Enw
Sion Aled Owen
Swydd
E-bost
elp0d1@bangor.ac.uk
Ffôn
Lleoliad
Trefenai, Safle'r Normal

Dim ond iaith ysgol yw'r Gymraeg, ynte?

Dadansoddi'r rhesymau dros ddefnydd neu ddiffyg defnydd disgyblion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg o'r iaith y tu allan i'r dosbarth

Siôn Aled Owen, Jean Ware a Rhian Hodges
Yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol,
Prifysgol Bangor
elp0d1@bangor.ac.uk

Sail yr ymchwil
Wrth i ganran y siaradwyr Cymraeg ostwng drwy’r ugeinfed ganrif, ystyriai llawer addysg yn erfyn allweddol i warchod a hybu'r iaith. Ymddangosodd ysgolion cynradd Cymraeg o 1939 ymlaen gydag ysgolion uwchradd yn dilyn yn y 50au a daeth y Gymraeg yn bwnc gorfodol hyd at 16 oed yn holl ysgolion gwladol Cymru yn 2000.
Ond y broblem yw nad yw'r ffaith bod plant yn dysgu'r Gymraeg yn golygu y byddant yn defnyddio'r iaith y tu allan i'r ysgol. Bu twf rhyfeddol yn y canran o siaradwyr Cymraeg ymhlith plant 3 i 15 mlwydd oed ym 1991 a 2001 ond ni welwyd y cynnydd yn parhau i'r grŵp oedran nesaf.
Dangosodd sawl astudiaeth ar draws Cymru duedd plant i beidio â defnyddio'r Gymraeg, yn enwedig yn yr ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg yn amlwg yn y gymuned.

Methodoleg
Cesglir y data drwy gyfrwng holiaduron ar gyfer disgyblion, rhieni, athrawon, a gweithwyr cymunedol, gyda chyfweliadau manwl a grwpiau ffocws i ddilyn. Bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar bum ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd sy’n bwydo pob un o’r rheini. Bydd yr ysgolion o gategorïau gwahanol o addysg Gymraeg gyda chefndiroedd demograffig ac ieithyddol gwahanol. Bydd yr ymchwil hefyd yn cynnwys cymharu’r sefyllfa yng Nghymru â sefyllfaoedd eraill drwy’r byd lle defnyddir y gyfundrefn ysgolion i warchod ac i hybu’r defnydd o iaith leiafrifol megis Gwlad y Basg a thiroedd y Kahniakenhaka yng Nghanada.

Holi’r canlyniadau
• A yw’r agwedd gyffredinol ffafriol tuag at y Gymraeg a dwyieithrwydd a ganfu ymchwilwyr eraill hefyd yn amlwg yn y canlyniadau hyn?
• Pa mor bwysig yw agweddau ac arferion ieithyddol, rhieni, athrawon a gweithwyr cymunedol ar gyfer dylanwadu ar ddefnydd disgyblion o’r Gymraeg?
• Pa mor bwysig yw ffactorau cymdeithasol a chymunedol, er enghraifft, y ganran o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, y cyd-destun economaidd, bod yng nghefn gwlad neu ardal drefol?
• A yw’r canlyniadau hyn yn cael eu hadleisio mewn cyd-destunau tebyg y tu allan i Gymru?
• A oes strategaethau i hybu defnyddio’r Gymraeg sydd eisoes yn gweithio, ac os felly, pam?

Cyllid
Ariannir yr astudiaeth hon gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.