Dylunio Cynnyrch BSc (Anrhydedd)

Cod UCASW241
CymhwysterBSc (Anrhydedd)
Hyd3 blwyddyn
Modd AstudioLlawn amser

Rhagarweiniad i’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael trwy gyfrwng y Saesneg / This course is also available through the medium of English.

Bydd y cwrs gradd yma yn eich paratoi am yrfa werth chweil a llawn her mewn dylunio cynnyrch – gyrfa lle gellwch wneud gwahaniaeth.

Watch our video...

 

Ewch i’r dudalen yma i wybod mwy am y Ganolfan Dylunio a Thechnoleg. Cewch hefyd fwy o wybodaeth am y Ganolfan Dylunio a Thechnoleg ar ein tudalen Facebook neu drwy wylio ein fideos.

Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?

  • Mae’r Ganolfan Dylunio a Thechnoleg yn rhan o’r Ysgol Addysg.
  • Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi cael enw da cynyddol am gynhyrchu gwaith o safon uchel iawn, a arddangoswyd yn genedlaethol, ac wedi cael llawer iawn o sylw gan y cyfryngau.
  • Rydym hefyd yn ganolfan ranbarthol achrededig hyfforddi CAD/CAM.
  • Mae’r Ganolfan yn darparu llawer o gyfleusterau ac adnoddau, sy’n cynnwys cefnogaeth dechnegol dda a’r cyfleusterau TG diweddaraf.
  • Cymhareb staff/myfyrwyr ardderchog.
  • Bydd myfyrwyr yn cael credydau mewn CaD a meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith.

Ffeithiau Allweddol gan UniStats

Cynnwys y Cwrs

  • O leiaf 19 awr o amser cyswllt yr wythnos mewn darlithoedd/seminarau
  • Darllen, paratoi ar gyfer seminarau, cwblhau gwaith cwrs
  • Asesu elfennau Astudiaethau Proffesiynol drwy waith cwrs ac arholiadau
  • Asesiad parhaus o fodiwlau astudiaethau pwnc
  • Monitro profiad gwaith gan diwtoriaid
  • Tiwtorialau personol rheolaidd.

Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?

 

Mae’r cwrs yn cael ei lunio i roi sylfaen eang i chi mewn dylunio cynnyrch, a bydd yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd ymhob blwyddyn:

  • Astudiaethau Proffesiynol
  • Astudiaethau Pwnc (dau fodiwl)
  • Profiad Gwaith

Mewn Astudiaethau Proffesiynol, byddwch yn dysgu am y materion sy’n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch:

  • Sefydliadau a Rheolaeth
  • Rheoli Cynnyrch
  • Arloesi
  • Marchnata

Mewn modiwlau Astudiaethau Pwnc, byddwch yn dysgu am ddylunio a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a gewch drwy ddylunio cynnyrch a chynhyrchu/mireinio prototeipiau:

  • Egwyddorion Dylunio
  • Creadigrwydd
  • Cyfathrebu a Modelau Dylunio
  • Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
  • Cynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAM)
  • Sgiliau Cynhyrchu
  • Prototeipio
  • Datblygiad Cynaliadwy
  • Sgiliau Cyflwyno

Mae Profiad yn y Gweithle yn cynnwys 24 wythnos dros dair blynedd:

  • Bloc 8 wythnos yn ystod pob blwyddyn
  • Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol
  • Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt coleg
  • Cynhyrchu
  • Marchnata
  • Trefnu

Bydd project gradd y flwyddyn olaf yn dod â’r holl elfennau uchod ynghyd.

Cliciwch yma i lawr-lwytho manylion y rhaglen yn Gymraeg.

Cliciwch yma i lawr-lwytho manylion y rhaglen yn Saesneg.

Modiwlau y flwyddyn yma

Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar dudalen Modiwlau Dylunio Cynnyrch.

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymrwch olwg ar sut y gallwch chi wella eich cyflogadwyedd wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor yma.

Cyflogadwyedd a’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Mae cyrsiau a gynigir gan yr Ysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i rai sydd â diddordeb mewn addysgu, dylunio cynnyrch a gweithio gyda phlant.

Gall graddedigion hefyd edrych ymlaen at gyfleoedd mewn amrywiaeth o lwybrau gyrfa eraill. Gallai'r cyfleoedd gyrfa diddorol hyn gynnwys:

  • gwaith cymdeithasol
  • gofal plant
  • gwaith ieuenctid a chymunedol
  • cyhoeddi, newyddiaduraeth a'r cyfryngau
  • addysg amgueddfeydd ac orielau
  • llyfrgelloedd
  • gwasanaethau cyhoeddus
  • adnoddau Dynol
  • diwydiant

Profiad Gwaith a Gwirfoddoli

Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.

Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.

Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...

Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor

Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.

Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio

Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.

    Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:

  • Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
  • Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
  • Profiad gwaith ac interniaethau
  • Cyfleon Gwirfoddol

Gofynion Mynediad

Mynediad 2020:

TGAU: Iaith Saesneg C/4. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 80 o bwyntiau tariff o gymwysterau lefel 3* e.e:

  • Lefel A (yn cynnwys gradd C in mewn Dylunio a Thechnoleg neu bwnc Celf/Peirianneg)
  • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMP
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio
  • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.

*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com

 

Mynediad yn 2019:

  • 80-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3 mewn pwnc perthnasol. Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.

Mynediad yn 2018:

  • 80-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3 mewn pwnc perthnasol. Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.

Gofynion Mynediad Cyffredinol

Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach

Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.

I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com

Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.

Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.

Am fanylion pellach

E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk

Neu ysgrifennwch at:

Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2TF
Ffôn: 01248 383717 

Costau’r Cwrs

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud cais drwy UCAS

UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau

Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.

Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.

Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.

Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.

Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.

Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.

Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.

I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.

Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.

Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.

Ar ôl gwneud cais

Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.

Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.

Ansicr am eich camau nesaf?

Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.

 

Mwy o Wybodaeth

Cysylltwch â ni

Ffôn: 01248 382408

Ebost: addysg@bangor.ac.uk 

Pam dewis astudio yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

  • 1af yn y DU gyda 100% am foddhad myfyrwyr am Ddylunio Cynnyrch - NSS 2019
  • 12fed am Ragolygon Graddedigion - Guardian Good University Guide 2019
  • 9fed am Ansawdd Ymchwil - Complete University Guide 2019
  • Mae gan yr ysgol bartneriaethau cadarn gydag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd i ddarparu amgylcheddau hyfforddi amrywiol a chefnogol.
  • Mae gennym Ganolfan Ddylunio bwrpasol i hyfforddi athrawon Dylunio a Thechnoleg ac i ddysgu myfyrwyr gradd Cynllunio Cynnyrch.
  • Mae'r ganolfan yn cynnwys ystafell TG/ystafell ddarlithio gyda chyfarpar da, gweithdy gydag amrywiaeth gynhwysfawr o beiriannau a chyfarpar CNC, storfeydd a swyddfeydd.

Astudio ym Mangor

Gwobr Aur i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn  darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Ymysg yr 10 uchaf

Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) mae Bangor ymsyg y 10 prifysgol uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr.

Ystod eang o gyrsiau

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu a’n cyrsiau a darlithwyr wedi cael eu graddio yn y 10 uchaf yn y wlad (Gwobrau WhatUni? 2018).

Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU

Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.

Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2019!

Lleoliad heb ei ail

Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’.

Buddsoddiad mewn cyfleusterau

Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.

Sicrwydd o lety

Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Cafodd ein llety ei enwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018.

Profiad Myfyrwyr Bangor

Cyrsiau Cysylltiedig

Camau Nesaf