TAR Uwchradd - Mathemateg TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Rhagarweiniad

Ffeithiau’r cwrs

  • Enw: TAR Uwchradd - Mathemateg
  • Cymhwyster: TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)
  • Hyd: Blwyddyn

caban

Bydd AC yn deall mathemateg fel corff o syniadau a phrosesau rhyng-gysylltiediga byddant yn:

  • challenge pupils to think mathematically;
  • expose, and relate to, children’s existing knowledge;
  • stimulate pupils’ interest, curiosity, excitement and sustain engagement;
  • permit access to mathematics and tasks for all pupils;
  • use symbols, diagrams and apparatus to communicate, represent, and/or provide good models for thinking.”

Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.  Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. 

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Cynnwys y Cwrs

Anogir AC i fabwysiadu addysgeg gydweithredol, gan alluogi dysgwyr i ddysgu mathemateg yn rhyngweithiol ac yn ddeialogaidd yn ogystal â deall pwysigrwydd canolog cyfarwyddyd uniongyrchol. Byddant yn astudio sut mae damcaniaethau dysgu pwysig yn dylanwadu ar strategaethau addysgu; er enghraifft, bydd dealltwriaeth AC o ddamcaniaeth sgema Piaget yn llywio cynllunio tasgau sy'n hyrwyddo dealltwriaeth hirdymor yn hytrach na dysgu ar y cof.  Yn ogystal, trafodir pwysigrwydd cyd-destun, gan alluogi AC i ddeall cysyniad rhifedd a chysylltiadau trawsgwricwlaidd gyda phynciau uwchradd eraill. Caiff datblygiadau cyfredol mewn addysgu a dysgu mathemateg (ee meistrolaeth ) eu dadansoddi'n feirniadol, gan sicrhau bod ymarfer yn gyfoes a pherthnasol.

Gofynion Mynediad

  • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio.
  • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg (Iaith gyntaf), Llenyddiaeth Gymraeg. Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B/radd 5 mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).
  • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd.
  • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.   
  • IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen o dan 6.5)

Sut i Ymgeisio

Noder bod ymgeisio ar gyfer cwrs TAR yn wahanol i'r drefn ymgeisio am gyrsiau Ôl-radd eraill Prifysgol Bangor.

Dylid ymgeisio am gwrs TAR trwy wefan UCAS Teacher Training (UCAS TT).

Gyrfaeoedd a Chyflogadwyedd

Mae'r cwrs TAR Uwchradd gyda SAC hwn yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.  Mae'n eich paratoi'n llawn i weithio fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi at ystod eang o swyddogaethau ym maes addysg ac yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.  Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.  O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.  Mae'r arbenigedd hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.

Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.

Cysylltiadau â diwydiant:

Mae'r rhaglen wedi ei llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.

Ariannu

Cymhellion Hyfforddi i Athrawon

Gallai graddedigion sydd â graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at £20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.

Y pynciau blaenoriaeth yw:

  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Cyfrifiadureg
  • Ieithoedd Tramor Modern

Manylion llawn yma.

Gweler hefyd:

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Mwy o Wybodaeth

Cysylltu â ni

Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Ffôn : +44 (0) 1248 382408

Ebost: addysg@bangor.ac.uk

Cyrsiau Eraill

PGCE Secondary leading to the award of Qualified Teacher Status (Wales & beyond through the CaBan partnership)

TAR Cynradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Camau nesaf