Modiwl CXC-2029:
Chwedlau'r Oesau Canol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Mwynhau a gwerthfawrogi rhai o gyfraniadau rhyddiaith pwysicaf yr iaith Gymraeg i lenyddiaeth Ewrop.
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r chwedlau 'brodorol' Cymraeg, sef rhai o gampweithiau llenyddiaeth yr Oesau Canol yn Ewrop gyfan. Bydd rhai o'r straeon eisoes yn gyfarwydd ichi - megis Pedair Cainc y Mabinogi a "Culhwch ac Olwen" - a chewch archwilio'n fanylach i'w hynodion llenyddol a syniadol.
Byddwn yn edrych ar y berthynas rhwng themâu'r chwedlau a chymdeithas yr Oesau Canol: sut maen nhw'n perthyn i'w cyfnod; a oes yma feirniadaeth o werthoedd y Gymru ganoloesol; beth yw eu gwerth fel propaganda wleidyddol). Wrth ofyn cwestiynau ynghylch diben a phwrpas y straeon, byddwn yn ystyried y berthynas rhwng 'myth' a 'chwedl' , a taflwn gipolwg ar y berthynas rhwng y deunydd hyn ac eiddo traddodiadau 'Celtaidd' eraill megis llenyddiaeth Iwerddon.
Wrth ofyn paham mae'r chwedlau hyn wedi aros yn berthnasol ac yn boblogaidd dros y canrifoedd, cawn gyfle i astudio gwreiddiau'r traddodiadau Ewropeaidd am y Brenin Arthur.
Meini Prawf
trothwy
dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith dangos gwybodaeth am rychwant o chwedlau Cymraeg yr Oesau Canol dangos gallu i ddadansoddi testunau llenyddol canoloesol dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
da
dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith dangos gwybodaeth dda am rychwant o chwedlau Cymraeg yr Oesau Canol dangos gallu da i ddadansoddi testunau llenyddol canoloesol dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
ardderchog
dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith
dangos gwybodaeth sicr am rychwant o chwedlau Cymraeg yr Oesau Canol
dangos gallu sicr i ddadansoddi testunau llenyddol canoloesol
dangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
dangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Canlyniad dysgu
-
Amgyffred prif nodweddion llenyddol y chwedlau 'brodorol'
-
Gwybod sut i ymateb yn feirniadol i ryddiaith Gymraeg yr Oesau Canol
-
Deall a dadansoddi rhai o nodweddion ieithyddol Cymraeg Canol.
-
Trafod a dadansoddi arddull rhai o'r chwedlau canoloesol.
-
Bwrw trawsolwg eang ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol lle y bo'n briodol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Aseiniad | 50 | ||
Arhol Cartref | 50 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 170 | |
Lecture | 2 awr darlith x 10 |
20 |
Seminar | 1 awr seminar x 10 |
10 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxc-2029.htmlRhestr ddarllen
Gw. Talis
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)