Diflaniad tabŵs traddodiadol yn bygwth lemyriaid Madagascar

Lemur Indri: Llun Gan Rhett Butler. www.mongabay.comLemur Indri: Llun gan Rhett Butler. www.mongabay.comMae ynys Madagascar yn enwog drwy’r byd am ei hanifeiliaid unigryw, megis y lemyriaid. Gwarchodir llawer o rywogaethau prin gan gyfreithiau’r wlad. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod hela anghyfreithlon ar rywogaethau a warchodir yn digwydd ar raddfa fawr mae'n debyg a bod hynny'n fygythiad difrifol i fioamrywiaeth y wlad, sydd o bwysigrwydd byd-eang.   

Mae ymchwil gan dîm o Brifysgol Bangor a’r sefydliad Madagasikara Voakajy yn awgrymu bod hela rhywogaethau gwarchodedig yn nwyrain Madagascar ar gynnydd oherwydd newidiadau cymdeithasol cyflym. Yn draddodiadol roedd llawer o rywogaethau lemyriaid yn cael eu parchu gan fod llawer yn eu hystyried yn ysbrydion hynafiaid a gollwyd yn y goedwig. Er enghraifft, ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn byw o gwmpas y coedwigoedd yn breuddwydio am hela’r Indri, y lemwr mwyaf yn y byd. Yn ôl traddodiad roedd Indri wedi achub un o’u hynafiaid pan syrthiodd o goeden wrth gasglu mêl gwyllt yn y goedwig. Fe wnaeth hwnnw ddatgan wedyn y dylai rhywogaeth yr Indri gael ei gwarchod a'i pharchu am byth. Gwaetha’r modd, nid yw mwyngloddwyr aur anghyfreithlon, ac eraill sy’n symud i’r ardal, yn rhannu’r un gwerthoedd.   

Bachgen efo Indri wedi marwBachgen efo Indri wedi marwMeddai Julie Razafimanahaka o Madagasikara Voakajy : “Mae ein hymchwil yn awgrymu bod gan ddynion ifanc fwy o arian at eu dwylo a mwy o amser hamdden o ganlyniad i’r symud oddi wrth ffermio i chwilio am aur. Maen nhw wedyn yn treulio mwy o amser mewn bariau lleol, yn bwyta cig wedi’i ffrio efo’u diodydd. Mae’n ymddangos bod hela lemyriaid ar gynnydd i gyflenwi’r farchnad newydd yma. Mae’r hen dabŵs yn diflannu dan bwysau globaleiddio a phobl yn symud i mewn.”  

Aeth Julia Jones, o Brifysgol Bangor, ati i egluro ymhellach: “Mae bywyd gwyllt rhyfeddol Madagascar, yn arbennig ei lemyriaid byd enwog, yn eithriadol bwysig i ddyfodol y wlad. Maen nhw’n werth llawer mwy i’r economi’n fyw nag fel cig.  Dwi’n gwirioneddol obeithio y gall Madagascar ddatrys y broblem yma.”         

Mae deall y rhesymau dros y pwysau, yn ogystal â maint y broblem, yn hanfodol i ddatblygu mesurau priodol i amddiffyn lemyriaid a rhywogaethau brodorol eraill. Dangosodd yr ymchwilwyr ei bod yn well gan bobl fwyta cigoedd domestig, fel cyw iâr a phorc, na chig rhywogaethau’r goedwig, megis lemyriaid. Mae pobl yn bwyta bywyd gwyllt oherwydd cost uchel darparu cig domestig mewn ardaloedd gwledig.

Meddai Richard Jenkins o Brifysgol Bangor, un o awduron yr astudiaeth: ‘Byddai darparu dewisiadau eraill yn rhwyddach yn helpu'r sefyllfa. Os gellid ffermio anifeiliaid domestig yn fwy dibynadwy ac yn rhatach, efallai y byddai'r pwysau ar rywogaethau gwyllt yn lleihau. Mae angen mwy o ymdrechion i wella dulliau hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli clefydau arnynt yn ardaloedd y coedwigoedd glaw.’  

Er bod gan Fadagascar system glir o ddeddfau’n ymwneud â bywyd gwyllt, nid ydynt yn cael eu gweithredu’n gadarn mewn llawer o ardaloedd. Mae’r project wedi gweithio gyda llywodraeth yr ynys ar ymgyrch addysgol i helpu pobl i wybod am y deddfau sydd mewn grym a pha mor fregus yw rhywogaethau fel y lemyriaid prin. Efallai y gwnaiff yr ymgyrch arwain at werthoedd cymdeithasol newydd i gymryd lle’r hen dabŵs sy’n prysur ddiflannu. 

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2011