Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Medi 2020

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Gwybodaeth Covid-19

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Applicants
  • Current Students
  • Staff
  • Job Vacancies
  • Covid-19
My country:

Search

Close

Breadcrumb

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gwneud Cais

Sut i wneud cais

Archebwch brospectws ôl-raddedig

Archebu nawr

Ffair Ôl-raddedigion

Mwy o wybodaeth

Ffioedd Dysgu Ôl-radd

Edrychwch ar ein wybodaeth ffioedd dysgu

Modiwl WXC-3309:
Cerdd Mewn Iechyd a Lles

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Music, Drama and Performance

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 2

Trefnydd: Dr Gwawr Ifan

Amcanion cyffredinol

Wrth astudio’r modiwl hwn, byddwch yn:

• datblygu dealltwriaeth gadarn am y cyflyrau meddygol cyffredinol sydd yn cael eu trin mewn cyd-destun therapiwtig; • Datblygu deatllwriaeth gadarn am y sgiliau penodol sydd angen i gerddorion neu therapyddion cerdd eu harddangos wrth weithio mewn lleoliadau gofal iechyd. • Datblygu’r gallu i fynegi barn am effeithiolrwydd cerddoriaeth i hyrwyddo iechyd a lles mewn amrywiol feysydd. • Darllen a chasglu gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau yn ymwneud â cherddoriaeth mewn iechyd a lles mewn un maes penodol.

Cynnwys cwrs

Yn y modiwl hwn, bydd cyfle i ystyried yr effaith y gall cerddoriaeth ei gael mewn cyd-destun seicolegol, emosiynol a chymdeithasol, a’r cysylltiad rhwng cerddoriaeth, iechyd a lles o amrywiol safbwyntiau hanesyddol a diwylliannol. Byddwch yn dysgu am rai o’r prif ffyrdd y defnyddir cerddoriaeth er mwyn hybu lles. Byddwch hefyd yn ystyried a thrafod sut y defnyddir cerddoriaeth mewn amrywiol gyd-destunau therapiwtig, ac effeithiolrwydd cerddoriaeth i drin cyflyrau iechyd meddwl a ffisegol.

Meini Prawf

da

Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%) Y nodwedd allweddol yma yw’r gallu i lunio dadl glir gyda thystiolaeth briodol i’w hategu. Bydd y gwaith, felly, yn debygol o ddangos y gallu i ddeall y drafodaeth ar waith o gelfyddyd a chymhwyso’r wybodaeth honno at wahanol weithiau; cyfleu gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o’r testun yn ei gyfanrwydd, a gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach o feysydd mwy penodol; sgiliau medrus gyda llyfryddiaethau a throednodiadau; cyfathrebu syniadau a dadleuon yn effeithiol; gallu gweld problemau a gwrthddweud mewn darllen ffynonellol; cyfraniad meddylgar i drafodaethau llafar; sgiliau mewn arsylwi a dadansoddi. Gall gwaith Ail Ddosbarth Uwch gynnwys llawer o’r un nodweddion ag a geir mewn gwaith Dosbarth Cyntaf, ond byddant i’w gweld ar lefel lai annibynnol, neu gall y gwaith fod yn eithriadol o ran un o nodweddion Dosbarth Cyntaf ond yn sylweddol ddiffygiol mewn un arall.

trothwy

Methu: E ac is (0%-39%) Methir yn awtomatig ar lefel anrhydedd oherwydd: llên-ladrad; diffyg llyfryddiaeth (ac eithrio mewn achosion prin lle nad oes angen llyfryddiaeth), neu ddarparu llyfryddiaeth sy’n amlwg yn un ffug; diffyg troednodiadau/ nodiadau ar y diwedd (ac eithrio mewn achosion prin lle nad oes angen troednodiadau/nodiadau ar y diwedd); peidio â chyflawni deilliannau dysgu penodol y modiwl. Fel rheol, mae methu’n ganlyniad i ddiffyg astudio, diffyg gwybodaeth a/neu ddiffyg dealltwriaeth. Gall hefyd ddeillio o ddibynnu’n oddefol ac yn anghywir ar eich ffynonellau; anwybyddu cyfarwyddiadau a roddwyd mewn darlithoedd a thaflenni; trafod gwan a dryslyd sy’n dangos camddealltwriaeth neu anwybodaeth ddifrifol; dibynnu ar wybodaeth a gafwyd o’r blaen (er enghraifft ar gyfer Lefel A); ysgrifennu gwael iawn; mynegiant llafar annigonol; peidio â rhoi sylw i’r testun; mynegi barn neu safbwyntiau nad ydynt wedi’u harchwilio.

Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%-49%) Y cyrhaeddiad allweddol yw dangos gafael sylfaenol ar y testun dan sylw a’r math o ddeunydd a ddefnyddir. Fodd bynnag, cyfyngir y marc i’r lefel hon gan ffactorau megis: ailadrodd gwybodaeth yn foel, heb ddangos gwir ddealltwriaeth; dryswch wrth gyflwyno dadl sy’n dangos diffyg dealltwriaeth briodol o’r deunydd; methu â gwahaniaethu rhwng y perthnasol a’r amherthnasol; methu â deall syniadau’n iawn; cynnwys gwallau ffeithiol; sgiliau hynod ddiffygiol o ran llyfryddiaethau neu droednodiadau; mynegiant gwael; tawedogrwydd llafar; cyflwyno blêr.

C- i C+

Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%) Y prif gryfder sy’n gwarantu marc yn y categori hwn yw casglu corff rhesymol o ddeunydd perthnasol o ystod weddol eang o ddarllen neu ffurfiau eraill ar adalw gwybodaeth, sydd wedi’i gyflwyno mewn trefn eglur a’i fynegi’n ddealladwy. Nodweddion sy’n cyfyngu’r marc i’r lefel hon yw: dadleuon aneglur, neu ddadleuon sy’n ddiffygiol mewn rhyw ffordd; llyfryddiaeth neu droednodiadau cyfyngedig neu ddiffygiol; dealltwriaeth gyfyngedig o syniadau neu ddadl; tystiolaeth gyfyngedig o ddealltwriaeth neu wybodaeth eang o’r testun; ymrwymiad cyfyngedig i drafod ac aildrafod syniadau mewn trafodaethau llafar; tystiolaeth gyfyngedig o feddwl yn ddwys, mewn cyferbyniad â diwydrwydd syml.

ardderchog

Dosbarth Cyntaf: A- i A (70%-83%) Y nodwedd allweddol yma yw tystiolaeth o feddwl deallusol ac annibynnol gwirioneddol mewn trafodaeth sylweddol. Bydd gwaith ar y lefel hon yn debygol o ddangos bod yr ymgeisydd wedi cymryd yr awenau i wneud gwaith ymchwil y tu hwnt i’r ffynonellau amlwg; y gallu i werthuso ffynonellau a ddefnyddiwyd yn feirniadol; trafodaeth sylweddol a chlir; mynegiant caboledig mewn gwaith ysgrifenedig a llafar; gallu i gywain deunydd o wahanol ffynonellau at ei gilydd; sgiliau arsylwi a dadansoddi o’r safon uchaf; y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i egluro testunau cerddorol; arwyddion o wybodaeth eang y tu hwnt i ffiniau culion y testun dan sylw; y gallu i arwain trafodaethau llafar; y gallu i adnabod problemau neu groesddweud yn y testun a’u hwynebu’n rymus.

Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%) Mae gwaith ar y lefel hon yn hynod wreiddiol ac o safon sy’n cyrraedd safonau proffesiynol, neu sy’n agos at hynny. Bydd y gwaith hwn yn dangos, mewn modd cyson, yr holl nodweddion a restrwyd yng nghategori A-/A (70%-83%), ac o ansawdd mor uchel fel ei fod naill ai’n deilwng o gael ei gyhoeddi neu ddarlledu yn union fel ag y mae, neu gyda diwygiadau o ran ei gyflwyniad.

Canlyniad dysgu

  1. Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu arddangos gwybodaeth manwl a thrylwyr am y cyflyrau meddygol cyffredinol sy’n cael eu trin gan gerddoriaeth mewn cyd-destun therapiwtig.

  2. Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau academaidd yn ymwneud â’r defnydd o gerddoriaeth i hybu iechyd a lles mewn un maes penodol.

  3. Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu datblygu dadleuon beirniadol yn effeithiol a thrylwyr am effeithiolrwydd cerddoriaeth fel arf i hybu iechyd a lles.

  4. Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu cymhwyso modelau o ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso’n feirniadol a dadansoddi digwyddiad cerddorol mewn lleoliad gofal iechyd yn y gymuned, yn seiliedig ar eu harsylliadau personol ynghyd â llenyddiaeth academaidd berthnasol.

  5. Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth manwl ac aeddfed o’r sgiliau penodol sydd angen i gerddor proffesiynol neu therapydd cerdd eu defnyddio wrth weithio mewn lleoliadau gofal iechyd.

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
ADDRODDIAD Adroddiad

Gwnewch adroddiad adfyfyriol 1000 o eiriau, yn ateb y cwestiwn isod:

Gan gyfeirio at y digwyddiad cerddorol yn y lleoliad a fynychwyd, paratowch adroddiad i gynghori cerddorion y dyfodol am y gofynion penodol fydd yn eu hwynebu wrth iddynt weithio gyda’r henoed.

Bydd Darlith Wythnos 4 yn trafod ysgrifennu adroddiadau adfyfyriol mewn manylder, ac yn eich paratoi ar gyfer ysgrifennu’r adroddiad hwn.

25
TRAETHAWD Traethawd

Dewiswch UN o’r cwestiynau isod:

  1. Yn ôl y therapydd cerdd Juliette Alvin, ‘gallwn gydnabod Plato and Aristotle fel rhagflaenwyr therapi cerdd’. I ba raddau mae hyn yn wir?
  2. Disgrifiwch a gwerthuswch, gan gyfeirio at astudiaethau achos penodol, sut y gellir defnyddio cerddoriaeth i drin plant sy’n dioddef o barlys ymenyddol [Cerebral Palsy].
  3. Trafodwch yn feirniadol y modd y daeth ‘Effaith Mozart’ i boblogrwydd, gan werthuso i ba raddau y gellir honni fod tystiolaeth gadarn yn cefnogi theori ‘Effaith Mozart’.
  4. Gan ddefnyddio astudiaethau achos penodol, eglurwch y ddarpariaeth o gerddoriaeth sy’n cael ei gynnig i droseddwyr mewn carchardai NEU droseddwyr ag afiechyd meddwl. Defnyddiwch hyn i werthuso effeithiolrwydd defnyddio cerddoriaeth i hybu iechyd a lles troseddwyr.
  5. Rhowch amlinelliad o’r ddarpariaeth o gerddoriaeth ym maes iechyd a lles a gynigir yng Nghymru heddiw. Gwerthuswch y cynlluniau sy’n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd I ddatblygu’r arlwy hyn.

Dylai’ch traethawd gynnwys cyfeiriadau llawn gyda throednodiadau, llyfryddiaeth a (lle bo’n addas) disgyddiaeth, a dylai arddangos eich bod wedi cyrraedd y deilliannau dysgu a nodir uchod.

50
CYFLWYNIAD UNIGOL Cyflwyniad

Gwnewch gyflwyniad 10 munud ar destun penodol o faes cerddoriaeth, iechyd a lles.

Bydd cyfle i drafod a dewis testun o’ch dewis chi ar ddechrau’r modiwl ar gyfer eich cyflwyniad. Rhoddir rhyddid i chi ddewis maes o ddiddordeb penodol i chi. Fodd bynnag, bydd gofyn i fyfyrwyr Lefel 6 ddewis testun NA fydd wedi ei drafod yn y darlithoedd, ac agwedd sy’n gymharol newydd i faes cerddoriaeth mewn iechyd a lles

25

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Lecture

11 darlith wythnosol, 2 awr o hyd.

22
Seminar

11 seminar wythnosol, un awr o hyd.

11
Private study

Gwaith unigol, yn cynnwys: - Darllen a pharatoi atebion ar gyfer cwestiynau a osodir yn y dosbarth yn wythnosol. Bydd y gwaith yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer trafodaeth academaidd yn y dosbarthiadau wythnosol. - Ymchwilio a pharatoi ar gyfer yr aseiniadau.

167

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
  • Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
  • Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
  • Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
  • Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.

Sgiliau pwnc penodol

  • Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
  • Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
  • Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
  • Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
  • Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.

Adnoddau

Rhestrau Darllen Bangor (Talis)

http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-3309.html

Rhestr ddarllen

Gweler y rhestr ddarllen ar gyfer WXC 3187.

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Opsiynol mewn cyrsiau:

  • W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 3 (BA/ACC)
  • T103: BA Chinese and Creative Studies year 4 (BA/CHCS)
  • WPQ0: BA Creative Studies year 3 (BA/CST)
  • WPQB: BA Creative Studies (4 year with Incorporated Foundation) year 3 (BA/CST1)
  • WQ93: BA Creative Stds & English Lang. year 3 (BA/CSTEL)
  • WR91: BA French and Creative Studies year 4 (BA/CSTFR)
  • WR92: BA German and Creative Studies year 4 (BA/CSTG)
  • WR93: BA Italian and Creative Studies year 4 (BA/CSTITAL)
  • WW93: BA Creative Studies and Music year 3 (BA/CSTMUS)
  • WR94: BA Spanish & Creative Studies year 4 (BA/CSTSP)
  • 32N6: BA English Literature and Music year 3 (BA/ELM)
  • VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 3 (BA/HCAC)
  • VW13: BA History and Music year 3 (BA/HMU)
  • W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 3 (BA/MEE)
  • WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 4 (BA/MHIE)
  • W303: BA Music (with International Experience) year 3 (BA/MIE)
  • PW33: BA Media Studies and Music year 3 (BA/MSMUS)
  • RW13: BA Music/French year 4 (BA/MUFR)
  • WR32: BA Music/German year 4 (BA/MUGE)
  • WR33: BA Music/Italian year 4 (BA/MUIT)
  • W300: BA Music year 3 (BA/MUS)
  • WW38: BA Music and Creative Writing year 3 (BA/MUSCW)
  • WW36: BA Music and Film Studies year 3 (BA/MUSFS)
  • WR34: BA Music/Spanish year 4 (BA/MUSP)
  • VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 3 (BA/PRM)
  • QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
  • W304: BMus Music (with International Experience) year 3 (BMUS/MIE)
  • W302: BMUS Music year 3 (BMUS/MUS)
  • H6W3: BSc Electronic Engineering and Music year 3 (BSC/EEM)

Hafan

Astudio

  • Astudio Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

marchnata@bangor.ac.uk

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor