Mae'r tîm ymchwil rhyngwladol o fri ar gyfer y project arloesol POLOMINTS - dan arweiniad y British Antarctic Survey (BAS), yn cynnwys myfyrwraig PhD o Brifysgol Bangor, Kate Retallick.
Cyn ymddeol, roedd Kate, a ddaw o Benmachno, ger Betws-y-Coed, yn Swyddog y Llynges Frenhinol. Aeth ar y daith ar fwrdd Llong Ymchwil Frenhinol Sir David Attenborough, ac mae bellach yn aros yng Ngorsaf Ymchwil Rothera ar Benrhyn yr Antarctig.
Mae gyrfa Kate wedi mynd â hi ledled y byd i wneud arolygon hydrograffig i wella diogelwch mordwyo a gwneud ymchwil wyddonol. Mae hi wedi darganfod llongddrylliadau nas canfuwyd o'r blaen wrth weithio yn y Dwyrain Pell, wedi osgoi môr-ladron yng Nghefnfor India ac wedi mapio traethau a morydau bas o amgylch y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Kate Retallick, sy'n gwneud ei PhD yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, "Mae'n fraint gweithio mewn lle mor anhygyrch lle mae cymaint na wyddwn ni amdano o hyd." Mae archwilio prosesau mewn ffiordau’r Antarctig yn gymhleth gan fod llawer o newidynnau sy'n rhyngweithio ond yn y pen draw yn cael effaith bellgyrhaeddol pan ystyriwch y nifer fawr o ffiordau ar draws y cyfandir. Rwy'n gyffrous iawn i gael y cyfle hwn i ddefnyddio fy hyfforddiant proffesiynol gan ddefnyddio ecoseinwyr aml-belydr mewn cyd-destun gwyddonol i archwilio sut mae siâp tanddwr y rhewlif yn effeithio ar brosesau ymrannu a chynhyrchu tswnamïau mewnol. Rwy'n hynod ddiolchgar i Brifysgol Bangor a’r British Antarctic Survey am wneud y gwaith hwn yn bosibl, ac rwy'n edrych ymlaen at gynhyrchu canlyniadau cyffrous.
Dywedodd goruchwyliwr PhD Kate, yr Athro Katrien Van Landeghem, “Fel rhan o’r project POLOMINTS cyffrous iawn hwn, mae’r cyntaf o ddwy ymgyrch maes yn Antarctica newydd ddod i ben. Teithiodd Kate i Benrhyn Gorllewin yr Antarctig ar yr RRS Sir David Attenborough, un o'r llongau ymchwil mwyaf datblygedig yn y byd sy’n teithio i’r ardaloedd pegynol. Mewn tymereddau rhewllyd ac amgylcheddau heriol gyda mynyddoedd iâ o gwmpas, aeth Kate yn agosach at yr iâ ymylol gyda'r cwch gwaith llai, Erebus, i gasglu data acwstig o flaen yr iâ gan ddefnyddio offer sonar o'r radd flaenaf Prifysgol Bangor. Gyda'r data hwn bydd hi'n gwneud mapiau o siâp y rhewlif sy'n ymrannu'n weithredol yr holl ffordd i wely'r môr, a bydd y mapiau hyn yn helpu'r tîm i ymchwilio i sut mae'r amgylchedd ffisegol a biolegol yn newid pan fydd bloc mawr o'r rhewlifoedd hynny'n torri i ffwrdd ac yn cwympo i'r cefnfor ac yn cynhyrfu'r dŵr.
Mae project POLOMINTS (POLar Ocean Mixing by INternal Tsunamis) yn gydweithrediad a arweinir gan y British Antarctic Survey, ac mae’n cynnwys Prifysgol Bangor, y Scottish Association for Marine Science, Prifysgol Southampton, Prifysgol Leeds, y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, a Phrifysgol Caerwysg. Daw’r partneriaid rhyngwladol o’r Scripps Institution of Oceanography (America), yr Institute of Geophysics of the Polish Academy of Sciences (Gwlad Pwyl), Prifysgol Delaware a Phrifysgol Rutgers (ill dwy yn America).
Cyllidir POLOMINTS gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol