Newyddion: Medi 2018

Lansio 'cyfeirlyfr unigryw ar gerddoriaeth Cymru'

Ar nos Iau, Medi 27ain, yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, cynhaliwyd digwyddiad i nodi lansiad cyfrol newydd a hynod arwyddocaol ym maes cerddoriaeth yng Nghymru. Ffrwyth prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, sef cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018