Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion

Newyddion: Gorffennaf 2020

Cylchlythyr PHD Cymru ESRC mis Gorffennaf 2020

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2020

Cyhoeddi ymchwil canser yn Science Advances

Mae canser yn glefyd sydd wedi cyffwrdd â ni i gyd, ac er ein bod bellach yn gwybod llawer am sut mae canserau'n datblygu ac yn tyfu, mae gennym lawer i'w ddysgu o hyd.  Un o'r prif ffactorau yn natblygiad canser a’i ymwrthedd i driniaeth yw ansefydlogrwydd genomau. Yn ei hanfod, mae hyn yn cynnwys newidiadau cyson i DNA genomig celloedd, gan gynnwys newidiadau i lythrennau'r cod genynnol ynghyd â newidiadau mwy amlwg megis dileu cromosomau, neu hyd yn oed symud darnau mawr o DNA o un cromosom i'r llall. Mae gwaith Dr Chris Staples, sy’n Gymrawd Arweinydd y Dyfodol UKRI, yn labordy’r North West Cancer Research Institute (yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor) yn canolbwyntio ar sut mae celloedd fel arfer yn atal ansefydlogrwydd genomau o'r fath rhag digwydd.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2020

Arbenigwr o Fangor yn cynghori ar fod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau

Mae'r gwersi a ddysgwyd o ymateb i argyfyngau iechyd cyhoeddus yn tueddu i fynd o'r cof, ac mae cyllid iechyd cyhoeddus a blaenoriaethau ymchwil yn newid.

Dyna pam y galwyd ar arbenigwr o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor i ymuno ag adolygiad Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau o gyflwr presennol y dystiolaeth ar gyfer bod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus (PHEPR) yn yr Unol Daleithiau. 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2020

We discovered a new species, but war means it may now remain hidden forever

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Alec Moore o'r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020

Gall symud i ffwrdd oddi wrth gadwyni cyflenwi byd-eang ar ôl Covid roi hwb i economi Gogledd Cymru

Gall ymateb yn erbyn globaleiddio yn sgil argyfwng Covid-19 roi hwb i sector gweithgynhyrchu pwerus Gogledd Cymru gyda ffyniant mewn technolegau blaengar fel argraffu 3D yn rhoi hwb i'r adferiad, yn ôl arbenigwr.

Mae darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Jones, yn rhagweld y bydd mwy o fusnesau a llywodraethau eisiau cael eu cyflenwadau yn agosach at adref wrth iddynt ddod allan o'r misoedd o gyfyngiadau symud digynsail.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2020

Forest Research wins funding for collaborative research into oak tree health

 Datganiad i'r Wasg gan gorff allanol Forest Research, nid yw ar gael yn y Gymraeg

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2020

Datrys dirgelion gyda Grantiau Ymchwil Leverhulme

Bydd tri grant i Brifysgol Bangor yn galluogi gwyddonwyr i ddatrys rhai o ddirgelion gwyddoniaeth a chofnodi un o ecosystemau mwyaf amrywiol y ddaear.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020

Effaith newid yn yr hinsawdd ar allu marmotiaid i oroesi yn gwahaniaethu rhwng tymhorau

Mae llawer o anifeiliaid wedi esblygu cylch bywyd a strategaethau (patrymau goroesi ac atgenhedlu) yn unol ag amrywiaeth a ragwelir rhwng y tymhorau mewn amodau amgylcheddol. Mae hafau byr a mwyn yn cynhyrchu cyfnodau toreithiog o lystyfiant a bwyd, sef yr amser perffaith i roi genedigaeth i'r ifanc. Mae gaeafau hir a garw pan fo bwyd yn brin wedi gwneud anifeiliaid i ddibynnu'n helaeth ar gadw braster wrth gefn i gael egni, ac mewn achosion eithafol, i aeafgysgu neu fudo.

Fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd yn newid yr amodau tymhorol hyn y mae llawer o rywogaethau wedi'u haddasu iddynt. Mae'r tymheredd yn codi, llai o eira yn y gaeaf, eira'n toddi ynghynt, hafau'n ymestyn, a digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach (e.e. sychder, llifogydd)

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020

Y gwaith yn dechrau ar system y Deyrnas Unedig o amcangyfrif achosion COVID-19 mewn dŵr gwastraff

Bydd y gwyddonwyr yn datblygu system safonol i'r Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer canfod coronafirws mewn dŵr gwastraff, er mwyn rhoi rhybudd cynnar o achosion yn y dyfodol a lleihau'r ddibyniaeth ar wneud profion costus ar boblogaethau mawr.

Credir bod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi'u heintio â SARS-CoV-2 - y firws sy'n achosi'r clefyd COVID-19 - yn pasio'r firws yn eu carthion, hyd yn oed os nad oes symptomau ganddynt, ac felly credir bod craffu ar garthion yn ffordd addawol o adnabod mannau problemus yr haint at y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2020

Cymdeithas Ddysgedig Cymru Cylchlythyr: Mehefin 2020

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2020