysg Gogledd Cymru?

Ennill Statws Athro Cymwysedig a Meithrin Hyder yn yr Ystafell Ddosbarth

Mae ein rhaglenni TAR yn cyfuno astudiaethau academaidd â lleoliadau ymarfer, gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) a gydnabyddir ledled Cymru a Lloegr ac y gellir, yn aml, ei drosglwyddo'n rhyngwladol*

Dewisiadau Astudio Hyblyg

Dewiswch lwybr astudio sy'n cyd-fynd â'ch bywyd, gydag opsiynau llawn amser a rhan amser ar gael ar rai rhaglenni ôl-radd.

Addysgu dan arweiniad ymchwil

Dysgwch oddi wrth academyddion ac ymarferwyr profiadol y mae eu hymchwil a'u harbenigedd proffesiynol yn helpu i lunio dyfodol addysg.

Dysgu sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Bydd ein rhaglenni’n eich helpu i ddatblygu arbenigedd mewn addysgu, ymddygiad, cynhwysiant, arweinyddiaeth a mentora, gan eich ysbrydoli i ysgogi newid cadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc.

*Dylai unigolion sy'n dymuno addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy. .

Myfyrwyr yn cerdded tu allan i Adeilad y Celfyddydau

Dewch i gwrdd â ni yn ein digwyddiad ôl-radd

Ystyried astudiaethau ôl-radd? Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf i weld y dewisiadau sydd ar gael i chi, cwrdd â'n hacademyddion a chael cyngor unigol

Pam dewis astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor?

Prifysgol gefnogol, dan arweiniad ymchwil sydd â rhagolygon byd-eang

Ym Mhrifysgol Bangor, mae astudiaethau ôl-raddedig yn gyfle i ddyfnhau eich arbenigedd, meithrin rhagor o hyder a gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd dan arweiniad ymchwil sy'n cyfuno rhagoriaeth academaidd â chymuned ddysgu gefnogol, a hynny dan arweiniad darlithwyr sydd eisiau eich gweld yn ffynnu.

Ym Mangor ceir cymuned brifysgol glos, cysylltiadau cryf ag ysgolion a phartneriaid yn y sector addysg, a lleoliad sy'n ysbrydoli.

Pa gwrs sy'n iawn i mi?

Addysgu

Mae gyrfa mewn addysgu yn heriol, yn werth chweil ac yn cael llawer o effaith. Bydd ein rhaglenni TAR yn eich paratoi i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol tra bod gyrfa mewn addysgu yn cynnig cyfleoedd cryf i ddatblygu gyrfa.

Dewiswch o blith y canlynol:

  • Addysg Gynradd
  • Addysg Uwchradd ar draws ystod o feysydd pwnc
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Archwiliwch ein cyrsiau Addysgu  

Addysg

Mae gradd meistr mewn addysg yn agor drysau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Archwiliwch y materion allweddol sy'n llunio bywydau plant a phobl ifanc wrth ddatblygu sgiliau mewn arweinyddiaeth, ymchwil ac ymarfer proffesiynol.

Dewiswch o blith y canlynol:

  • Addysg
  • Plentyndod ac Ieuenctid
  • Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol a Chefnogaeth Ymddygiadol Gadarnhaol

Archwiliwch ein cyrsiau Addysg  

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf?

Dewch i weld y dewisiadau ôl-radd sydd ar gael i chi neu ymunwch â ni ar ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf i siarad â'n harbenigwyr.

Cofrestru i ddod i’n digwyddiad ôl-radd  

Dysgwch am ein cyrsiau