Adnoddau Rheoli Newid Aber-Bangor
Tîm P3Mae Cynghrair Strategol Aber-Bangor gyda chyllid gan y Gronfa Arloesi a Thrawsnewid wedi datblygu project i ymdrin â materion yn ymwneud â phobl a pherfformiad a methodolegau main.
Mae newid mewn unrhyw amgylchedd yn llawn anawsterau, ond mae'r duedd bresennol tuag at ddefnyddio meddwl main wedi cael effaith sylweddol ac amlwg ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mae’r adolygiad a’r dadansoddiad gofalus o brosesau wedi talu ar ei ganfed, nid yn unig o ran gwella prosesau presennol, ond mae hefyd wedi cynnig dull o ddatblygu mentrau a gweithgareddau gweithredol newydd.
Ond wrth ganolbwyntio ar feddwl main, a ydym yn anwybyddu elfennau allweddol yn y broses o reoli newid? Wedi'r cyfan, pobl sy'n cyflwyno newid a chaiff perfformiad y bobl hynny ei ddylanwadu a'i effeithio gan amrywiaeth eang o ffactorau.
Wrth gwrs, mae llawer ohonom yn ymdrin â materion yn ymwneud â phobl a pherfformiad ar y cyd â phroses, er mewn gweithgareddau cyfochrog. Gwnaeth Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth gais i Gronfa Arloesi a Thrawsnewid y Sefydliad Arweinyddiaeth i archwilio methodoleg sy'n mynd i'r afael â'r holl ffactorau hyn mewn un model.
Mae project "P3" yn archwilio methodoleg a elwir yn dechnoleg perfformiad dynol (HPT) i weld a ellir ei haddasu i'w defnyddio ym maes addysg uwch. Gellir gweld y fethodoleg graidd fel model mawr a chymhleth ac mae wedi ei hadeiladu o amgylch y themâu "People, Process and Performance" - sy'n egluro teitl y project, sef P3. Fel prifysgolion dwyieithog, roeddem yn awyddus i ddod o hyd i enw i'r project sy'n gweithio yn y Gymraeg hefyd ac mae'r teitl yn berffaith yn hyn o beth, sef Pobl, Proses a Pherfformiad.
Yn y project hwn, mae'r timau llwyddiannus wedi mabwysiadu elfennau allweddol y fethodoleg i ddod â materion yn ymwneud â phobl a pherfformiad ynghyd â methodolegau main, tra'n datblygu model symlach wedi ei deilwra at anghenion addysg uwch yn y DU.
Mae'r model symlach wedi ei dreialu a'i fireinio trwy broject gyda thimau Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Mae'r project wedi cyflwyno meddalwedd, polisïau a phrotocolau newydd i'r gwaith o ddatblygu a chynnal rhestrau darllen. Dan y gynghrair rhwng y ddwy brifysgol, rydym yn gallu mynd i'r afael â'r deinamig ychwanegol o weithio ar draws dau sefydliad addysg uwch, paramedr arall i brofi'r fethodoleg wedi ei mireinio.
Mae'r gwerthusiad o'r fethodoleg hon gan y rhai sy'n cymryd rhan yn y project wedi nodi effaith gref a chadarnhaol yn y defnydd o'r fethodoleg ac mae wedi dal sylw pobl eraill sy'n arwain projectau newid yn y brifysgol ac mae cynlluniau clir i wneud defnydd pellach ohoni. Bydd adnoddau ar gael trwy wefan Cynghrair Strategol Aberystwyth-Bangor cyn bo hir (www.aberbangorstrategicalliance.ac.uk/p3)
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2015