Modiwl PCC-1001:
Ysgrifennu Gwyddonol I
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Psychology
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Awel Vaughan-Evans
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn datblygu’r sgiliau craidd sydd eu hangen i gyfathrebu'n effeithiol mewn gwyddoniaeth yn gyffredinol, ac mewn seicoleg yn benodol. Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau gwyddonol myfyrwyr a’u hannog i deimlo'n hyderus yn eu gallu i ledaenu syniadau a chyfathrebu'n effeithiol o fewn y gymuned seicoleg.
Cynnwys cwrs
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu trosglwyddadwy ar y modiwl hwn. Bydd y modiwl yn cynnwys yr elfennau canlynol:
-
Lledaenu Gwybodaeth (DoI): Mi fydd myfyrwyr yn gwrando ar gyfres o ddarlithoedd ymchwil, cyn cyflwyno cynnwys y darlithoedd ar ffurf ysgrifenedig.
-
Ysgrifennu ar gyfer Gwyddoniaeth (WfS): Mi fydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu gwyddonol.
Yn gyffredinol, mi fydd y cwricwlwm yn cynnwys darlithoedd a seminarau am y pynciau canlynol: Arddull ysgrifennu APA, ysgrifennu'n gynnil a chlir, cyfeirnodi APA, a sgiliau meddwl critigol.
Meini Prawf
trothwy
D+ to D- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda rhai adrannau wedi eu disgrifio’n glir.
Ychydig o wallau strwythuro, ac ychydig iawn o wybodaeth berthnasol o’r maes a drafodwyd.
Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynwyd ychydig iawn o ddadleuon cywir a rhesymegol, a defnyddiwyd ffynonellau gwan i’w cefnogi.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos ychydig iawn o sgiliau meddwl critigol.
Cyflwyniad wan o’r gwaith, sy’n dilyn ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA, ac sy’n cyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn ffordd aneglur.
C- i C+
C+ to C Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad eithaf gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg o’r mwyafrif o’r prif adrannau, ond gydag ychydig o wendidau o ran eglurdeb a chynildeb. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n foddhaol.
Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynir dadleuon, ond roedd ychydig o gamddealltwriaeth / anghywirdeb, a ni chyflwynwyd y dadleuon yn gydlynol. Defnyddiwyd tystiolaeth wyddonol ddibynadwy i gefnogi’r dadleuon ar adegau.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol boddhaol.
Cyflwyniad boddhaol o’r gwaith, sy’n dilyn rhai o ganllawiau fformatio’r APA, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn foddhaol.
ardderchog
A** to A- Gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth fanwl o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad gwyddonol iawn o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o bob adran bwysig. Gwybodaeth berthnasol iawn o’r maes wedi ei strwythuro’n wych.
Astudio cefndirol amlwg iawn, gyda chyflwyniad clir o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy.
Dehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol rhagorol.
Cyflwyniad ardderchog o’r gwaith, sy’n dilyn canllawiau fformatio’r APA yn wych, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn hollol glir.
da
B+ to B- Gwybodaeth gref a dealltwriaeth dda o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o’r mwyafrif o’r adrannau pwysig. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n dda.
Astudio cefndirol yn amlwg ar adegau, gyda chyflwyniad o ychydig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ar y cyfan, ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy yn aml.
Ychydig o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol da.
Cyflwyniad da o’r gwaith, sy’n dilyn y mwyafrif o ganllawiau fformatio’r APA, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn dda.
Canlyniad dysgu
-
- Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfathrebu mewn gwyddoniaeth.
-
- Dangos ysgrifen wyddonol gymwys, gan ddefnyddio fformat, iaith, ac arddull sy'n addas ar gyfer mynegiant gwyddonol.
-
- Dangos dealltwriaeth glir o reolau fformatio’r APA, ynghyd ag arddull ysgrifennu a chonfensiynau gwyddonol.
-
- Cyflwyno gwybodaeth am un neu fwy o brif feysydd seicoleg mewn ffordd resymegol a gwybodus
-
- Trafod a gwerthuso rhai o'r materion critigol a dadleuol sy’n cael eu trafod yn y maes seicoleg ar hyn o bryd.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | WFS - Traethawd terfynol | Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd critigol sydd wedi ei gefnogi gan dystiolaeth wyddonol gyfredol. |
70.00 |
GWAITH CWRS | DOI - Crynodeb | Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu crynodeb o gynnwys cyflwyniad ymchwil a roddir yn ystod y modiwl. |
30.00 |
ASESIAD FFURFIANNOL | MCQ: Prawf mynedfa | Prawf amlddewis (MCQ) sydd wedi ei seilio ar ganllawiau'r APA. Rhaid i fyfyrwyr sgorio dros 80 er mwyn gallu cyflwyno eu traethawd terfynol. |
0.00 |
ASESIAD FFURFIANNOL | WFS - Drafft y traethawd | Drafft o draethawd a ddefnyddir ar gyfer sesiwn ffurfiannol. Mi fydd myfyrwyr yn addasu eu drafftiau ar ôl derbyn adborth yn y sesiwn. |
0.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Darlithoedd lledaenu gwybodaeth a chyflwyniadau ymchwil |
9 |
Workshop | Seminarau Ysgrifennu ar gyfer Gwyddoniaeth |
10 |
Private study | Mewn modiwl 10 credyd, disgwylir i chi weithio am 100 awr. Disgwylir i chi wario 70 awr yn astudio'r pynciau er mwyn cwblhau'r aseiniadau gwahanol a sicrhau eich dealltwriaeth. |
70 |
Tutorial | Mi fydd trefnydd y modiwl yn cynnal awr galw heibio bob wythnos yn ystod y tymor. |
11 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Be sensitive and react appropriately to contextual and interpersonal psychological factors.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/pcc-1001.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 1 (BA/APIS)
- MC98: BA Criminology/Psychology year 1 (BA/CRP)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 1 (BA/CYP)
- CQ83: BA English Language & Psychology year 1 (BA/ELPSY)
- R181: BA French with Psychology (with International Experience) year 1 (BA/FPIE)
- R1C8: BA French with Psychology year 1 (BA/FPSY)
- R2C8: BA German with Psychology year 1 (BA/GPSY)
- Q1C8: BA Linguistics and Psychology year 1 (BA/LP)
- CQ81: BA Psychology/Linguistics year 1 (BA/PL)
- CL83: BA Sociology/Psychology year 1 (BA/PS)
- CL84: BA Social Policy/Psychology year 1 (BA/SPP)
- C880: BSC Psych with Cl & Hlth Psych year 1 (BSC/PHS)
- C88B: BSc Psychology w Clin & Health Psy (4yr with Incorp Found) year 1 (BSC/PHS1)
- 8X44: BSc Psychology with Clinical & Health Psychology (Int Exp) year 1 (BSC/PHSIE)
- C804: BSc Psychology (with International Experience) year 1 (BSC/PIE)
- C800: BSC Psychology year 1 (BSC/PS)
- C81B: BSc Psychology (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BSC/PS1)
- C813: BSc Psychology with Forensic Psychology year 1 (BSC/PSYFP)
- C801: BSC Psychol w Neuropsychol year 1 (BSC/PSYN)
- C83B: BSc Psychology with Neuropsychology (4yr with Incorp Found) year 1 (BSC/PSYN1)
- C809: BSc Psychology with Neuropsy (with International Experience) year 1 (BSC/PSYNIE)
- 2R87: BSc Psychology with Business year 1 (BSC/PWB)
- C82B: BSc Psychology with Business (4yr with Incorp Foundation) year 1 (BSC/PWB1)
- 2R88: BSc Psychology with Business with International Experience year 1 (BSC/PWBIE)
- C808: MSci Psychology with Clinical & Health Psychology year 1 (MSCI/PHS)
- C807: MSci Psychology year 1 (MSCI/PS)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- N5C8: BSc Marketing with Psychology year 1 (BSC/MP)
- C680: BSc Sport and Exercise Psychology year 1 (BSC/SEXP)