Modiwl HGC-3003:
Ail Danio'r Ddraig
Ail Danio'r Ddraig 2023-24
HGC-3003
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Mari Wiliam
Overview
Mae'r modiwl yma'n archwilio'r cerryntau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol a effeithiodd ar Gymru yn dilyn 1939. Yn greiddiol mae'n anelu i archwilio'r cysyniad o 'ail-danio'r ddraig'. I ba raddau y newidodd ac yr ail-ddyfeisiodd Cymru'i hun rhwng yr Ail Ryfel Byd a throad yr 21ain ganrif? Sut y gall cenedligrwydd Cymreig gael ei ddadansoddi yn ystod y degawdau hyn? Beth oedd ystyr go iawn y term 'Cymreig'? Bydd y gor-gyffwrdd rhwng Prydeindod a Chymreictod yn gyd-destun i'r archwiliad yma, yn arbennig mewn cyswllt â materion megis cenedlaetholdeb wleidyddol, dadwreiddiad economaidd, diwylliant poblogaidd a diwygiadau i'r wladwriaeth les. Anogir myfyrwyr i drafod cyflwr hanesyddiaeth Cymru, ac i ddehongli rôl pleidiau gwleidyddol, grwpiau pwysedd a phrotest wrth lunio'r Gymru fodern. Bydd themâu megis rhywedd, hîl, dosbarth cymdeithasol, trefoli, iaith, crefydd a therfysgaeth yn ganolog i'r dadansoddiad. Cyfarwyddir myfyrwyr sut i archwilio ffynonellau gwreiddiol, gan gynnwys erthyglau papur newydd, llenyddiaeth, ffotograffau, hysbysebion, cerddoriaeth, ffilm, hanes llafar a blogiau. Bydd y mathau o ffynonellau eilaidd a ddefnyddir ar y modiwl o natur rhyng-ddisgyblaethol, gan gyfuno hanes gyda gwyddorau cymdeithasol, anthropoleg, daearyddiaeth wleidyddol, gwyddor wleidyddol ac astudiaethau cyfryngau.
Bydd y seminarau ar y modiwl hwn ar gael yn Gymraeg a gellir cyfathrebu â'r cydlynydd modiwl yn Gymraeg. Gall myfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg neu'n Saesneg . Bydd y darlithoedd ar y modiwl yn Saesneg.
- Cymru a'r Ail Ryfel Byd
- Llymder y Pedwardegau (Austerity): Eira a glo
- O sgiffl i pync: newid cymdeithasol ac economaidd 1950-1980.
- 'Life in a Welsh Countryside': Y Gymru Wledig
- ' Sunny Rhyl': Twristiaeth, pasiantau a Chymreictod
- Cymru a Llafur
- Cymru'r Ceidwadwyr?
- Plaid Cymru and chenedlaetholdeb wleidyddol.
- Tafodau'r Ddraig : iaith ac hunaniaeth yng Nghymru.
- Meibion y Fflam?: protest, milwriaeth a mewnfudo
- Cymru'r 1980au (Streic y Glowyr, Thatcheriaeth ayyb)
- 'Bore da i Gymru?': Datganoli
- Bêb Blair'?: Gwleidyddiaeth, pop a chymdeithas wedi 1997.
- Taith maes: Taith un dydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i weld casgliadau archifol perthnasol i'r modiwl.
Learning Outcomes
- Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol ac ysgolheigaidd ar nodweddion penodol o'r cyfnod.
- Arddangos dealltwriaeth o newidiadau cymdeithasol,, gwleidyddol a diwylliannol yn ystod y cyfnod yng Nghymru.
- Deall a dilysu'r modd mae'r cyfnod wedi'i gyfleu mewn ffynonellau eilaidd penodol.
- Targedu'r cymlethdodau o ail-lunio'r gorffennol, a natur broblematig ac amrywiol astudio hanes cenedlaethol ac is-genedlaethol.
- Ymgyfarwyddo gydag ystod eang o ffynonellau gwreiddiol, gan ddeall eu harwyddocâd hanesyddiaethol.
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Bydd y dasg blog yn cael ei rhannu'n ddwy (oddeutu 1,250 gair yr un). Dylent gael eu cyflwyno gyda'i gilydd fel bwndel. Dylent fod wedi'u cyfeirnodi a dylai llyfryddiaeth fod ar gael. Mae angen ymgorffori hanesyddiaeth lle'n berthnasol. DYLAI MYFYRWYR BLWYDDYN 3 GYNNWYS FFYNONELLAU GWREIDDIOL YN EU BLOGIAU. Rhan 1 1. Detholwch UN person y teimlwch sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i Gymru yn y cyfnod wedi 1939, a lluniwch ddadl sy'n egluro pam y teimlwch fod yr unigolyn yma o bwysigrwydd hanesyddol. Rhan 2 2. Detholwch UN lle, nodwedd tirlun neu adeilad y teimlwch sydd wedi cal impact nodedig ar Gymu yn y cyfnod wedi 1939, a lluniwch ddadl sy'n egluro pam y teimlwch ei fod o bwysigrwydd hanesyddol.
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd oddeutu 2500 gair sy'n arddangos eich gallu i archwilio themâu ar y modiwl. Bydd detholiad o gwestiynau ar gael yn y llawlyfr modiwl, a byddwch yn dewis un i'w ateb. Dylai arddangos gafael dda ar hanesyddiaeth. DYLAI MYFYRWYR BLWYDDYN 3 GYNNWYS FFYNONELLAU GWREIDDIOL YN EU TRAETHAWD.
Weighting
50%