Dylai bod gwasanaethu'r gymuned yn greiddiol i genhadaeth prifysgol
Yn wreiddiol cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Yr Athro Stephen Doughty, Pennaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, yn y Western mail
Ni ddylai unrhyw brifysgol wahanu ei hun oddi wrth y gymuned a'i sefydlodd.
Diben pennaf sefydliad addysg uwch yw gwasanaethu'r cyhoedd drwy gaffael gwybodaeth a'i rhannu ag eraill, er budd ei myfyrwyr a'r gymuned leol fel ei gilydd. Mae hon yn genhadaeth yr ydym yn ei chymryd o ddifrif ym Mhrifysgol Bangor, wrth gyfuno ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd ac addysgu rhagorol.
Cafodd y brifysgol ei sefydlu ym 1884 trwy gyfraniadau gan chwarelwyr a ffermwyr lleol a oedd am roi cyfle i bobl gogledd Cymru gael mynediad at addysg uwch. Mae’r ysbryd uchelgeisiol hwnnw a roddodd fod i’r brifysgol yn parhau heddiw ac rwy'n falch iawn o ddweud ein bod ni yn gymaint rhan o'r gymuned leol ag y buom erioed.
A phan fo prifysgol yn rhan o gymuned, fel yr ydym ni, gall ymateb i anghenion y gymuned honno. Dyna pam, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gwleidyddion lleol, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y bu i ni sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn 2023. Er mai hon yw un o ysgolion meddygol mwyaf newydd y gwledydd hyn, mae'n adeiladu ar sylfeini cadarn oddi fewn i sefydliad ac iddo hanes hir o ymwneud â meysydd meddygaeth a biofeddygaeth. Roedd sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn gydnabyddiaeth o'r angen a deimlid yn lleol am weithwyr gofal iechyd hyfforddedig, ymroddedig a hynod fedrus. Mae'n amlwg bod hyfforddi a recriwtio ychwaneg o staff meddygol i weithio yng ngogledd Cymru yn hanfodol os am sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau'r GIG yn yr ardal.
Ond dim ond dechrau'r stori oedd sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, nid y dyhead terfynol. Rydym yn adeiladu ar y datblygiad hwnnw drwy'r amser, gan gyrraedd cerrig milltir newydd a gwthio'r sefydliad yn ei flaen. Yn ddiweddar, fe wnaethom lansio gradd Meistr newydd mewn Fferylliaeth (MPharm), cwrs a gynlluniwyd i feithrin y genhedlaeth nesaf o fferyllwyr ac a sefydlwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dyma garreg filltir bwysig arall i ni wrth i ni hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr, ymchwilwyr ac arweinwyr iechyd. Gyda chefnogaeth lawn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fe gychwynnom ar y daith i ddatblygu rhaglen Fferylliaeth ym mis Gorffennaf 2021.
Bellach mae gennym eisoes dros 30 o fyfyrwyr wedi cofrestru yng ngharfan gyntaf y rhaglen MPharm a'r uchelgais yw cynyddu'r nifer bob blwyddyn nes bod capasiti i gofrestru hyd at 100 o fyfyrwyr bob blwyddyn. Cyn hyn, byddai'n rhaid i fyfyrwyr o ogledd Cymru fod wedi edrych y tu hwnt i’r ardal leol i gael cymhwyster o’r fath. Nawr gallant aros yn eu bro wrth iddyn nhw ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i hyrwyddo iechyd a llesiant eu cymuned leol. Bydd ein rhaglenni gradd heriol, sy'n seiliedig ar ymchwil, ac a addysgir gan staff academaidd profiadol a hynod gymwysedig, yn grymuso ein myfyrwyr i ddod yn raddedigion gwybodus, cyflogadwy ac arloesol.
Ond yn fwy na hynny, bydd ein myfyrwyr yn dechrau gwneud cyfraniad hyd yn oed cyn iddynt raddio, wrth fynd allan i fferyllfeydd cymunedol, ysbytai a meddygfeydd teulu lleol ar leoliad gwaith. Yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru rydym eisoes yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd gogledd Cymru, wrth inni ymgorffori ein myfyrwyr yn rhan o gymunedau lleol er mwyn iddynt gael ennill profiad clinigol hanfodol. Peidied neb â chymryd ei dwyllo, mae hyn eisoes yn hwb mawr i wasanaethau lleol a dydyn ni ond megis dechrau.
Rhywbeth sy’n greiddiol i’n cenhadaeth yw ymrwymiad i wasanaethu'r gymuned leol. Dyna pam bod meithrin cymhwysedd ieithyddol a diwylliannol ymarferwyr meddygol a gofal iechyd yn un o’n prif nodau, yn enwedig lle mae’r Gymraeg yn y cwestiwn. Nid trwy hap a damwain yr ydym yn mynd ati i ymgorffori ymwybyddiaeth iaith ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn rhan o ymchwil ac ymarfer ym meysydd meddygaeth, iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn medru ymateb yn sensitif i anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg.
Ym Mangor rydym yn hynod falch ein bod yn brifysgol sydd â dylanwad byd-eang. Ond heddiw, fel erioed, mae effaith fyd-eang yn dechrau wrth ein traed. Bydd y myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i estyn allan i'r gymuned leol, ac ymgysylltu â hi. Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn profi y gallwn fwrw gwreiddiau yn ein cymunedau ein hunain wrth i ni ehangu ein cyrhaeddiad yn fyd-eang.