Uganda’n cael trafferth i lenwi’i phot mêl

Llongyfarchiadau i Gymdeithas y merched sy'n cadw gwenyn  yn Kitgum, ac yn eu defnyddio fel strategaeth i oroesi'r rhyfel. Dyma nhw efo'r ymchwilwyr  yn ystod ymweliad diweddar.Llongyfarchiadau i Gymdeithas y merched sy'n cadw gwenyn yn Kitgum, ac yn eu defnyddio fel strategaeth i oroesi'r rhyfel. Dyma nhw efo'r ymchwilwyr yn ystod ymweliad diweddar.Er bod potensial mawr i gynhyrchu mêl yn Uganda, nid yw nifer o  bobl sy’n cadw  gwenyn yno’n llwyddo i gynhyrchu a gwerthu digon o fêl i wneud bywoliaeth ohono.

Mae ymchwilwyr a fu’n cymharu economïau cartref ffermwyr ymylol yn Uganda wedi canfod bod mêl yn cyfrannu at incwm y cartref yn achos llawer sy’n cadw gwenyn, ond mae’r effaith yn gyfyngedig.  Rhoddwyd cychod gwenyn i gartrefi tlawd o fewn cymunedau, er mwyn iddynt wella eu bywoliaeth, o ystyried y diffyg gweithgareddau eraill  sydd ar gael iddynt greu incwm, ac effeithiau andwyol newid hinsawdd ar eu cynnyrch amaethu traddodiadol.

Mae’r ymchwil yn awgrymu y gall rhoi mwy o hyfforddiant parhaus i wenynwyr, ynghyd ag offer a chefnogaeth wrth ddefnyddio cychod gwenyn o fath gorllewinol, gynyddu’r cyfraniad i economi'r cartref a ddaw o gadw gwenyn. Rhoddwyd y rhan fwyaf o’r cychod gwenyn drwy elusennau neu asiantaethau llywodraeth.

Yn y cyfnodolyn PLOS ONE, mae’r awduron o Brifysgolion Bangor, Ghent a Makerere yn Uganda yn dod i’r casgliad y gall cadw gwenyn gyfrannu mwy tuag at incwm pe bai mwy o gefnogaeth barhaol i’r gwenynwyr, fel eu bod yn cael mwy o fudd o gadw gwenyn, ac y dylid monitro maint eu llwyddiant dros gyfnod hirach na’r presennol.

“Fel un sy’n cadw gwenyn fy hun, rydw i’n gwybod bod llawer i’w ddysgu am sut i reoli cychod gwenyn modern,” esbonia Dr Paul Cross o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor.

“O’n profiad ni, er mwyn i Uganda gyrraedd ei photensial ar gyfer cynhyrchu mêl, mae  angen mwy o gefnogaeth ar y ffermwyr bychain, fel dillad gwarchodol ac offer a hyfforddiant a chefnogaeth ymarferol, i’w galluogi i gael budd lawn o’r cychod gwenyn modern. Mae gan y rhain botensial i gynhyrchu mwy na’r cychod traddodiadol sy’n cael eu defnyddio hefyd.”

Mae Deborah Ruth Amulen, darlithydd ym Mhrifysgol Makerere, yn astudio am radd PhD gyda Phrifysgol Ghent, ac mae hefyd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor. Dywedodd Deborah:

Dyn sy'n cadw gwenyn yn ardal Kitgum yn dangos yr offer sydd ganddo i'w warchod tra'n  trin y gwenyn.: Llun Deborah AmulenDyn sy'n cadw gwenyn yn ardal Kitgum yn dangos yr offer sydd ganddo i'w warchod tra'n trin y gwenyn.: Llun Deborah Amulen“Mae yna obaith o hyd i gadw gwenyn yn Uganda, gan fod cryn ddiddordeb gan ffermwyr,   dim ond y cymysgedd cywir o gefnogaeth sydd ei angen i lwyddo. Yn ogystal, mae’r diweithdra uchel ymysg y cymunedau hyn yn golygu eu bod yn awchu am weithgaredd ystyrlon amgen, ac mae cadw gwenyn yn ddewis sy’n gweddu i ysbryd amaethyddiaeth sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd.”

Meddai Guy Smagghe o Brifysgol Ghent:

“Yn wir, mae potensial mawr, yn enwedig yng Ngogledd Uganda, i farchnata mêl fel mêl organig ar gyfer Ewrop. Byddai’r incwm ychwanegol yn cynnal cymuned gymdeithasol sefydlog.  Byddai’r cymunedau llwyddiannus y buom ni’n ymweld â hwy yn Kitgum, er enghraifft,  yn esiampl i’r holl ardal. Fodd bynnag, mae angen rhagor a gwell hyfforddiant parhaus mewn dulliau da o gadw gwenyn a monitro a rheoli heintiau.”

Ar hyn o bryd mae Uganda yn cynaeafu 1% yn unig o’r 500,000 tunnell o fêl y flwyddyn y byddai’n bosib ei hel.  Er bod y wlad yn un o ddim ond pum gwlad yn Affrica i’r de o’r Sahara, sydd â thrwydded i allforio mêl i’r Undeb Ewropeaidd, nid yw’r wlad yn cwrdd â’r galw domestig, heb sôn am allforio.

Cymharodd dadansoddiad economaidd-gymdeithasol y gwyddonwyr incwm cartrefi rhai a oedd yn cadw gwenyn gydag incwm cartrefi nad oeddynt yn cadw gwenyn o fewn yr un cymunedau. Roedd y rhai a oedd yn cadw gwenyn yn defnyddio naill ai gychod traddodiadol, neu ychydig o gychod gwenyn modern. Roedd  tystiolaeth yr ymchwil yn awgrymu bod y cychod wedi eu rhoi i’r ffermwyr ymylol mwyaf tlawd.

Eisampl o gychod gwenyn modern yn gorwedd heb eu defnyddio.Esiampl o gychod gwenyn modern yn gorwedd heb eu defnyddio.Roedd yn ymchwil yn dangos bod y cartrefi a oedd yn cadw gwenyn yn llai cyfoethog na’r rhai nad oedd yn cadw gwenyn, ac nad oedd y cychod gwenyn yn cyfrannu llawer at yr incwm teuluol,  sef 7% yn unig.  Nid oeddynt, hyd yma, yn llwyddo i gyrraedd y nod o gynyddu’r maeth a ddaw i’r cartref mewn gwlad lle’r ystyrir siwgr ac olew coginio’n eitemau moethus, na chynyddu’r incwm a ddaw i mewn. Awgryma’r ymchwil  bod hyn oherwydd diffyg gwybodaeth a bod angen gwneud ymdrechion pellach i gynyddu swm y mêl a gynhyrchir a thrwy hynny fedru ei farchnata’n llwyddiannus.

Nid yw cadw gwenyn ynddo’i hun yn ddigon i leddfu’r heriau economaidd sy’n wynebu’r ffermwyr tlotaf ac, os ydynt i lwyddo,  yna mae arnynt angen rhagor o hyfforddiant mewn rheoli cychod gwenyn.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2017