Modiwl SCU-2012:
Cymdeithaseg Cerddoriaeth
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Amcanion cyffredinol
Archwilia’r cwrs hwn faes cymdeithaseg cerddoriaeth yng Nghymru heddiw. Yn ogystal â rhoi gwybodaeth graidd am ystyr, cyd-destun a datblygiad hanesyddol y term – gan gyfeirio at ymchwilwyr arloesol yn y maes e.e. Adorno, DeNora ayyb – edrychir yn benodol ar bwysigrwydd cerddoriaeth mewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol yn yr oes sydd ohoni.
Rhoddir gwedd Gymreig i’r modiwl, gan edrych yn benodol ar y defnydd o gerddoriaeth wrth fynegi hunaniaeth yng Nghymru yn ogystal â diwylliannau lleiafrifol Ewropeaidd eraill.
Cynnwys cwrs
Er mwyn cyflawni’r deilliannau dysgu uchod, bydd y themâu a ganlyn yn cael eu trafod:
1. Beth yw Cymdeithaseg Cerddoriaeth?
2. Cyd-destun hanesyddol Cymdeithaseg Cerddoriaeth.
3. Pwysigrwydd cerddoriaeth mewn bywyd cymdeithasol (gan edrych ar y lleol a’r byd-eang [‘glocal’].
4. Cerddoriaeth a hunaniaeth yng Nghymru.
5. Pwysigrwydd cerddoriaeth mewn diwylliannau lleiafrifol yn Ewrop.
6. Cerddoriaeth mewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol (gan gynnwys chwaraeon, siopa/marchnata, gwasanaethau crefyddol a phrotestiadau).
Meini Prawf
trothwy
Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o brif theorïau a phersbectifau ym maes Cymdeithaseg Cerddoriaeth. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth sylfaenol o ddatblygiadau hanesyddol y maes gan gyfleu dealltwriaeth sylfaenol o berthynas Cerddoriaeth a Chymdeithaseg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio cysyniadau allweddol gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth sylfaenol.da
Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth dda o brif theorïau a phersbectifau ym maes Cymdeithaseg Cerddoriaeth. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth dda o ddatblygiadau hanesyddol y maes gan gyfleu dealltwriaeth dda o berthynas Cerddoriaeth a Chymdeithaseg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio a dadansoddi cysyniadau allweddol y maes gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig o safon da sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth briodol gywir.ardderchog
Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth feirniadol a gwreiddiol o brif theorïau a phersbectifau ym maes Cymdeithaseg Cerddoriaeth. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth feirniadol, aeddfed a thrylwyr o ddatblygiadau hanesyddol y maes gan gyfleu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol a gwreiddiol o berthynas Cerddoriaeth a Chymdeithaseg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio, dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol cysyniadau allweddol gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig o safon arbennig sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth gynhwyfawr, eang a threfnus ei naws.Canlyniad dysgu
- Datblygu’r sgiliau i fynegi a chyfathrebu syniadau yn effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan bwysleisio’r gallu i gynnal dadl gytbwys yn wrthrychol.
- Datblygu sgiliau trafod ymchwil academaidd ar wahanol agweddau o gymdeithaseg Cerddoriaeth:
- Cymhwyso’r themâu ymchwil hyn (uchod) ar gyfer y cyd-destun Cymreig, gan ddeall y berthynas rhwng cerddoriaeth a’r hunaniaeth Gymreig:
- Ymdrin a gwerthuso prif themâu ymchwil a damcaniaethau cymdeithaseg Cerddoriaeth;
- Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o hanes a datblygiad maes Cymdeithaseg Cerddoriaeth;
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cyflwyniad LLafar | 30.00 | ||
Aseiniad 2500 o eiriau | 70.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Darlithoedd – 1 awr yr wythnos am 12 wythnos; Seminarau – 1 awr yr wythnos am 10 wythnos; Gweithdai – 1 awr yr wythnos am 5 wythnos. |
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 2 (BA/CCCJ)
- M93B: BA Criminology & Criminal Just (4yr with Incorp Foundation) year 2 (BA/CCJ1)
- M931: BA Criminology & Criminal Justice with International Exp year 2 (BA/CJIE)
- M930: BA Criminology & Criminal Justice year 2 (BA/CRIM)
- V100: BA History year 2 (BA/H)
- VV41: BA Herit, Archae & Hist year 2 (BA/HAH)
- VV42: BA Heritage, Archaeology & History with International Exp year 2 (BA/HAHIE)
- V1V9: BA History with Archaeology with International Experience year 2 (BA/HAIE)
- V1V4: BA History with Archaeology year 2 (BA/HAR)
- V10F: BA History [with Foundation Year] year 2 (BA/HF)
- 8B03: BA History (with International Experience) year 2 (BA/HIE)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 2 (BA/HSW)
- V140: BA Modern & Contemporary History year 2 (BA/MCH)
- V130: BA Mediaeval and Early Modern His year 2 (BA/MEMH)
- L401: Polisi Cymdeithasol year 2 (BA/PC)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 2 (BA/PCCCJ)
- L300: BA Sociology year 2 (BA/S)
- L31B: BA Sociology (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (BA/S1)
- L30F: BA Sociology [with Foundation Year] year 2 (BA/SF)
- 8Y70: BA Sociology (with International Experience) year 2 (BA/SIE)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 2 (BA/SPWH)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 2 (BA/SPWWH)
- L3LK: BA Cymd gyda Phol Cymd year 2 (BA/SSPW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 2 (BA/SWWH)
- VV12: BA Welsh History/History year 2 (BA/WHH)
- V102: MArts History with International Experience year 2 (MARTS/HIE)
- V101: MArts History year 2 (MARTS/HIST)