Holl Newyddion A–Y
Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru
Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016
Labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear yn buddsoddi mewn ymchwilwyr doethurol
Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol (LNC) wedi cyhoeddi eu bod am noddi dau fyfyriwr PhD yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2021
Llwyddo yn y diwydiant niwclear
Yn ddiweddar mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor o Ogledd Cymru wedi cymryd camau breision at wireddu eu huchelgais o ddilyn gyrfa yn y diwydiant niwclear. Mae Lara Pritchard o Ddinbych, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau blwyddyn olaf ei gradd Daearyddiaeth , wedi cael cynnig swydd ddisglair i raddedigion gyda Horizon Nuclear Power a bydd yn dechrau yno ym mis Medi. Bydd Ilan Davies o'r Bala, a fydd yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gwrs Meistr Peiriannu Electronig pedair blynedd ym mis Medi, yn un o bump intern o'r Deyrnas Unedig a gaiff gyfle i weithio yn ninas Hitachi yn Japan am dri mis gyda Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016
Partneriaeth Prifysgol Bangor ar restr-fer Gwobr
Mae Pŵer Niwclear Horizon ar restr fer ar gyfer gwobr fawreddog Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori Gyrfaoedd i Raddedigion . Maent wedi eu rhestru am y cydweithio a gwaith ymgysylltu strategol rhyngddynt a Phrifysgol Bangor, gyda chymorth gan bartneriaid eraill megis y 'National Skills Academy for Nuclear', Rhaglen 'Nuclear Graduates’ a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, er mwyn codi proffil y diwydiant Niwclear, a'r cyfleoedd sydd ar gael ynddo i raddedigion, ymysg staff a myfyrwyr yn y Brifysgol
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2016
Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon yn llofnodi memorandwm i gydweithio
Mae Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon, sy'n eiddo i un o brif gwmnïau electroneg y byd Hitachi, wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithredu a chydweithio'n agosach mewn blynyddoedd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2015
Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi y North West Nuclear Arc Consortium, ac i gymryd rhan fel partneriaid mewn dau archwiliad arall. Bydd deuddeg Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi yn mapio cryfderau ymchwil, arloesi ac isadeiledd lleol. Bydd Prifysgol Bangor yn arwain archwiliad i'r North West Nuclear Arc Consortium, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, North West England LEPs, Dalton Institute Prifysgol Manceinion, a'r National Nuclear Laboratory.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017
Prifysgol Bangor yn Cynnal Seminar i drafod Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch
Mae Bangor yn falch o gyhoeddi mai hi yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal seminar technegol ar yr Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch - y dechnoleg a fydd yn cael ei defnyddio gan Horizon Nuclear Power yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2015
Prifysgol Bangor yn agor y sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru
Mae'r sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru wedi cael ei agor ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd y Sefydliad Dyfodol Niwclear gan ddefnyddio cyllid gan y Brifysgol, tra bo cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r fenter trwy raglen Sêr Cymru, sy'n helpu i ddenu ymchwilwyr o'r radd flaenaf i Gymru..
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017