Modiwl CXC-1026:
Golwg ar Lenyddiaeth 2
Golwg ar Lenyddiaeth 2 2022-23
CXC-1026
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Jerry Hunter
Overview
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i brif themâu a chysyniadau hanesyddol a llenyddol y cyfnod o ddiwedd yr Oesau Canol i ddechrau cyfnod Moderniaeth. Bydd yn ymwneud â’r prif feysydd a ganlyn, gan astudio detholiad o awduron a gweithiau allweddol yn eu cyd-destunau:
- Y Diwygiad Protestannaidd; o fyd y llawysgrif i fyd y llyfr print
- Y Dadeni a Dyneiddiaeth; dirywiad y traddodiad barddol
- Y Diwygiad Methodistaidd
- Diwylliant poblogaidd a thorfol y Gymraeg
- Yr Ymoleuo a thwf Rhyddfrydiaeth
- Rhamantiaeth
Assessment Strategy
-threshold -(D-): TrothwyBydd myfyrwyr trothwyol (graddau D isel) yn arddangos rhychwant o wybodaeth briodol – neu ddyfnder priodol – mewn o leiaf rannau o’r maes perthnasol, a byddant yn llwyddo’n rhannol o leiaf i greu dadlau sy’n mynd i’r afael â’r pynciau a drafodir. Bydd iaith eu mynegiant efallai’n ansicr ar adegau.
-good -(B): Da Bydd myfyrwyr da (graddau B) yn arddangos galluoedd sicr yn yr holl agweddau a nodwyd yn y paragraff uchod, gan gynnwys safon eu hiaith ysgrifenedig a llafar.
-excellent -(A): Rhagorol Bydd myfyrwyr ardderchog (graddau A) yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â dyfnder arbennig yn eu gwybodaeth a/neu gywreinrwydd eu dadansoddi. Dangosant hefyd wreiddioldeb yn eu gwaith darllen a dehongli. Byddant yn mynegi eu hunain mewn iaith cywir a datblygedig.
Learning Outcomes
- Yn medru deall a defnyddio geirfa berthnasol a gyflwynir yn ystod y modiwl.
- Yn medru traethu yn glir ac yn ddealladwy ar lafar am y llenyddiaeth dan sylw.
- Yn medru traethu yn glir ac yn ddealladwy yn ysgrifenedig am y llenyddiaeth dan sylw.
Assessment method
Oral Test
Assessment type
Crynodol
Description
cyflwyniad llafar yn y dosbarth
Weighting
20%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
65%
Assessment method
Class Test
Assessment type
Crynodol
Description
Profion geirfaol
Weighting
15%