Modiwl PCC-3001:
Prosiect
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Psychology
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Awel Vaughan-Evans
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw rhoi profiad uniongyrchol o gynnal ymchwil seicolegol i fyfyrwyr. Bydd hyn yn datblygu eu sgiliau o ran casglu ac adolygu llenyddiaeth, dylunio arbrofion, casglu data, a dadansoddi a dehongli data. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cynllunio, eu sgiliau trefnu, a'u gallu i gydweithio gydag eraill.
Cynnwys cwrs
Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â phob agwedd o'r broses ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofion, ystyried materion moesegol, profi cyfranogwyr, dadansoddi data, ac ysgrifennu adroddiadau ymchwil.
Meini Prawf
trothwy
• Gwybodaeth am feysydd ymchwil allweddol / egwyddorion yn unig • Gwendidau mewn dealltwriaeth o'r maes ymchwil • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio i gefndir y pwnc • Adroddiad ymchwil nad yw'n canolbwyntio ar y cwestiwn dan sylw a gyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael • Dadleuon wedi eu cyflwyno ond diffyg cydlyniad • Mae nifer o wallau ffeithiol /cyfrifiannol • Dim dehongliad gwreiddiol • Dim ond cysylltiadau pwysig rhwng pynciau yn cael eu disgrifio • Llawer o wendidau mewn cyflwyniad a chywirdeb
ardderchog
• Gwybodaeth gynhwysfawr o'r maes ymchwil • Dealltwriaeth manwl o'r maes ymchwil • Astudiaeth helaeth i gefndir y pwnc • Adroddiad ymchwil gyda strwythyr a ffocws ardderchog • Dadleuon wedi'u amddiffyn a'u cyflwyno'n rhesymegol • Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiannol • Dehongliad gwreiddiol • Cysylltiadau newydd rhwng testunau yn cael eu datblygu • Dull newydd i'r broblem ymchwil • Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl cywir
da
Gwybodaeth gref o'r maes ymchwil • Yn deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan o'r maes ymchwil • Tystiolaeth o astudio cefndir y pwnc • Adroddiad gyda strwythur da • Dadleuon a gyflwynir yn gydlynol i'w gilydd • Yn bennaf yn rhydd o wallau cyfrifiannol a ffeithiol • Mae rhai dehongliadau gwreiddiol cyfyngedig • Cysylltiadau amlwg rhwng testunau wedi eu disgrifio • Problemau wedi eu egluro gan ddulliau/ymagweddau cyfredol • Cyflwyniad da gyda chyfathrebu cywir
C- i C+
Gwybodaeth boddhaol o'r maes ymchwil • Yn deall prif elfennau'r maes ymchwil • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol • Adroddiad gyda strwythur boddhaol • Dadleuon yn cael eu cyflwyno, ond diffyg cydlyniad • Yn bennaf yn rhydd o wallau cyfrifiannol a ffeithiol • Nifer o wallau ffeithiol • Ychydig iawn o ddatrys problemau • Llawer o wendidau mewn cyflwyniad a chywirdeb
Canlyniad dysgu
-
Disgrifio a chymhwyso dulliau ymchwil sy'n berthnasol i faes penodol.
-
Trafod a gwerthuso canlyniadau astudiaethau o fewn cyd-destun y llenyddiaeth berthnasol.
-
Dangos y gallu i gyfathrebu ymchwil gwyddonol ar ffurf ysgrifenedig ac ar ffurf lafar (POPPS).
-
Dangos y gallu i grynhoi, a chyflwyno gwybodaeth am eich ymchwil gwyddonol ar ffurf lafar.
-
Dadansoddi dadleuon yn gritigol a chyfosod ymchwil mewn maes penodol.
-
Dangos dealltwriaeth o faterion moesegol y dylid eu hystyried wrth gynnal ymchwil seicolegol ac wrth ysgrifennu am yr ymchwil, a sicrhau fod yr ymchwil yn cyd-fynd â chanllawiau moesegol y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig.
-
Datblygu hyder wrth gyflwyno deunydd seicolegol ar ffurf lafar (POPPS).
-
Adnabod a chwblhau dadansoddiadau data addas.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
DISSERTATION | Traethawd hir / Dissertation | Dylech gyflwyno'r traethawd hir cyn hanner dydd. |
90.00 |
LLAFAR | Cyflwyniad llafar / Oral Presentation | Mae'r rhan yma o'r prosiect wedi ei rannu fewn i ddwy ran, sef POPPS a'r cyflwyniad llafar terfynol. Mae'r ddau ran werth 5% o'r radd lafar, ond mae POPPS yn cael ei farcio ar sail eithriad. Mi fydd y cyflwyniad llafar terfynol naill ai ar y 26ain neu'r 27ain o fis Mai. |
10.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Individual Project | Mae'r modiwl yn fodiwl 40 credyd, ac felly disgwylir i chi wario 400 awr ar y gwaith dros y ddau dymor. Dylech ddefnyddio'r amser yma i: - Adolygu'r llenyddiaeth perthnasol er mwyn sicrhau eich dealltwriaeth o'r maes ymchwil - Mynychu cyfarfodydd gyda'ch goruchwyliwr prosiect - Cynllunio'r prosiect ymchwil, gan gynnwys unrhyw ddeunyddiau perthnasol - Cynnal y prosiect a chasglu data - Dadansoddi a dehongli'r canlyniadau - Ysgrifennu drafftiau o'r rhagarweiniad, y dull, a'r canlyniadau a'u cyflwyno i'ch goruchwyliwr - Ysgrifennu'r traethawd hir - Paratoi a rhoi cyflwyniad llafar ar eich prosiect - Mynychu dosbarthiadau POPPS |
400 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Communicate psychological concepts effectively in oral form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Engage in effective teamwork for the purpose of collaborating on psychological projects.
- Be sensitive and react appropriately to contextual and interpersonal psychological factors.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Understand and investigate the role of brain function in all human behaviour and experience.
- Carry out empirical studies by operationalizing research questions, generating hypotheses, collecting data using a variety of methods, analysing data using quantitative and/or qualitative methods, and present and evaluate research findings (under appropriate supervision).
- Comprehend and use psychological data effectively, demonstrating a systematic knowledge of the application and limitations of various research paradigms and techniques.
- Use a range of statistical methods with confidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
- Use a variety of psychological tools, including specialist software, laboratory equipment and psychometric instruments.
- Be aware of ethical principles and approval procedures.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- 6S26: BSc Neuropsychology year 3 (BSC/NI)
- C804: BSc Psychology (with International Experience) year 4 (BSC/PIE)
- C800: BSC Psychology year 3 (BSC/PS)
- C81B: BSc Psychology (4 year with Incorporated Foundation) year 3 (BSC/PS1)
- 2R87: BSc Psychology with Business year 3 (BSC/PWB)
- C82B: BSc Psychology with Business (4yr with Incorp Foundation) year 3 (BSC/PWB1)
- 2R88: BSc Psychology with Business with International Experience year 4 (BSC/PWBIE)
- C807: MSci Psychology year 3 (MSCI/PS)